2016 Rhif 78 (Cy. 35)

Rheoli Perygl Llifogydd, Cymru

Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau A1(8), 2E(1), 5, 10(2) a 19A(1) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 19751 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo, yn unol ag adran 5(6), (7) ac (8) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “cronfa ddŵr risg uchel” (“high risk reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “high-risk reservoir” yn adran 2C o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;

  • mae i “cyforgronfa ddŵr fawr” (“large raised reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “large raised reservoir” yn adran A1 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;

  • ystyr “CANC(“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru

  • ystyr “Deddf 1975” (“the 1975 Act”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975;

  • mae i “ymgymerwr” (“undertaker”) yr un ystyr ag a roddir i “undertakers” yn adran 1(4) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Pethau penodedig ddim i’w drin fel cyforgronfeydd dŵr mawr3

1

Yn unol ag adran A1(8) o Ddeddf 1975, nid yw’r pethau a ganlyn i’w drin fel cyforgronfeydd dŵr mawr at ddibenion y Ddeddf honno—

a

lagŵn mwynfa sy’n dip o fewn ystyr Rheoliadau Mwynfeydd 20142;

b

lagŵn chwarel sy’n—

i

dip o fewn ystyr Rheoliadau Chwareli 19993; neu

ii

dip segur o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Mwynfeydd a Chwareli (Tipiau) 19694;

c

camlas neu fordwyaeth mewndirol arall;

d

strwythurau a ddyluniwyd ac a adeiladwyd â’r prif ddiben o amddiffyn tir rhag y môr; neu

e

arglawdd ffordd neu arglawdd rheilffordd ac eithrio —

i

pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei flocio neu eu blocio mewn ffordd artiffisial at ddibenion defnyddio ardaloedd i fyny’r afon i storio dŵr; neu

ii

pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei adeiladu neu eu hadeiladu fel bod dŵr yn cael ei storio yn uwch na lefel naturiol y tir.

2

Nid yw paragraff (1)(c) yn cynnwys cronfa ddŵr sy’n ffurfio rhan o gamlas neu fordwyaeth fewndirol arall.

Hawl i apelio dynodiad cyforgronfa ddŵr fawr yn gronfa ddŵr risg uchel4

1

Caiff ymgymerwr sydd wedi ei gyflwyno ag hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 19755 apelio yn erbyn y dynodiad ar unrhyw sail i Weinidogion Cymru.

2

Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai gadarnhau neu ganslo’r dynodiad.

Hawl i apelio yn erbyn gofyniad mewn hysbysiad5

1

Caiff ymgymerwr y mae hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno iddo apelio i Weinidogion Cymru ar unrhyw sail yn erbyn gofyniad yn yr hysbysiad i benodi peiriannydd neu i roi effaith i argymhelliad peiriannydd.

2

Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

a

cadarnhau’r gofyniad;

b

addasu’r gofyniad; neu

c

penderfynu rhoi’r gorau i’r gofyniad cael effaith.

3

Pan fo apêl yn cael ei gwneud, caiff y gofyniad ei atal tra bo’r apêl yn cael ei phenderfynu.

4

Yn y rheoliad hwn ystyr “hysbysiad gorfodi” yw hysbysiad a roddir o dan adran 8(1), 8(3A)6, 9(7), 10(7), 12(4), 13(5) neu 14(4) o Ddeddf 1975.

Apeliadau6

1

Rhaid i apêl o dan reoliad 4 neu 5—

a

cael ei gwneud yn ysgrifenedig;

b

datgan seiliau’r apêl; ac

c

dod i law Gweinidogion Cymru ddim mwy na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynir hysbysiad gorfodi, neu hysbysiad a gyflwynir o dan adran 2B o’r Ddeddf, i’r ymgymerwr.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r apêl at berson penodedig iddo ei hystyried a phenderfynu arni.

3

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael apêl rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r apêl a’r wybodaeth ategol at CANC.

Trafodion gerbron y person penodedig7

1

Os yw’r person penodedig wedi ei fodloni bod apêl wedi ei chyflwyno yn unol â rheoliad 6 rhaid i’r person penodedig benderfynu ar y cais.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (10), mae’r person penodedig i benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer penderfynu ar apêl.

