xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
40.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo penderfyniad mewn perthynas â chydsyniad eilaidd i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru—
(a)yn rhinwedd adran 62F(2) o Ddeddf 1990; neu
(b)o dan unrhyw ddeddfiad arall pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cydsyniad eilaidd yn gysylltiedig â chais o dan adran 62D o Ddeddf 1990.
(2) At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriadau at Orchymyn 2016 yn gyfeiriadau at Orchymyn 2016 fel y bo ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
41. Pan gymhwysir Gorchymyn 2016, gydag addasiadau neu hebddynt, gan Atodlen i’r Rheoliadau hyn, yna, yn ychwanegol at unrhyw addasiadau yn yr Atodlen honno, mae’r Gorchymyn i’w ddarllen gydag addasiadau fel a ganlyn—
(a)yn erthygl 5 ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i geisydd hysbysu Gweinidogion Cymru a’r person perthnasol(1) o’r holl gydsyniadau eilaidd(2) y mae’r ceisydd yn bwriadu gwneud cais amdanynt a pha un a yw’r ceisydd yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru neu i’r person perthnasol.”;
(b)ar ôl erthygl 12(7) mewnosoder—
“(7A) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gydsyniad eilaidd, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi gwybod i’r person perthnasol eu bod wedi cael y cais.”;
(c)ar ôl erthygl 12 mewnosoder—
“12A. Ar y diwrnod pan fo’r ceisydd yn gwneud cais, rhaid iddo gyflwyno i Weinidogion Cymru geisiadau am yr holl gydsyniadau eilaidd y mae’r ceisydd yn dymuno i Weinidogion Cymru eu penderfynu.”;
(d)yn erthygl 18(1) yn lle “Rhaid i gais gael ei hysbysebu” rhodder “Rhaid i gais a chais am gydsyniad eilaidd gael eu hysbysebu”;
(e)yn erthygl 18, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r cyngor cymuned ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais am gydsyniad eilaidd yn ymwneud ag ef.”;
(f)yn erthygl 22, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) At ddibenion yr erthygl hon, mae’r person perthnasol yn ymgynghorai arbenigol.”;
(g)hepgorer erthygl 24;
(h)yn erthygl 27—
(i)ym mharagraff (1) ar ôl “amrywio cais” mewnosoder “a chais am gydsyniad eilaidd”;
(ii)ym mharagraff (2) ar ôl “cais penodol” mewnosoder “a chais am gydsyniad eilaidd”.
42. Mae Atodlen 2 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) (3).
43. Mae Atodlen 3 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 178(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd)(4).
44. Mae Atodlen 4 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (awdurdodi gwaith: caniatâd adeilad rhestredig)(5).
45. Mae Atodlen 5 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 74(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth)(6).
46. Mae Atodlen 6 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan—
(a)adran 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (7) (gofyniad am gydsyniad sylweddau peryglus);
(b)adran 13(1) o’r Ddeddf honno (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod a osodwyd ar gydsyniad blaenorol); ac
(c)adran 17(1) o’r Ddeddf honno (diddymu cydsyniad sylweddau peryglus yn dilyn newid yn rheolaeth tir).
47. Mae Atodlen 7 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn ganiatâd cynllunio o dan adran 57(1) o Ddeddf 1990 (caniatâd cynllunio sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad).
48. Mae Atodlen 8 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd—
(a)yn orchymyn o dan adran 247(1) o Ddeddf 1990 (priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad: gorchmynion gan yr Ysgrifennydd Gwladol) a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y dylid gwneud gorchymyn o dan yr adran honno;
(b)yn orchymyn o dan adran 248(2) o Ddeddf 1990 (priffyrdd sy’n croesi neu’n ymuno â llwybr priffordd newydd arfaethedig, etc.) ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai gorchymyn o dan yr adran honno yn hwylus er budd defnyddwyr y brif briffordd (fel y diffinnir “the main highway” yn adran 248(1)) neu er mwyn hwyluso symudiad traffig ar y brif briffordd;
(c)yn orchymyn yn diddymu hawl tramwy cyhoeddus o dan adran 251(1) o Ddeddf 1990 (diddymu hawliau tramwy cyhoeddus dros dir a ddelir at ddibenion cynllunio).
49. Mae Atodlen 9 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (dadgofrestru a chyfnewid: ceisiadau)(8).
50. Mae Atodlen 10 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (gwahardd gwneud gwaith heb gydsyniad).
Gweler adran 62G(2) o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “relevant person” (“person perthnasol”).
Gweler adran 62H o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “secondary consent” (“cydsyniad eilaidd”).
Diwygiwyd adran 74(1) gan adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 7, 12(1) a (2) o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.