Argraffwyd yr Offeryn Statudol Cymreig hwn yn lle’r OSC sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol Cymreig hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
13 Rhagfyr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym
6 Ionawr 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(3)(a) a 175 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ionawr 2017.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; ac
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012(2).
3. Yn lle rheoliad 3 (cwestiynau a ffurflen yr arolwg) o Reoliadau 2012, rhodder—
3. At ddibenion adran 1(3)(a) o’r Mesur, mae’r cwestiynau a’r ffurf y maent i gael eu gofyn ynddynt wedi eu dangos yn—
(a)Rhannau 1, 2 a 4 o’r Atodlen os cynhelir yr arolwg yn unol ag adran 1(3A)(b) o’r Mesur; a
(b)Rhannau 1, 3 a 4 o’r Atodlen os cynhelir yr arolwg yn unol ag adran 1(3A)(a) o’r Mesur.”
4. Yn lle’r Atodlen i Reoliadau 2012 (Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru), rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2016
Rheoliad 4
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).
Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) i gynnal arolwg, drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig i gynghorwyr ac ymgeiswyr sydd wedi sefyll i gael eu hethol yn gynghorwyr i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol neu i gyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol. Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) ac mae’n darparu bod rhaid cynnal yr arolwg cyn neu ar ôl pob etholiad cyffredin ac i dynnu’r gofyniad i awdurdodau lleol wneud trefniadau i wybodaeth gael ei darparu yn ddienw.
Mae Rheoliadau 2012 yn rhagnodi’r cwestiynau y mae’n rhaid eu gofyn. Mae rheoliadau 3 a 4 yn diwygio Rheoliadau 2012 ac yn mewnosod arolwg newydd yn Rheoliadau 2012. Mae’r arolwg diwygiedig yn debyg i’r arolwg yn Rheoliadau 2012, gan ychwanegu cwestiynau unigryw sy’n cynnwys gwybodaeth adnabod y gellir eu defnyddio er mwyn canfod a oedd ymatebydd i’r arolwg wedi ei ethol yn gynghorydd. Mae’r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ofyn cwestiynau gwahanol yn dibynnu ar ba un ai cyn neu ar ôl etholiad cyffredin y cynhelir yr arolwg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.