2016 Rhif 236 (Cy. 88)
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 55(1)(c) a 59 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 20151, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn hwylus at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, neu o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf honno, wneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 a deuant i rym ar 1 Mai 2016.
RHAN 2Diwygio deddfwriaeth sylfaenol
Diwygio Deddf Dysgu a Sgiliau 20002
Yn adran 33N(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20002 yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—
“course of study” means a course of education or training that—
- a
leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
- b
is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;
Diwygio Deddf Addysg 20023
Yn adran 97 o Ddeddf Addysg 20023 yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—
“course of study” means a course of education or training that—
- a
leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
- b
is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;
RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 19924
Ym mharagraff 1(1)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 19924, fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle is-baragraff (iii) rhodder—
iii
a qualification which is awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;
Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 19945
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 19945, fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
“approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;
Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 19946
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 19946 yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
“approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;
Diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 19997
Yn rheoliad 22 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 19997, o fewn y diffiniad o “educational qualification” yn lle paragraff (f) rhodder—
f
a qualification which has been awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 20078
Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 20078 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
a
yn rheoliad 3, dileer y diffiniad o “cymhwyster perthnasol”;
b
yn rheoliad 5(2) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—
da
Cymwysterau Cymru;
dd
unrhyw gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru;
c
yn rheoliad 5(5) yn is-baragraff (d) dileer “ac”; a
d
yn rheoliad 5(5) ar y diwedd mewnosoder —
; ac
e
unrhyw gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod) a ddarperir i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol os yw—
i
y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati wedi ei chymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu wedi ei dynodi o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
ii
y cwrs wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 20099
Ar ddiwedd rheoliad 3(5) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 20099 ychwaneger—
x
Qualifications Wales.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 200910
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 200910 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;
b
yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac
c
yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 200911
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 200911 yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 201112
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 201112—
a
yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”; a
b
yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd.
Diwygio Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 201113
Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 201113 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”;
b
yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd; ac
c
yn y diffiniad o “lefel FfCC” hepgorer “perthnasol”.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 201114
1
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 201114 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—
“rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru o dan adran 22(3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;
3
Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;
4
Ym mharagraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
d
y dyddiad dyfarnu;
dd
y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
e
y rhif cymeradwyo (os oes rhif).
5
Yn lle paragraff 6 yn Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
d
y dyddiad dyfarnu;
dd
y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
e
y rhif cymeradwyo (os oes rhif).
Diwygio Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 201315
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 201315 yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—
ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—
- a
sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
- b
sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 201316
Ym mharagraff 13 o Ran 2 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 201316 yn lle is-baragraff (b) rhodder—
b
in relation to Wales, is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 201317
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 201317 yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn lle ““relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder ““cymhwyster” yn adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 201418
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 201418 yn y diffiniad o “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
Diwygio Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 201519
Yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 201519 yn y diffiniad o “further education course” ym mharagraff (b) yn lle is-baragraffau (ii), (iii) a (iv) rhodder—
ii
is funded by a local authority, or
iii
leads to a qualification awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 201520
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 201520—
a
ym mharagraff 1(18) o Ran 1 dileer “and”; a
b
ar ddiwedd paragraff 1(19) ychwaneger—
; and
20
Qualifications Wales.
Dirymu darpariaeth arbed mewn cysylltiad â chymwysterau sydd wedi eu hachredu at ddibenion Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 201521
Mae erthygl 13 o Orchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 201521 wedi ei dirymu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)