Rhl. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rhl. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rhl. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rhl. 6 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Tachwedd 2017.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad risg” (“risk assessment”) yw asesiad risg a gyflawnir o dan reoliad 6;
ystyr “crynodiad neu werth rhagnodedig” (“prescribed concentration or value”) mewn perthynas ag unrhyw baramedr, yw’r crynodiad neu’r gwerth uchaf neu isaf a bennir mewn perthynas â’r paramedr hwnnw yn y Tablau yn Atodlen 1 fel y’u mesurir drwy gyfeirio at yr uned fesur a bennir felly, ac a ddarllenir, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;
ystyr “cyflenwad dŵr preifat” (“private water supply”) yw cyflenwad dŵr ac eithrio cyflenwad a ddarperir yn uniongyrchol gan ymgymerwr dŵr Gweler adran 6 o’r Ddeddf am ystyr “water undertaker”. Gweler adran 17A o’r Ddeddf am ystyr “water supply licensee”. Amnewidiwyd adran 17A gan adran 1(1) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21).
ystyr “defnyddiwr” (“consumer”) yw person y darperir cyflenwad dŵr preifat iddo at ddibenion yfed y dŵr gan bobl;
ystyr “diheintio” (“disinfection”) yw proses o drin dŵr er mwyn dileu pob micro-organedd pathogenig a phob paraseit pathogenig a fyddai fel arall yn bresennol yn y dŵr, neu eu gwneud yn anniweidiol i iechyd dynol;
ystyr “dos dangosol” (“indicative dose”) yw’r dos effeithiol cyflawnedig ar gyfer 1 flwyddyn o amlyncu o ganlyniad i’r holl radioniwclidau o darddiad naturiol ac artiffisial y canfyddwyd eu bod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, ac eithrio tritiwm, potasiwm-40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon byrhoedlog;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991;
mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” (“monitoring for Group A parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;
mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” (“monitoring for Group B parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2;
ystyr “NTU” (“NTU”) yw Uned Cymylogrwydd Neffelomedrig;
ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodoledd, elfen, organedd neu sylwedd a restrir yng ngholofn gyntaf y Tablau yn Atodlen 1 wedi eu darllen, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) mangreoedd y cyflenwir dŵr iddynt drwy gyflenwad dŵr preifat at ddibenion domestig neu ddibenion cynhyrchu bwyd;
perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) tir y mae unrhyw ran o’r cyflenwad wedi ei leoli arno;
unrhyw berson arall sy’n arfer pwerau rheoli neu reolaeth mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw;
ystyr “y Prif Arolygydd Dŵr Yfed” (“the Chief Inspector of Drinking Water”) yw’r person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86(1B) o’r Ddeddf (aseswyr ar gyfer gorfodi ansawdd dŵr) Mewnosodwyd adran 86(1B) gan adran 57(3) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 O.S. 2010/66 (Cy. 16) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/147 (Cy. 22), O.S. 2010/1384 (Cy. 123), O.S. 2013/235, O.S. 2015/1867 (Cy. 274), O.S. 2016/411 (Cy. 129) ac O.S. 2017/506.
mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (ystyr y prif dermau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a fwriedir i’w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl” yw—
pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo’i darddiad a pha un ai y’i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;
pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl oni bai, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch hylendid bwyd OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 (OJ Rhif L 87, 31.3.2009, t. 109). Yr awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad hwn yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd; gweler O.S. 2006/31 (Cy. 5).
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â—
dŵr y mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015
dŵr sy’n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968
dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw’n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy’n tarddu o’r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.
Mae cyflenwad dŵr preifat i’w ystyried yn iachus os bodlonir yr holl amodau a ganlyn—
nad yw’n cynnwys unrhyw ficro-organedd, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn peri perygl posibl i iechyd dynol;
ei fod yn cydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer pob paramedr; ac
bod y dŵr yn bodloni’r fformiwla “[nitrad]/50 + [nitraid]/3 ≤ 1”, pan fo’r bachau petryal yn dynodi’r crynodiadau mewn mg/1 ar gyfer nitrad (NO3) a nitraid (NO2).
Ystyr cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddŵr afiachus yw nad yw’r gofyniadau ym mharagraff (1) wedi eu bodloni.
Ni chaiff unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir wrth baratoi neu ddosbarthu cyflenwad dŵr preifat, neu amhurdebau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion neu sylweddau o’r fath, fod yn bresennol mewn dŵr yn y man defnyddio ar lefelau a fyddai’n ei wneud yn afiachus neu’n peri perygl posibl i iechyd dynol.
Pan fo diheintio yn rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i’r person perthnasol—
cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y broses ddiheintio;
sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio;
cadw cofnodion o’r gwaith cynnal a monitro a gyflawnir er mwyn gwirhau effeithiolrwydd y broses ddiheintio; a
cadw copïau o’r cofnodion hynny ar gael i’r awdurdod lleol edrych arnynt, am gyfnod o 5 mlynedd.
Rhaid i awdurdod lleol Gweler adran 219 o’r Ddeddf (fel y’i diwygiwyd gan baragraff 2(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)) am ystyr “local authority”.
Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys ond pan fo’r cyflenwad hwnnw’n cael ei ddarparu fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus, neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.
Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl nad yw’n dod o fewn paragraff (2), rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.
Rhaid i asesiad risg—
cadarnhau a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai’n peri perygl posibl i iechyd dynol;
bodloni gofynion y Canllawiau Diogelwch Cyflenwadau Dŵr Yfed ar gyfer Rheoli Risgiau ac Argyfyngau EN 15975-2.
ystyried canlyniadau’r rhaglenni monitro a sefydlwyd gan ail baragraff Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t. 32).
Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 12 mis o gynnal yr asesiad risg, ddarparu crynodeb o ganlyniadau’r asesiad hwnnw i Weinidogion Cymru.