xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Darpariaethau trosiannol

17.—(1Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y paragraffau hynny o Atodlen 5 i Ddeddf 2015 a restrir yn erthygl 4 yn gymwys i achosion a gychwynnir cyn 1 Mawrth 2016.

(2At ddibenion paragraff (1) ystyr “a gychwynnir” (“instituted”) yw—

(a)mewn perthynas ag adran 121 o Ddeddf Priffyrdd 1980, bod y cwestiwn o ba un a yw atal cydsyniad yn afresymol neu ba un a yw unrhyw ddarpariaeth yn rhesymol yn dod yn benderfyniad i Weinidogion Cymru;

(b)mewn perthynas ag adran 28F o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, bod apêl yn cyrraedd Gweinidogion Cymru;

(c)mewn perthynas ag adran 28L o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y gwneir apêl o dan adran 28L(1);

(d)mewn perthynas ag Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y cyflwynir gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau o dan baragraff 7 o’r Atodlen honno;

(e)mewn perthynas ag adran 175 o Ddeddf 1990, y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig am apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

(f)mewn perthynas ag adran 196 o Ddeddf 1990, y cyflwynir hysbysiad am apêl o dan adran 195 o Ddeddf 1990;

(g)mewn perthynas ag adran 208 o Ddeddf 1990, y rhoddir neu yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig am apêl;

(h)mewn perthynas ag adran 320 o Ddeddf 1990, y perir i ymchwiliad lleol gael ei gynnal;

(i)mewn perthynas ag achos y mae adran 322 o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 13 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, y gwneir y cais neu’r cyfeiriad neu y rhoddir yr hysbysiad am apêl;

(j)mewn perthynas ag achos y mae adran 322A o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal neu wneud trefniadau ar gyfer gwrandawiad neu ymchwiliad yn unol ag adran 319B o Ddeddf 1990;

(k)mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf 1990 y mae Atodlen 6 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;

(l)mewn perthynas ag Atodlen 8 i Ddeddf 1990, y gwneir cyfeiriad at y Comisiwn Ymchwiliad Cynllunio gan Weinidogion Cymru;

(m)mewn perthynas ag adran 41 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, y rhoddir hysbysiad am apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf honno;

(n)mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 y mae Atodlen 3 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;

(o)mewn perthynas ag adran 25 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990, y gwneir apêl o dan yr adran honno; a

(p)mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 y mae’r Atodlen i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol.