Search Legislation

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 690 (Cy. 188)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Trwyddedu (morol), Cymru

Llygredd Morol, Cymru

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

28 Mehefin 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Gorffennaf 2016

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“Deddf 1972”) mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf 1972.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2016.

Diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011

2.—(1Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3 (dehongli), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”), ar ôl “Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127(5)”.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”), sy’n cynnwys cyfeiriad at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ L 312, 22.11.2008, t. 3.) (“y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”).

Mae angen y diwygiad a wneir gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn er mwyn gweithredu diwygiadau i’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a wneir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127 dyddiedig 10 Gorffennaf 2015 sy’n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yng Ngorchymyn 2011.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) mewn perthynas ag unrhyw fater os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw, neu at unrhyw ddiben os ydynt wedi eu dynodi at y diben hwnnw.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(5)

OJ L 184, 11.7.2015, t. 13.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources