2016 Rhif 690 (Cy. 188)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Llygredd Morol, Cymru

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 (“Deddf 1972”) mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff3.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf 1972.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2016.

Diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 20112

1

Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 20114 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 3 (dehongli), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”), ar ôl “Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/11275”.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”), sy’n cynnwys cyfeiriad at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ L 312, 22.11.2008, t. 3.) (“y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”).

Mae angen y diwygiad a wneir gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn er mwyn gweithredu diwygiadau i’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a wneir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127 dyddiedig 10 Gorffennaf 2015 sy’n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yng Ngorchymyn 2011.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.