Search Legislation

Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Capasiti, Cofrestru, Ffurflenni Rhagnodedig, etc.) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 80 (Cy. 37)

Rheoli Perygl Llifogydd, Cymru

Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Capasiti, Cofrestru, Ffurflenni Rhagnodedig, etc.) (Cymru) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ionawr 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau A1(4), 2(2) a (2C) i (2E), 3(1), 5, 11, 20(1), 21(1) a 21B o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Capasiti, Cofrestru, Ffurflenni Rhagnodedig, etc.) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adeiledd” (“structure”) yw argae, wal cronfa ddŵr neu arglawdd sy’n dal dŵr;

ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

ystyr “cofrestr Cymru” (“Welshregister”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i CANC ei sefydlu a’i chynnal o dan adran 2(2) o Ddeddf 1975;

ystyr “Deddf 1930” (“the1930 Act”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr (Darpariaethau Diogelwch) 1930 (2);

ystyr “Deddf 1975” (“Deddf1975”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975;

“lefel naturiol” (“naturallevel”) yw lefel y tir naturiol sydd yn weddill ar ôl adeiladu neu ar ôl unrhyw addasiad i gyforgronfa ddŵr fawr;

mae “lefel naturiol isaf unrhyw ran o’r tir amgylchynol” (“lowest natural level of any part of the surrounding land”)yn cynnwys lefel isaf gwely unrhyw gwrs dŵr;

ystyr “lefel uchaf y dŵr” (“top water level”) yw—

(a)

yn achos cronfa ddŵr sydd â silff orlif sefydlog, lefel brig isaf y silff honno;

(b)

yn achos cronfa ddŵr, y gorlif a reolir yn llwyr neu’n rhannol gan giatiau symudol, seiffonau, neu mewn ffordd arall, y lefel uchaf y gellir storio dŵr heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer storio llifogydd; neu

(c)

yn achos cronfa ddŵr a gynlluniwyd at ddibenion dal llifddwr yn ôl, lefel uchaf y llifddwr y gellir ei storio yn ystod unrhyw lifogydd heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gorlif.

ystyr “panel” (“panel”) yw panel o beirianwyr sifil a gyfansoddwyd o dan adran 4 o Ddeddf 1975(3):

ystyr “tir amgylchynol” (“surrounding land”) yw tir cyfagos i gyforgronfa ddŵr fawr;

ystyr “troed” (“troed”) yw’r pwynt ar yr ochr i lawr yr afon o’r adeiledd sydd yn ffurfio rhan o’r gronfa ddŵr lle mae ei sylfaen yn cwrdd â lefel naturiol isaf unrhyw ran o’r tir o’i gwmpas.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol neu hysbysiad a roddir fod yn ysgrifenedig;

(b)mae cyfeiriad at unrhyw ddogfen neu wybodaeth yn cynnwys y ddogfen neu’r wybodaeth honno ar ffurf electronig;

(c)bernir bod unrhyw ddogfen neu wybodaeth a gafodd ei chyfathrebu mewn dull electronig -

(i)wedi ei hanfon pan fo modd i’r anfonwr gynhyrchu copi o’r cyfathrebiad electronig—

(aa)a oedd yn cynnwys y ddogfen neu’r wybodaeth;

(bb)sy’n dangos dyddiad ac amser anfon y neges; ac

(cc)yn dangos bod y ddogfen wedi ei hanfon i’r derbynnydd;

(ii)wedi ei hanfon gan y person yr honnir a’i hanfonodd; ac

(iii)nas ymyrrwyd â hi na’i haddasu mewn unrhyw fodd arall;

(d)gellir bodloni unrhyw gais am lofnod mewn adroddiad, tystysgrif neu gyfarwyddiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy gyda llofnod electronig a’i gynnwys yn y ddogfen;

(e)ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi ei atodi i ddata electronig arall neu ei gysylltu’n rhesymol â data electronig arall ac sy’n gweithredu fel dull dilysu.

Cyfrifo capasiti

3.—(1At ddibenion adran A1(3) o Ddeddf 1975 rhaid cyfrifo capasiti cyforgronfa ddŵr fawr drwy fesur y cyfaint mwyaf o ddŵr mewn metrau ciwbig y gellir ei storio—

(a)uwchben gwely’r gronfa ddŵr; a

(b)rhwng troed y gronfa ddŵr a lefel uchaf y dŵr

(2Ni ddylid cynnwys dŵr sy’n is na lefel naturiol unrhyw ran o’r tir amgylchynol yn y cyfrifiad.

(3Yn y rheoliad hwn mae “gwely’r gronfa ddŵr” (“bed of the reservoir”) yn cynnwys unrhyw silt neu ddeunydd arall y mae’r peiriannydd sy’n rhoi’r dystysgrif derfynol, neu’n rhoi tystysgrif o dan adran 13(2) o Ddeddf 1975, yn barnu nad oes modd iddo lifo allan o’r gronfa ddŵr dros dir naturiol mewn achos lle caiff dŵr ei ryddhau heb reolaeth o’r gronfa ddŵr.

