RHAN 1LL+CSafonau dŵr
Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Tachwedd 2017.
DehongliLL+C
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad risg” (“risk assessment”) yw asesiad risg a gyflawnir o dan reoliad 6;
ystyr “crynodiad neu werth rhagnodedig” (“prescribed concentration or value”) mewn perthynas ag unrhyw baramedr, yw’r crynodiad neu’r gwerth uchaf neu isaf a bennir mewn perthynas â’r paramedr hwnnw yn y Tablau yn Atodlen 1 fel y’u mesurir drwy gyfeirio at yr uned fesur a bennir felly, ac a ddarllenir, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;
ystyr “cyflenwad dŵr preifat” (“private water supply”) yw cyflenwad dŵr ac eithrio cyflenwad a ddarperir yn uniongyrchol gan ymgymerwr dŵr() neu drwyddedai cyflenwi dŵr(), ac sy’n cynnwys yr holl asedau ffisegol o’r man tynnu dŵr i’r man defnyddio, gan gynnwys yr holl bibellau, ffitiadau a thanciau cysylltiedig;
ystyr “defnyddiwr” (“consumer”) yw person y darperir cyflenwad dŵr preifat iddo at ddibenion yfed y dŵr gan bobl;
ystyr “diheintio” (“disinfection”) yw proses o drin dŵr er mwyn dileu pob micro-organedd pathogenig a phob paraseit pathogenig a fyddai fel arall yn bresennol yn y dŵr, neu eu gwneud yn anniweidiol i iechyd dynol;
ystyr “dos dangosol” (“indicative dose”) yw’r dos effeithiol cyflawnedig ar gyfer 1 flwyddyn o amlyncu o ganlyniad i’r holl radioniwclidau o darddiad naturiol ac artiffisial y canfyddwyd eu bod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, ac eithrio tritiwm, potasiwm-40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon byrhoedlog;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991;
mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” (“monitoring for Group A parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;
mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” (“monitoring for Group B parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2;
ystyr “NTU” (“NTU”) yw Uned Cymylogrwydd Neffelomedrig;
ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodoledd, elfen, organedd neu sylwedd a restrir yng ngholofn gyntaf y Tablau yn Atodlen 1 wedi eu darllen, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a)
perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) mangreoedd y cyflenwir dŵr iddynt drwy gyflenwad dŵr preifat at ddibenion domestig neu ddibenion cynhyrchu bwyd;
(b)
perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) tir y mae unrhyw ran o’r cyflenwad wedi ei leoli arno;
(c)
unrhyw berson arall sy’n arfer pwerau rheoli neu reolaeth mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw;
ystyr “y Prif Arolygydd Dŵr Yfed” (“the Chief Inspector of Drinking Water”) yw’r person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86(1B) o’r Ddeddf (aseswyr ar gyfer gorfodi ansawdd dŵr)();
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010();
mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (ystyr y prif dermau)().
CwmpasLL+C
3.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a fwriedir i’w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl” yw—
(a)pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo’i darddiad a pha un ai y’i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;
(b)pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl oni bai, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch hylendid bwyd(), bod yr awdurdod cymwys() wedi ei fodloni nad yw ansawdd y dŵr yn gallu effeithio ar iachusrwydd y bwyd yn ei ffurf orffenedig.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â—
(a)dŵr y mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015() yn gymwys iddo;
(b)dŵr sy’n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968();
(c)dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw’n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy’n tarddu o’r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.
IachusrwyddLL+C
4.—(1) Mae cyflenwad dŵr preifat i’w ystyried yn iachus os bodlonir yr holl amodau a ganlyn—
(a)nad yw’n cynnwys unrhyw ficro-organedd, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn peri perygl posibl i iechyd dynol;
(b)ei fod yn cydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer pob paramedr; ac
(c)bod y dŵr yn bodloni’r fformiwla “[nitrad]/50 + [nitraid]/3 ≤ 1”, pan fo’r bachau petryal yn dynodi’r crynodiadau mewn mg/1 ar gyfer nitrad (NO3) a nitraid (NO2).
(2) Ystyr cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddŵr afiachus yw nad yw’r gofyniadau ym mharagraff (1) wedi eu bodloni.
Defnyddio cynhyrchion neu sylweddau mewn cyflenwadau dŵr preifat a threfniadau diheintioLL+C
5.—(1) Ni chaiff unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir wrth baratoi neu ddosbarthu cyflenwad dŵr preifat, neu amhurdebau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion neu sylweddau o’r fath, fod yn bresennol mewn dŵr yn y man defnyddio ar lefelau a fyddai’n ei wneud yn afiachus neu’n peri perygl posibl i iechyd dynol.
(2) Pan fo diheintio yn rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i’r person perthnasol—
(a)cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y broses ddiheintio;
(b)sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio;
(c)cadw cofnodion o’r gwaith cynnal a monitro a gyflawnir er mwyn gwirhau effeithiolrwydd y broses ddiheintio; a
(d)cadw copïau o’r cofnodion hynny ar gael i’r awdurdod lleol edrych arnynt, am gyfnod o 5 mlynedd.
Gofyniad i gynnal asesiad risgLL+C
6.—(1) Rhaid i awdurdod lleol() gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal, ac adolygu a diweddaru’r asesiad risg hwnnw bob 5 mlynedd (neu’n gynharach os yw o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol).
(2) Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys ond pan fo’r cyflenwad hwnnw’n cael ei ddarparu fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus, neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.
(3) Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl nad yw’n dod o fewn paragraff (2), rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.
(4) Rhaid i asesiad risg—
(a)cadarnhau a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai’n peri perygl posibl i iechyd dynol;
(b)bodloni gofynion y Canllawiau Diogelwch Cyflenwadau Dŵr Yfed ar gyfer Rheoli Risgiau ac Argyfyngau(); ac
(c)ystyried canlyniadau’r rhaglenni monitro a sefydlwyd gan ail baragraff Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor().
(5) Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 12 mis o gynnal yr asesiad risg, ddarparu crynodeb o ganlyniadau’r asesiad hwnnw i Weinidogion Cymru.