Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Hawliau apelio mewn cysylltiad â chofrestru neu gymeradwyo

12.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad a wnaed gan awdurdod gorfodi mewn cysylltiad ag—

(a)cymeradwyo sefydliad o dan Erthygl 13;

(b)atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 14;

(c)dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 15; neu

(d)diwygio cymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 16,

apelio i lys ynadon.

(2Bydd y weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i’r achos.

(3Y cyfnod pan ganiateir dwyn apêl o dan baragraff (1) yw un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o’r penderfyniad i’r person sy’n dymuno apelio, ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud cwyn am orchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

(4Pan fo llys ynadon, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), yn penderfynu bod penderfyniad yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i’r awdurdod roi effaith i benderfyniad y llys.

(5Pan fo cofrestriad wedi ei atal dros dro neu ei ddirymu, neu gymeradwyaeth wedi ei hatal dros dro neu ei dirymu, caiff y gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid a fu’n gweithredu’r sefydliad dan sylw yn union cyn y cyfryw ataliad dros dro neu ddirymiad, barhau i’w weithredu, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan yr awdurdod gorfodi er diogelwch iechyd y cyhoedd, oni bai—

(a)bod y terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu’r cofrestriad neu gymeradwyaeth wedi dod i ben, heb i apêl gael ei chyflwyno; neu

(b)pan ddygwyd apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw, bod yr apêl wedi ei phenderfynu’n derfynol neu y rhoddwyd y gorau iddi.

(6Nid oes dim ym mharagraff (5) sy’n caniatáu i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei weithredu os gosodwyd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid, hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid mewn perthynas â’r sefydliad hwnnw.

Back to top

Options/Help