Gofynion cofrestru

4.—(1At ddiben adran 2(2C) o Ddeddf 1975 yr wybodaeth y mae’n rhaid i ymgymerwr cyforgronfa ddŵr fawr ei chofrestru gyda CANC yw’r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 1, paragraffau 1 i 7.

(2Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 1 gael ei chofrestru—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflwyno tystysgrif derfynol a roddir yn unol ag adran 7 o Ddeddf 1975(4) mewn perthynas ag—

(i)adeiladu cronfa ddŵr newydd;

(ii)addasu adeiledd neu fan presennol nad oedd yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn yr addasiad; neu

(iii)addasu rhan o gronfa ddŵr nad oedd yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn ei haddasu;

(b)o fewn 6 mis i gofrestru o dan adran 2(2C) o Ddeddf 1975,

pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.

Hysbysiad o newidiadau i gofrestr Cymru

5.—(1Pan fo newid neu ychwanegiad wedi ei wneud i unrhyw ran o’r wybodaeth a gofrestrir yn unol â rheoliad 4, rhaid i’r ymgymerwr roi gwybodaeth ddiweddar berthnasol i CANC o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y newid neu’r ychwanegiad.

(2Gall CANC ofyn am gadarnhad o’r ymgymerwr bod unrhyw wybodaeth neu’r holl wybodaeth a roddwyd gan yr ymgymerwr hwnnw at ddibenion cofrestr Cymru yn gyfoes neu’n gyflawn.

(3Pan fo paragraff (2) yn berthnasol, heb ragfarn i baragraffau (4), (6) ac (8), rhaid i’r ymgymerwr, o fewn 28 diwrnod yn dechrau o’r diwrnod y mae CANC yn gofyn am gadarnhad o’r fath—

(a)cadarnhau bod yr wybodaeth berthnasol wedi ei diweddaru neu, pan fo unrhyw ran o’r wybodaeth honno ddim wedi ei diweddaru, ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf; a

(b)pan fo unrhyw ran o’r wybodaeth yn anghyflawn neu ar goll, ddarparu’r wybodaeth gyflawn neu’r wybodaeth sydd ar goll.

(4Pan gynigir gwneud addasiad sy’n cynyddu neu’n lleihau capasiti cyforgronfa ddŵr fawr, rhaid i’r ymgymerwr hysbysu CANC ddim llai na 28 diwrnod cyn dechrau’r gwaith addasu.

(5Rhaid i hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys y wybodaeth ganlynol—

(a)dyddiad arfaethedig dechrau ar yr addasiad;

(b)disgrifiad o natur a graddau y gwaith arfaethedig i’r gyforgronfa ddŵr fawr.

(6Pan gynigir rhoi’r gorau i ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr o dan adran 14 o Ddeddf 1975(5), rhaid i’r ymgymerwr hysbysu CANC ddim llai na 28 diwrnod cyn gweithredu ar y cynnig i roi’r gorau i’w defnyddio.

(7Rhaid i hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) gynnwys dyddiad arfaethedig rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gyforgronfa ddŵr fawr.

(8Pan fo peiriannydd adeiladu, goruchwylio neu arolygu’n cael ei benodi at ddibenion Deddf 1975, rhaid i’r ymgymerwr hysbysu CANC o ddyddiad y penodiad o fewn 28 diwrnod.

(9Rhaid i’r ymgymerwr hysbysu CANC o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad y mae peiriannydd yn—

(a)peidio â bod yn beiriannydd adeiladu cyn i’r peiriannydd hwnnw gyflwyno tystysgrif derfynol;

(b)peidio â bod yn beiriannydd arolygu neu oruchwylio.

(10Rhaid i ymgymerwr sy’n bwriadu rhoi’r gorau i fod yn ymgymerwr roi’r wybodaeth a ganlyn i CANC—

(a)y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn bwriadu rhoi’r gorau i swyddogaeth yr ymgymerwr;

(b)enw a chyfeiriad yr unigolyn y bwriedir iddo fod yr ymgymerwr newydd;

(c)y dyddiad y bwriedir i’r unigolyn hwnnw fod yr ymgymerwr newydd.

Cadw ac arolygu cofrestr Cymru

6.—(1Rhaid i gofrestr Cymru gael ei chadw ym mhrif swyddfa CANC(6).

(2Rhaid i CANC gofnodi’r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 1, paragraffau 8 i 10 yng nghofrestr Cymru.

Adroddiadau gan CANC i Weinidogion Cymru

7.—(1At ddibenion adran 3(1) o Ddeddf 1975, rhaid i CANC adrodd i Weinidogion Cymru –

(a)yn ddim hwyrach na 30 Medi 2017 mewn perthynas â’r cyfnod1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017; a

(b)bob dwy flynedd wedi hynny.

(2Rhaid i CANC gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y cyfnod adrodd.

(3Rhaid i’r adroddiad gadarnhau—

(a)nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr sydd wedi eu cofrestru;

(b)y camau y mae CANC wedi eu cymryd (os cymerwyd unrhyw gamau o gwbl) i sicrhau bod ymgymerwyr cyforgronfa ddŵr fawr wedi cydymffurfio â gofynion Deddf 1975; ac

(c)os mai CANC ei hun yw’r ymgymerwr ar gyfer unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr, datganiad ynghylch—

(i)nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr y mae’n ymgymerwr iddynt; a

(ii)unrhyw gamau y mae wedi ei gymryd i arsylwi a chydymffurfio â gofynion Deddf 1975.

Cofnodion o lefelau’r dŵr etc.

8.  Er mwyn ymgymryd ag adran 11(1) o Ddeddf 1975, rhaid i ymgymerwr cyforgronfa ddŵr fawr perygl uchel –

(a)cadw cofnod ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2: a

(b)cofnodi’r materion a ragnodir yn Atodlen 3.

Ffurf tystysgrifau peirianwyr

9.  At ddibenion adran 20(1) o Ddeddf 1975, rhaid i’r tystysgrifau canlynol fod yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 4—

(a)tystysgrif ragarweiniol a roddir o dan adran 7(1) o Ddeddf 1975;

(b)tystysgrif interim a roddir o dan adran 7(2) o Ddeddf 1975;

(c)tystysgrif derfynol a roddir o dan adran 7(3) o Ddeddf 1975;

(d)tystysgrif gweithredu’r gwaith yn effeithiol a roddir o dan adran 7(6) neu 8(7) o Ddeddf 1975(7);

(e)tystysgrif a roddir o dan adran 10(5) o Ddeddf 1975(8) ynghylch adroddiad peiriannydd arolygu;

(f)tystysgrif a roddir o dan adran 10(6) o Ddeddf 1975 ynghylch gweithredu ar argymhellion diogelwch;

(g)tystysgrif a roddir o dan adran 12AA(3) o Ddeddf 1975(9) ynghylch bodloni gofynion cyfarwyddyd i baratoi cynllun llifogydd;

(h)tystysgrif interim a roddir o dan adran 13(1A) o Ddeddf 1975;

(i)tystysgrif a roddir o dan adran 13(2) o Ddeddf 1975 ynghylch cwblhad a gweithrediad effeithlon addasiad er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr;

(j)tystysgrif a roddir o dan adran 14(3) o Ddeddf 1975 ynghylch adroddiad peiriannydd;

(k)tystysgrif a roddir o dan adran 15(2) o Ddeddf 1975(10) ynghylch gweithredu ar argymhellion diogelwch; neu

(l)tystysgrif canolwr a roddir o dan adran 19(4) o Ddeddf 1975(11).

Ffurf adroddiadau peirianwyr

10.  At ddibenion adran 20(1) o Ddeddf 1975, rhaid i’r adroddiadau canlynol fod yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 5—

(a)adroddiad peiriannydd o dan adran 8(2) o Ddeddf 1975 a wnaed ar adeiladu neu addasu cyforgronfa ddŵr fawr;

(b)adroddiad peiriannydd o dan adran 9(1) o Ddeddf 1975 a wnaed cyn ail-ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr a adawyd;

(c)adroddiad o dan adran 10(1) o Ddeddf 1975 a wnaed ar ôl arolygiad peiriannydd o gyforgronfa ddŵr fawr perygl uchel;

(d)adroddiad peiriannydd o dan adran 14(1) o Ddeddf 1975 ynghylch camau y dylid eu cymryd mewn perthynas â gadael cyforgronfa ddŵr fawr.

Ffurf cyfarwyddiadau peirianwyr

11.  At ddibenion adran 20(1) o Ddeddf 1975, rhaid i’r cyfarwyddiadau canlynol fod yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 6—

(a)cyfarwyddyd a wneir o dan adran 11(2) o Ddeddf 1975 (cofnodi lefelau dŵr etc.);

(b)cyfarwyddyd a wneir o dan adran 12(6) o Ddeddf 1975(12) (goruchwylio cronfeydd dŵr: arolygiad gweledol gan yr ymgymerwr);

(c)cyfarwyddyd a wneir o dan adran 12AA(4) o Ddeddf 1975 (cynlluniau llifogydd: profi);

(d)cyfarwyddyd a wneir o dan adran 12AA(7) o Ddeddf 1975 (cynlluniau llifogydd; diwygiad); neu

(e)cyfarwyddyd a wneir o dan adran 19(4A) o Ddeddf 1975 (cyfeirio argymhellion sy’n destun dadl at ganolwr: cyfarwyddyd i beiriannydd i gyflwyno tystysgrif).