3

Cyn penderfynu ar apêl rhaid i’r person penodedig—

a

caniatáu 21 o ddiwrnodau i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;

b

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i CANC o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd o dan is-baragraff (a);

c

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i’r apelydd o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan CANC o dan is-baragraff (a);

d

caniatáu 14 o ddiwrnodau pellach i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a’r llall i’r person penodedig.

4

Caiff y person penodedig ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu CANC ar unrhyw adeg.

5

Ar ôl ystyried y sylwadau a’r dogfennau a gyflwynwyd o dan baragraff (3) rhaid i’r person penodedig benderfynu a fydd yr apêl yn cael ei chynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad a rhaid hysbysu’r partïon am y penderfyniad.

6

Os yw apêl i’w phenderfynu drwy wrandawiad rhaid i’r person penodedig bennu’r dyddiad a rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau o rybudd i’r apelydd ac i CANC.

7

Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu galw neu roi tystiolaeth gan dyst yn y gwrandawiad rhaid iddynt, o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, anfon proflen o’r dystiolaeth y bwriedir ei rhoi at y person penodedig.

8

Rhaid i’r person penodedig sicrhau bod gan y ddau barti gopïau o’r holl broflenni tystiolaeth a gyflwynwyd o dan baragraff (7).

9

Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person penodedig ar unrhyw adeg cyn i’r person penodedig benderfynu arni.

10

Mae’r holl bartïon i’r apêl i ddwyn eu costau eu hunain.

Effaith penderfyniad gan y person penodedig8

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan benderfyniad gan y person penodedig.

Arolygiad cyfnodol o gronfeydd dŵr risg uchel9

1

At ddibenion adran 10(2) o Ddeddf 1975, mae cronfa ddŵr risg uchel i’w harolygu ar bob un o’r adegau a ganlyn—

a

cyn diwedd y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cwblhau unrhyw addasiad i’r gronfa ddŵr—

i

nad yw’n cynyddu neu’n lleihau ei chynhwysedd;

ii

y gallai’r fath addasiad effeithio ar ei diogelwch; a

iii

sydd heb ei ddylunio na’i oruchwylio gan beiriannydd sifil cymwysedig;

b

ar unrhyw adeg a argymhellir gan y peiriannydd sy’n goruchwylio o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975;

c

ar unrhyw adeg a argymhellir yn adroddiad y peiriannydd sy’n arolygu a luniwyd o dan adran 10(3) o Ddeddf 1975;

d

o fewn blwyddyn i’w dynodi o dan adran 2B o Ddeddf 1975;

e

yn ddim hwyrach na 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr arolygiad diweddaraf a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac unwaith bob 10 mlynedd wedi hynny.

2

Nid yw paragraff (1)(d) yn gymwys i unrhyw gronfa ddŵr a gofrestrwyd fel cyforgronfa ddŵr fawr yn flaenorol o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 19857.

3

Nid yw’r gofyniad i arolygu cronfa ddŵr risg uchel o dan adran 10(2) o Ddeddf 1975 wedi ei gyflawni pan bod yr arolygiad wedi ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.

4

Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo peiriannydd sy’n arolygu sy’n gweithredu o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975 neu beiriannydd sy’n goruchwylio sy’n gweithredu o dan adran 10(3) o’r Ddeddf honno yn argymell bod arolygiad yn cael ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.

Carl SargeantY Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

At ddibenion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p.23) (“Deddf 1975”), mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer—

a

pethau penodedig nad ydynt i’w trin fel cyforgronfeydd dŵr mawr (rheoliad 3);

b

hawl i apelio yn erbyn dynodi cyforgronfeydd dŵr mawr yn gronfeydd dŵr risg uchel (rheoliad 4);

c

hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau a roddwyd gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru naill ai i benodi peiriannydd neu i roi effaith i argymhelliad peiriannydd (rheoliad 5); ac

d

amseroedd arolygiadau (rheoliad 9).

Mae adran 2E o Ddeddf 1975 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu hawl i apelio yn erbyn dynodi cyforgronfa ddŵr fawr yn gronfa ddŵr risg uchel. Mae adran 19A o Ddeddf 1975 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu hawl i apelio yn erbyn gofyniad i benodi peiriannydd a gofyniad i roi effaith i argymhelliad peiriannydd o dan amrywiad o adrannau Deddf 1975.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi awdurdodaeth i Weinidogion Cymru ystyried apeliadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer y broses apelio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Dîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yr Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd, Llywodraeth Cymru, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.