ATODLEN 4Samplu a dadansoddi

RHAN 1Cyffredinol

Samplau: cyffredinol

1.

(1)

Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod y gofynion priodol wedi eu bodloni wrth—

(a)

cymryd, trin, cludo a storio sampl y mae’n ofynnol ei chymryd yn unol â’r Atodlen hon;

(b)

dadansoddi sampl o’r fath; neu

(c)

achosi i unrhyw sampl o’r fath gael ei chymryd, ei thrin, ei chludo, ei storio neu ei dadansoddi.

(2)

Yn y paragraff hwn, ystyr “y gofynion priodol” yw unrhyw rai o’r canlynol sy’n gymwys—

(a)

bod y sampl yn gynrychioliadol o ansawdd y dŵr ar yr adeg y cymerir y sampl;

(b)

bod y person sy’n cymryd y sampl yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas;

(c)

nad yw’r sampl yn cael ei halogi wrth ei chymryd;

(d)

bod y sampl yn cael ei chadw ar y fath dymheredd ac o dan y fath amodau sy’n sicrhau nad oes unrhyw newid perthnasol o ran y crynodiad neu’r gwerth ar gyfer y mesur neu’r arsylwi y mae’r sampl wedi ei bwriadu ar ei gyfer;

(e)

bod y sampl yn cael ei dadansoddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei chymryd—

(i)

gan berson sy’n gymwys i wneud hynny, neu o dan oruchwyliaeth person o’r fath; a

(ii)

gan ddefnyddio unrhyw gyfarpar sy’n addas ar gyfer y diben;

(f)

rhaid i’r broses o gasglu a chludo samplau, neu fesuriadau a gofnodir drwy fonitro parhaus, fod yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas.

(3)

Wrth ymgymryd â’r gweithgarwch a ddisgrifir yn—

(a)

is-baragraff (1)(a), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o EN ISO/IEC 17024, EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol;

(b)

is-baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol.

(4)

Caniateir gohirio gweithredu’r gofyniad yn is-baragraff (3)(a) am gyfnod o ddim mwy na 24 mis gan ddechrau ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(5)

Yn y paragraff hwn, ystyr “corff achrededig addas” yw unrhyw berson sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig23.
Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dadansoddi samplau: paramedrau microbiolegol

2.

Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi wedi ei bennu yn ail golofn y tabl hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dadansoddi samplau: paramedrau cemegol a dangosyddion

3.

(1)

Ar 31 Rhagfyr 2019 neu cyn hynny, caiff yr awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn naill ai is-baragraff (3) neu is-baragraff (4).

(2)

Ar ôl 31 Rhagfyr 2019, rhaid i’r awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn is-baragraff (4).

(3)

Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu—

(a)

mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r gwiredd a’r trachywiredd a bennir yn ail golofn a thrydedd golofn y tabl hwnnw, a

(b)

canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.

(4)

Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu mesur crynodiadau sy’n hafal â’r—

(a)

gwerth paramedrig gyda therfyn meintioliad o 30% neu lai o’r gwerth paramedrig perthnasol (fel sydd wedi ei gynnwys yn Atodlen 1), a

(b)

yr ansicrwydd mesuriadau yn ail golofn y tabl hwnnw.

(5)

Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer y paramedrau arogl a blas allu mesur gwerthoedd sy’n hafal â’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanediad ar 25°C.

(6)

At y dibenion hyn—

(a)

y “terfyn canfod” yw—

(i)

tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r paramedr; neu

(ii)

pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl wag;

(b)

“trachywiredd” (sef yr hapgyfeiliornad) yw dwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) gwasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr. Trachywiredd derbyniol yw dwywaith y gwyriad safonol cymharol. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;

(c)

“gwiredd” (y cyfeiliornad systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedrig y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r gwir werth. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;

(d)

mae “ansicrwydd mesuriadau” yn baramedr annegyddol sy’n nodweddu gwasgariad y gwerthoedd nifer sy’n cael eu mesur, ar sail yr wybodaeth a ddefnyddir.

Annotations:
Commencement Information

I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Awdurdodi dulliau dadansoddi eraill

4.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi dull sy’n wahanol i’r rheini a nodir ym mharagraff 3(2) neu 3(3) os ydynt yn fodlon ei fod o leiaf yr un mor ddibynadwy.

(2)

Caiff awdurdodiad fod am gyfnod cyfyngedig, a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.

Annotations:
Commencement Information

I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Samplu a dadansoddi gan bersonau ac eithrio awdurdodau lleol

5.

(1)

Caiff awdurdod lleol ymrwymo i drefniant i unrhyw berson gymryd samplau a’u dadansoddi ar ran yr awdurdod lleol.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ymrwymo i drefniant o dan is-baragraff (1) oni fydd—

(a)

yn fodlon y cyflawnir y dasg yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w chyflawni, a

(b)

wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff yr awdurdod lleol ei hysbysu ar unwaith am unrhyw doriad o’r Rheoliadau hyn, ac am unrhyw ganlyniad arall o fewn 28 diwrnod.