Gwybodaeth ragnodedig o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975 i gael ei darparu gan ymgymerwyr wrth fwriadu adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr

12.  Yr wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi mewn hysbysiad a gyflwynir gan ymgymerwr i CANC o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975 yw’r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 7.

Adroddiadau i CANC

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad—

(a)sy’n arwain at, neu a allai arwain at, ryddhau dŵr heb reolaeth o gyforgronfa ddŵr fawr; a

(b)y mae camau brys wedi eu cymryd mewn perthynas ag ef er mwyn atal rhyddhau unrhyw ddŵr neu ddŵr pellach heb reolaeth o gyforgronfa ddŵr fawr ac i leihau’r perygl i fywyd dynol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r ymgymerwr anfon y canlynol at CANC—

(a)adroddiad rhagarweiniol o’r digwyddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dechrau ar y mesurau brys; a

(b)adroddiad terfynol o’r digwyddiad o fewn un flwyddyn, gan ddechrau gyda’r diwrnod ar ôl y diwrnod y dechreuodd y mesurau brys.

(3Rhaid i’r adroddiad rhagarweiniol gynnwys digon o fanylion i alluogi CANC i ganfod dyddiad ac amser y digwyddiad, lleoliad y gronfa ddŵr a chadarnhau’r ffeithiau sy’n weladwy ar unwaith.

(4Rhaid i’r adroddiad terfynol o’r digwyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) gynnwys—

(a)y ffeithiau am y digwyddiad;

(b)dadansoddiad o’i amgylchiadau;

(c)casgliadau y gellir dod iddynt o’r dadansoddiad hwnnw gyda rhesymau dros y casgliadau;

(d)cadarnhad o ba gamau a argymhellir ar gyfer osgoi ailadrodd y digwyddiad.

(5Caiff CANC roi cyfarwyddyd i ymgymerwr ddiwygio’r adroddiad terfynol ond mae’n rhaid iddo —

(a)egluro’r rheswm bod angen pob diwygiad; a

(b)pennu’r cyfnod o ddim llai na thri mis y mae’n rhaid i’r ymgymerwr wneud y diwygiadau oddi mewn iddo.

(6Nid yw diwygiadau i’r adroddiad terfynol yn effeithiol oni bai—

(a)bod yr ymgymerwr wedi anfon fersiwn o’r adroddiad at CANC sy’n cynnwys y diwygiadau a hysbyswyd gan CANC, a

(b)bod CANC wedi derbyn y diwygiadau.

Dirymiadau

14.  Dirymir y Rheoliadau canlynol—

(a)Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985(13);

(b)Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) (Diwygio) 1985(14);

(c)Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Tystysgrifau, Adroddiadau a Gwybodaeth Ragnodedig) 1986(15).

Carl Sargeant,

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

Rheoliadau 4 a 6

ATODLEN 1Gwybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi yng nghofrestrau cyforgronfeydd dŵr mawr Cymru

1.  Enw a safle’r gronfa ddŵr.

2.  Cyfeirnod grid cenedlaethol y gronfa ddŵr.

3.  Enw a chyfeiriad pob ymgymerwr sydd yn gyfrifol am y gronfa ddŵr.

4.  Crynodeb o gynnwys pob tystysgrif neu adroddiad a wnaed o dan Ddeddf 1975, neu Ddeddf 1930, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad y peiriannydd sy’n rhoi’r dystysgrif neu’n gwneud yr adroddiad;

(b)yr adran o ba bynnag Ddeddf y rhoddir y dystysgrif neu y gwneir yr adroddiad oddi tani;

(c)pan nad yw tystysgrif derfynol wedi ei rhoi o dan Ddeddf 1975, datganiad o’r ffaith honno;

(d)pan nad yw tystysgrif derfynol wedi ei rhoi o dan Ddeddf 1930 am fod gwaith adeiladu neu addasu’r gronfa ddŵr wedi ei gwblhau cyn dechrau’r Ddeddf honno, datganiad o’r ffaith honno.

5.  Yr wybodaeth ganlynol os caiff ei datgelu gan unrhyw dystysgrif, adroddiad neu ddatganiad—

(a)categori’r gronfa ddŵr (cronfa sy’n cronni neu gronfa nad yw’n cronni);

(b)y flwyddyn/blynyddoedd y cafodd argae/argaeau, waliau neu argloddiau’r gronfa ddŵr eu cwblhau;

(c)adeiladwaith yr argae/argaeau, waliau’r gronfa ddŵr neu arglawdd/argloddiau (h.y. boed wedi ei adeiladu o bridd, cerrig, disgyrchiant, bwtres neu ddull arall);

(d)lefel uchaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;

(e)lefel uchaf dŵr y gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;

(f)uchder mwyaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr wedi ei fesur mewn metrau o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol, i frig yr argae/argaeau, waliau neu argloddiau’r gronfa ddŵr, ac eithrio uchder y wal donnau;

(g)capasiti’r gronfa ddŵr;

(h)arwynebedd dŵr y gronfa ddŵr ar lefel uchaf y dŵr (mewn metrau sgwâr neu gilometrau sgwâr).

6.  Enw a chyfeiriad busnes y peiriannydd goruchwylio neu, os yw’r gronfa ddŵr o dan oruchwyliaeth y peiriannydd adeiladu, enw a chyfeiriad busnes y peiriannydd hwnnw.

7.  Dyddiad cynnal yr arolygiad nesaf o dan Ddeddf 1975 neu unrhyw ddyddiad yr argymhellir y dylid cynnal yr arolygiad nesaf o dan Ddeddf 1975 gan y peiriannydd goruchwylio neu arolygu.

8.  Manylion unrhyw benodiad a wnaed gan CANC o dan adran 15 o Ddeddf 1975.

9.  Manylion unrhyw benodiad a wnaed gan CANC o dan adran 16 o Ddeddf 1975, gan gynnwys y dyddiad y cofnodwyd y manylion.

10.  Pa un a ddynodir y gyforgronfa ddŵr fawr yn un â pherygl uchel.

Rheoliad 8

ATODLEN 2Ffurflen ragnodedig cofnod ar gyfer cronfa ddŵr perygl uchel

Rheoliad 8

ATODLEN 3Materion rhagnodedig cysylltiedig â chronfeydd dŵr perygl uchel y mae’n rhaid i ymgymerwr gadw cofnod ohonynt

Dehongli

1.  Ystyr “cyrhaeddiad” (“fetch”) yn yr Atodlen hon yw hyd effeithiol y gronfa ddŵr y gall tonnau gael eu creu ar ei hyd gan wynt.

Materion rhagnodedig

2.  Rhaid i ymgymerwr cronfeydd dŵr perygl uchel gadw cofnod o’r materion canlynol—

(a)unrhyw un sydd wedi gweithredu fel ymgymerwr neu beiriannydd o dan Ddeddf 1975;

(b)manylion y cynllun llifogydd;

(c)dull o gael mynediad i’r gronfa ddŵr;

(d)categori’r gronfa ddŵr (h.y. cronfa sy’n cronni neu gronfa nad yw’n cronni), ei defnydd, y lefel ardystiedig y ceir storio dŵr ati, arwynebedd y dŵr wyneb, capasiti a chyrhaeddiad;

(e)cymeriad strwythurol yr argae/argaeau, waliau neu argloddiau’r gronfa ddŵr, dyddiad eu cwblhau, uchder, lefel uchaf yr argae/argaeau, waliau neu argloddiau’r gronfa ddŵr a’r wal donnau uwch y Datwm Ordnans;

(f)manylion y gwaith tapio, arllwysfa waelod, neu unrhyw ddull arall o ostwng lefel y dŵr, ynghyd â chyfraddau arllwysiad uchaf;

(g)nodweddion ffisegol dalgylchoedd uniongyrchol ac anuniongyrchol y gronfa ddŵr a dull o lenwi o’r dalgylch anuniongyrchol;

(h)glawiad cyfartalog blynyddol ar y dalgylch uniongyrchol ac anuniongyrchol y gronfa ddŵr;

(i)gweithfeydd gorlifan, eu math, lleoliad a lefel y darpariaethau diogelwch a wnaed mewn perthynas â’u gweithrediad;

(j)camau a gymerwyd er lles diogelwch ar argymhelliad peiriannydd sifil cymwysedig;

(k)cyfarwyddiadau ac argymhellion peiriannydd goruchwylio;

(l)digwyddiadau anarferol a allai effeithio ar ddiogelwch y gronfa ddŵr;

(m)tystysgrifau a roddir o dan Ddeddf 1975 neu o dan Ddeddf 1930;

(n)adroddiadau a wnaed o dan Ddeddf 1975 neu o dan Ddeddf 1930;

(o)cyfarwyddiadau a wnaed o dan Ddeddf 1975;

(p)penodi canolwyr o dan Ddeddf 1975;

(q)ail-ddefnyddio, gadael a pheidio â pharhau;

(r)cofrestr lluniadau;

(s)offer yn y gronfa ddŵr;

(t)cofnodion o faint agoriad falfiau, giatiau a llifddorau, gwybodaeth a chyfarwyddiadau cysylltiedig gan beiriannydd.

Rheoliad 9

ATODLEN 4Tystysgrifau

Mae’r llythrennau wedi eu hitaleiddio ar ffurflenni’r tystysgrifau yn yr Atodlen hon yn dynodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys fel a ganlyn—

(a)enw’r peiriannydd;

(b)cyfeiriad y peiriannydd;

(c)enw’r panel y mae’r peiriannydd wedi ei benodi iddo;

(d)enw’r ymgymerwyr;

(e)enw’r gronfa ddŵr;

(f)safle’r gronfa ddŵr, gyda digon o fanylion i’w hadnabod (gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras);

(g)y lefel y ceir llenwi dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio’r lwfans a wneir ar gyfer amodau llifogydd;

(h)y lefel y ceir storio dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio’r lwfans a wneir ar gyfer storio llifogydd;

(i)dyddiad y dystysgrif ragarweiniol neu interim fel y bo’n briodol;

(j)amodau y ceir llenwi’r gronfa â dŵr yn ddarostyngedig iddynt, neu y gellir storio dŵr ynddi hyd at y lefel a bennir;

(k)dyddiad yr adroddiad, y dystysgrif, y cyfarwyddyd fel y bo’n briodol;

(l)dyddiad cwblhau’r gwaith;

(m)y cyfnod o amser a argymhellir yn yr adroddiad y dylid gwneud yr arolygiad nesaf oddi mewn iddo;

(n)dyddiad adroddiad y peiriannydd arolygu;

(o)enw’r peiriannydd arolygu;

(p)enw’r canolwr;

(q)cyfeiriad y canolwr;

(r)dyddiad penderfyniad y canolwr;

(s)enw’r person sy’n penodi’r canolwr;

(t)cyfaint y dŵr sy’n gwneud cronfa ddŵr yn “gyforgronfa ddŵr fawr” o dan y Ddeddf;

(u)yr amser y mae’n rhaid gostwng lefel y dŵr oddi mewn iddo.

Yn y ffurflenni tystysgrifau, ni ddylid cynnwys cromfachau sgwâr a’r geiriau oddi mewn iddynt lle maent yn amhriodol.

Rheoliad 10

ATODLEN 5Adroddiadau

Yn yr Atodlen hon mae cyfeiriadau at ganfyddiadau ac argymhellion peiriannydd yn cynnwys—

(a)cadarnhad fod yr ymgymerwr wedi cofnodi’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan adran 11 o Ddeddf 1975;

(b)manylion unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y peiriannydd yn pennu’r dyddiadau a’r amserau y dylid cofnodi gwybodaeth a’r dull o wneud hynny o dan adran 11 o Ddeddf 1975;

(c)manylion unrhyw argymhellion ynghylch gwneud addasiadau neu ychwanegiadau i waith neu osod offer neu fedrydd er mwyn mesur dŵr sy’n gollwng, gwyriadau, sefydlogi, codiad, gwasgeddau mandyllau neu faterion tebyg;

(d)manylion unrhyw symudiad yn y tir amgylchynol a welir a allai effeithio ar sefydlogrwydd y gronfa ddŵr;

(e)canfyddiadau ynglŷn â digonolrwydd a chyflwr y gored wastraff neu orlif ac unrhyw sianeli cysylltiedig;

(f)datganiad am unrhyw addasiadau y mae’r peiriannydd wedi eugweld sy’n effeithiol ar y lefel y ceir storio dŵr iddi neu lefel y silffoedd gorlif ers yr adeiladu neu ers yr arolygiad diwethaf;

(g)datganiad am ddigonolrwydd y ffin rhwng argae/argaeau, waliau’r gronfa ddŵr neu lefel argloddiau’r gronfa ddŵr a lefel y gorlif;

(h)canfyddiadau ynglŷn ag effeithlonrwydd y beipen sgwrio neu’r cylfat rhyddhau neu unrhyw ddull arall o ostwng lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr ac unrhyw ddull o reoli’r dŵr sy’n llifo i’r gronfa ddŵr.

Yn ffurflenni’r adroddiadau hyn, ni ddylid cynnwys cromfachau sgwâr a’r geiriau oddi mewn iddynt lle maent yn amhriodol.

Rheoliad 11

ATODLEN 6Cyfarwyddiadau

Mae’r llythrennau wedi eu hitaleiddio ar ffurf y cyfarwyddiadau yn yr Atodlen hon yn dangos yr wybodaeth y dylid ei chynnwys fel a ganlyn—

(a)enw’r peiriannydd;

(b)cyfeiriad y peiriannydd;

(c)enw’r panel y mae’r peiriannydd wedi ei benodi iddo;

(d)enw’r ymgymerwyr;

(e)enw’r gronfa ddŵr;

(f)safle’r gronfa ddŵr, gyda digon o fanylion i’w hadnabod (gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras);

(g)y lefel y ceir llenwi dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio’r lwfans a wneir ar gyfer amodau llifogydd;

(h)y lefel y ceir storio dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio’r lwfans a wneir ar gyfer storio llifogydd;

(i)dyddiad y dystysgrif ragarweiniol neu interim fel y bo’n briodol;

(j)amodau y ceir llenwi’r gronfa â dŵr yn ddarostyngedig iddynt, neu y gellir storio dŵr ynddi hyd at y lefel a bennir;

(k)dyddiad yr adroddiad, tystysgrif, cyfarwyddyd fel y bo’n briodol;

(l)dyddiad cwblhau’r gwaith;

(m)y cyfnod o amser a argymhellir yn yr adroddiad y dylid gwneud yr arolygiad nesaf oddi mewn iddo;

(n)dyddiad adroddiad y peiriannydd arolygu;

(o)enw’r peiriannydd arolygu;

(p)enw’r canolwr;

(q)cyfeiriad y canolwr;

(r)dyddiad penderfyniad y canolwr;

(s)enw’r person sy’n penodi’r canolwr;

(t)cyfaint y dŵr sy’n gwneud cronfa ddŵr yn gyforgronfa ddŵr fawr o dan Ddeddf 1975.

Yn y ffurfiaucyfarwyddiadau hyn, ni ddylid cynnwys cromfachau sgwâr a’r geiriau oddi mewn iddynt lle maent yn amhriodol.

Rheoliad 12

ATODLEN 7Gwybodaeth i gael ei rhoi mewn hysbysiad o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975

1.  Enw a chyfeiriad yr ymgymerwyr sy’n cyflwyno’r hysbysiad.

2.  Enw a safle’r gronfa ddŵr.

3.  Cyfeirnod grid cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras.

4.  Pa un a yw’r ymgymerwyr yn bwriadu—

(a)adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd; neu

(b)dechrau ail-ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr ar ôl rhoi’r gorau i’r defnydd hwnnw.

5.  Y dyddiad y bwriedir dechrau adeiladu neu’r dyddiad y bwriedir dechrau ail-ddefnyddio’r gronfa ddŵr, yn ôl y digwydd.

6.  Enw a chyfeiriad y peiriannydd adeiladu neu, yn achos ail-ddefnyddio, enw a chyfeiriad y peiriannydd a benodir at ddibenion adran 9 o Ddeddf 1975.

7.  Yr wybodaeth ganlynol ynglŷn â’r gronfa ddŵr fel ag y bydd pan fydd wedi ei hadeiladu, neu wedi dechrau cael ei hail-ddefnyddio fel y cynigir—

(a)categori (h.y. cronfa sy’n cronni neu gronfa nad yw’n cronni);

(b)y dyddiad(au) neu ddyddiad(au) cwblhau’r argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr;

(c)adeiladwaith yr argae/argaeau, waliau’r gronfa ddŵr neu arglawdd/argloddiau (h.y. boed wedi ei adeiladu o bridd, cerrig, disgyrchiant, bwtres neu ddull arall);

(d)uchder eithaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr (mewn metrau), wedi ei fesur o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol cyfagos, i frig yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr, ac eithrio uchder y wal donnau;

(e)uchder yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr (mewn metrau) wedi ei fesur o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol cyfagos i lefel uchaf y dŵr;

(f)lefel brig ar argae, waliau neu arglawdd y gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans:

(g)lefel uchaf dŵr y gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;

(h)capasiti (mewn metrau ciwbig), wedi ei fesur o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol cyfagos i lefel uchaf y dŵr;

(i)arwynebedd dŵr ar lefel uchaf y dŵr (mewn metrau sgwâr neu cilometrau sgwâr).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

At ddibenion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p.23) (“Deddf 1975”), mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y canlynol —

(a)sut i gyfrifo capasiti at ddibenion adran A1 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 (rheoliad 3);

(b)y wybodaeth am gyforgronfa ddŵr fawr sydd i’w chofrestru (rheoliad 4); hysbysiad o newidiadau i gofrestr Cymru yn ogystal â chadw ac arolygu’r gofrestr (rheoliad 5 a 6);

(c)llunio adroddiadau gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (“CANC”) i Weinidogion Cymru a chynnwys yr adroddiadau (rheoliad 7);

(d)ffurf y cofnod y mae’n rhaid ei gadw ar gyfer cronfa ddŵr perygl uchel a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei nodi yn y cofnod hwnnw (rheoliad 8);

(e)ffurf y tystysgrifau peirianwyr (rheoliad 9); ffurf yr adroddiadau peirianwyr (rheoliad 10) a ffurf y cyfarwyddiadau peirianwyr) (rheoliad 11);

(f)yr wybodaeth y mae’n rhaid i ymgymerwyr ei darparu pan yn bwriadu adeiladu cronfa ddŵr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr (rheoliad 12); a

(g)llunio adroddiadau gan ymgymerwyr i CANC mewn perthynas â digwyddiadau cysylltiedig â rhyddhau dŵr heb reolaeth o gyforgronfa ddŵr fawr pan fo mesurau brys yn cael eu cymryd (rheoliad 13).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985 (O.S. 1985/177), Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) (Diwygio) 1985 (O.S. 1985/548) a Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Tystysgrifau, Adroddiadau a Gwybodaeth Ragnodedig) 1986 (O.S. 1986/468) (rheoliad 15). Disodlir y Rheoliadau hynny gan y darpariaethau yn rheoliadau 4, 6, 8 i 10 a 12.

Mae adran A1(4) o Ddeddf 1975 yn ei gwneud yn ofynnol i lunio rheoliadau ynglŷn â’r ffordd y dylid cyfrifo capasiti at ddiben sefydlu a yw adeiledd neu fan uwch yn fawr o dan adran A1(3) o Ddeddf 1975. Mae rheoliad 3 yn gwneud y ddarpariaeth hon.

O dan adran 2(2) o Ddeddf 1975 mae’n ofynnol i CANC gadw cofrestr sy’n cynnwys gwybodaeth ragnodedig ynglŷn â chyforgronfeydd mawr. Mae rheoliad 4 yn rhagnodi’r wybodaeth y dylai cofrestr Cymru ei chynnwys am gyforgronfeydd mawr.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod yr ymgymerwr i CANC yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau neu newidiadau arfaethedig a wnaed neu y cynigir eu gwneud i’r wybodaeth y mae gofyn ei chadw ar gofrestr Cymru. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod cofrestr Cymru a chopïau ohoni yn cael eu cadw ym mhrif swyddfa CANC a bod CANC yn sicrhau bod gwybodaeth benodol y mae’n ofynnol iddi fod yng Nghofrestr Cymru ynddi.

Mae rheoliad 7 yn pennu amseriad yr adroddiadau y mae’n rhaid i’r CANC eu paratoi i Weinidogion Cymru o dan adran 3(1) o Ddeddf 1975; yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno yn yr adroddiadau hynny.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi’r ffurfy mae’n ofynnol i gofnod o dan adran 11(1) o Ddeddf 1975 gael ei gadw arni gan ymgymerwr cronfa ddŵr perygl uchel a’r materion y mae’n rhaid i ymgymerwyr cronfeydd dŵr perygl uchel gadw cofnod ohonynt yn ogystal â’r rhai a nodir yn adran 11(1)(a) a (b) o Ddeddf 1975.

Mae rheoliadau 9 i 11 yn rhagnodi, fel y darperir gan adran 20(1) o Ddeddf 1975, ffurf yr amrywiol dystysgrifau, cyfarwyddiadau ac adroddiadau pan fo Deddf 1975 yn gofyn bod tystysgrifau neu gyfarwyddiadau’n cael eu rhoi neu adroddiad yn cael ei baratoi gan beiriannydd sifil sy’n ymwneud â gwaith cysylltiedig â chyforgronfa ddŵr fawr.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975 y mae’n ofynnol i ymgymerwr, sy’n bwriadu adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr, ei gyflwyno i CANC.

Mae rheoliad 13 yn rhagnodi ffurf adroddiad y mae’n rhaid ei baratoi o dan adran 21B o’r Ddeddf, ac yn pennu’r digwyddiadau y dylid gwneud adroddiad o’r fath mewn cysylltiad â hwy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1975 (p. 23). Mewnosodwyd adrannau A1, 2(2B) i 2(2E) a 21B mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraffau 1, 2, 4 a 33 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adrannau 5, 11, 20 a 21 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan baragraff 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraffau 5, 16 i 18, 23, 26, 28, 31 a 38 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adrannau 2, 3, 20 a 21 gan adran 74 a 78 o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37). Diwygiwyd adran 2, 2A i 2D ac adran 21B eto gan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755) (Cy. 90) a pharagraffau 117, 119, 120 a 122 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

(2)

1930 (p.51). Diddymwyd y Ddeddf hon gydag arbedion o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, adrannau 23 a 28.

(3)

Diwygiwyd adran 4 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraff 9 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(4)

Addaswyd adran 7 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraffau 8 ac 11 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(5)

Addaswyd adran 14 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraff 27 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(6)

Cyfeiriad prif swyddfa tîm gorfodi diogelwch cronfeydd dŵr CANC yw Tîm Diogelwch Dŵr, Adnoddau Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP.

(7)

Addaswyd adran 8 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraffau 3 ac 11 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno ac adran 75 o Ddeddf Dŵr 2003 (2003 p.37).

(8)

Diwygiwyd adran 10 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraffau 11 ac 12 o Atodlen 4 i’r ddeddf honno.

(9)

Mewnosodwyd adran 12AA mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29), a pharagraff 21 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(10)

Diwygiwyd adran 15 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraff 26 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno ac adran 75 o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37).

(11)

Diwygiwyd adran 19 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraff 14 a 22 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(12)

Diwygiwyd adran 12 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraff 17 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources