Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
6 Rhagfyr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Rhagfyr 2017
Yn dod i rym
8 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9)(b), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(2) o’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Ionawr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2018.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 14;
mae “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—
cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig;
cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd at ddefnydd anfon neu gael cyfathrebiadau neu signalau eraill a drosglwyddir drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, neu sy’n cynnwys y defnydd hwnnw;
llinellau;
strwythurau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) neu bethau a ddefnyddir, a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig; ac
unrhyw offer atodol a gaiff ei feddiannu at ddiben person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 2006(3) neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4);
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—
a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebiadau electronig, a dim ond ar gyfer hynny;
sy’n gaban glan môr neu’n swyddfa bost;
y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o Ddeddf 1988(5) yn gymwys iddo (elusennau neu glybiau chwaraeon cymunedol amatur);
y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 47(5B) o Ddeddf 1988(6) yn gymwys iddo (sefydliadau dielw);
sy’n hereditament a eithrir fel y diffinnir “excepted hereditament” yn adran 47(9) o Ddeddf 1988(7);
sy’n hereditament y Goron fel y diffinnir “Crown hereditament” yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988(8);
ystyr “hereditament cymwys” (“qualifying hereditament”) yw hereditament sy’n dod o fewn erthygl 12(1)(c) o’r Gorchymyn hwn;
ystyr “llinell” (“line”) yw unrhyw wifren, unrhyw gebl, unrhyw diwb, unrhyw bibell neu unrhyw beth tebyg (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio neu ei ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu unrhyw rwydwaith cyfathrebiadau electronig neu wasanaethau cyfathrebiadau electronig;
mae “llofnod” (“signature”), “llofnodi” (“sign”) neu “llofnodwyd” (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir yn unol ag erthygl 13(3) neu 14(6) drwy gyfathrebiad electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu’n rhesymegol â’r hysbysiad, lofnod electronig, fel y diffinnir “electronic signature” yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
ystyr “person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), pan fo’r trethdalwr—
yn bartneriaeth, yw partner i’r bartneriaeth honno;
yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr i’r ymddiriedolaeth honno;
yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr i’r corff hwnnw, ac
mewn unrhyw achos arall, yw person sydd wedi ei awdurdodi’n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr;
nid yw “strwythur” (“structure”) ond yn cynnwys adeilad os mai unig ddiben yr adeilad hwnnw yw amgáu cyfarpar cyfathrebiadau electronig arall;
ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public post office” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000(9).
3. Pan fo hereditament yn cydymffurfio â’r amodau mewn mwy nag un o erthyglau 7, 8 neu 9, yr erthygl sy’n gymwys yw’r erthygl sy’n cael yr effaith mai’r swm isaf sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r hereditament.
4. Pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig leol sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) yn unig, rhaid i’r trethdalwr hysbysu’r awdurdod bilio ar gyfer y rhestr honno am yr hereditamentau hynny yn unol ag erthygl 13.
5. At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £20,500.
6. Yr amodau sydd i’w bodloni at ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988 yw’r rhai a ragnodir yn erthyglau 7 i 9.
7. Yr amodau gwerth ardrethol yw—
(a)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac
(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.
8. Yr amodau gofal plant yw—
(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(10);
(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(d)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £20,500; ac
(e)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 14.
9. Yr amodau swyddfa bost yw—
(a)y defnyddir yr hereditament, neu ran o’r hereditament, at ddibenion swyddfa bost;
(b)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(d)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 14.
10. Mae swm E a ragnodir at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 i’w bennu yn unol ag erthyglau 11 a 12.
11.—(1) Oni bai bod erthygl 12 yn gymwys (trethdalwr yn atebol am fwy na dau hereditament cymwys), pan fo’r amodau yn erthygl 7, 8 neu 9 wedi eu bodloni, E yw’r swm a bennir ym mharagraff (2), neu a gyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw.
(2) Pan fo hereditament yn bodloni’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl isod, a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (2), E yw’r swm a bennir yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (3), neu fel y’i cyfrifir ynddi.
(1) Erthygl | (2) Gwerth ardrethol (£) | (3) Swm E |
---|---|---|
7 (gwerth ardrethol) | 0 i 6,000 | 5,000,000 |
7 (gwerth ardrethol) | 6,001 i 12,000 | Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon |
8 (gofal plant) | 0 i 6,000 | 5,000,000 |
8 (gofal plant) | 6,001 i 20,500 | Cyfrifir yn unol â pharagraff (4) o’r erthygl hon |
9 (swyddfa bost) | 0 i 9,000 | 5,000,000 |
9 (swyddfa bost) | 9,001 i 12,000 | 2 |
(3) Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol neu’r amodau swyddfa bost) drwy rannu 6000 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).
(4) Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant) drwy rannu 14,500 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).
12.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a)i bob rhestr ardrethu annomestig leol (“rhestr”) ar wahân;
(b)i hereditamentau nad ydynt yn bodloni’r amodau yn erthygl 8 neu 9 (yr amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost) yn unig; ac
(c)pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir am y diwrnod ar restr ac sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) (“hereditamentau cymwys”).
(2) Swm E ar gyfer y ddau hereditament cymwys sydd â’r gwerthoedd tybiannol uchaf, fel a bennir yn unol â pharagraffau (4) i (6), yw’r swm a bennir yn erthygl 11(2), neu a gyfrifir yn unol â’r erthygl honno.
(3) Swm E ar gyfer unrhyw hereditamentau cymwys eraill yw 1.
(4) Gwerth tybiannol hereditament cymwys sydd â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai, yw A.
(5) Cyfrifir gwerth tybiannol hereditament cymwys sydd â gwerth ardrethol o £6,001 neu fwy yn unol â’r fformiwla—
(6) A yw gwerth ardrethol yr hereditament cymwys.
13.—(1) Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
(2) Rhaid i hysbysiad gael ei roi pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament cymwys, neu’n dod yn atebol i’w talu.
(3) Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
(a)ei gyfeirio at yr awdurdod; a
(b)ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(4) Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
(5) Pan fo hysbysiad wedi ei roi caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach o dro i dro, yn unol â’r erthygl hon.
14.—(1) Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 2 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), caniateir i hysbysiad a roddir heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn blwyddyn ariannol gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach nag 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
(3) Ni chaniateir rhoi hysbysiad yn gynharach nag 1 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy’n dod o flaen y flwyddyn ariannol berthnasol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â’r hereditament y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef—
(a)pan fo’r rhan o’r amodau perthnasol ynghylch gwerth ardrethol yn cael ei bodloni yn sgil newid rhestr ardrethu annomestig leol; a
(b)pan roddir hysbysiad o fewn 4 mis ar ôl y dyddiad pryd yr hysbysir yr awdurdod bilio o dan sylw am y newid yn unol â rheoliadau o dan adran 55 o Ddeddf 1988(11) (newid rhestrau),
caniateir i’r hysbysiad gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach na’r dyddiad y mae’r newid yn cael effaith o dan y rheoliadau hynny.
(5) Ni chaniateir i unrhyw hysbysiad gael effaith am ddiwrnod sy’n gynharach nag 1 Ebrill 2018.
(6) Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
(a)ei gyfeirio at yr awdurdod; a
(b)ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(7) Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
(8) Pan fydd hysbysiad wedi ei roi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach yn unol â’r erthygl hon mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol dilynol hynny y caiff yr awdurdod eu pennu o dro i dro.
15. Mae’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 3 wedi eu dirymu ond maent yn parhau i fod yn gymwys i flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 neu cyn hynny.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2017
Erthygl 13
1. Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (pan fo hynny’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (pan fo hynny’n gymwys) y trethdalwr.
2. Cyfeiriadau (gan gynnwys codau post) yr hereditamentau a, phan fo hynny’n hysbys, rifau’r cyfrifon ardrethu annomestig.
3. Y dyddiad y daeth y trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am yr hereditamentau, neu y bydd yn dod yn atebol i’w talu.
4. Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau drwy unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditamentau a grybwyllir ym mharagraff 2.
5. Llofnod y trethdalwr neu’r person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
6. Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.
7. Dyddiad yr hysbysiad.
Erthygl 14
1. Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (pan fo hynny’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (pan fo hynny’n gymwys) y trethdalwr.
2. Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef a, phan fo hynny’n hysbys, rif y cyfrif ardrethu annomestig.
3. Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—
(a)cadarnhad—
(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(ii)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir fel y’i disgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(iii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(b)enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a’i rif cofrestru.
4. Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn.
5. Cadarnhad o’r naill neu’r llall o’r canlynol—
(a)y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a’i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad; neu
(b)y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.
6. Ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio os yw’n ystyried y gallai beidio â bod yn gymwys mwyach i gael rhyddhad ardrethi o dan y Gorchymyn hwn.
7. Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.
8. Llofnod y trethdalwr neu’r person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
9. Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.
10. Dyddiad yr hysbysiad.
Erthygl 15
Gorchmynion sydd wedi eu dirymu | Cyfeirnodau |
---|---|
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 | O.S. 2015/229 (Cy. 11) |
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016 | O.S. 2016/32 (Cy. 13) |
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2017 | O.S. 2017/25 (Cy. 9) |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Ionawr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2018, ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Yn unol ag adran 43(4B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) mae’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ar gyfer Cymru (“y cynllun”).
Mae’r Gorchymyn yn darparu y bydd hereditamentau sy’n bodloni’r amodau a nodir yn erthyglau 7 (amodau gwerth ardrethol); 8 (amodau gofal plant) neu 9 (amodau swyddfa bost) yn cael rhyddhad o dan y cynllun.
Mae Rhan A o’r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau cyffredinol gan gynnwys y diffiniad o hereditamentau sydd wedi eu heithrio rhag cael rhyddhad o dan y cynllun.
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Gorchymyn. Mae’n darparu, pan fo hereditament yn gymwys i gael rhyddhad gan ei fod yn bodloni’r amodau mewn mwy nag un o erthyglau 7, 8 neu 9, yna’r erthygl a fydd yn darparu’r swm mwyaf o ryddhad sydd i’w chymhwyso iddo.
O dan y cynllun, yn unol ag erthygl 12, pan fo trethdalwr yn atebol am fwy na dau hereditament ar restr ardrethu annomestig leol (“rhestr leol”) unigol, a’r hereditamentau hynny yn bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn unig, bydd y trethdalwr yn cael rhyddhad am uchafswm o ddau hereditament o’r fath yn unig. Er mwyn cynorthwyo awdurdodau bilio i weinyddu’r cyfyngiad hwn, mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i drethdalwyr perthnasol hysbysu’r awdurdod bilio priodol am hereditamentau o’r fath.
Mae erthygl 5 yn rhagnodi £20,500 fel uchafswm y gwerth ardrethol ar gyfer hereditamentau sy’n gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun.
Mae Rhan B o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y cynllun rhyddhad, ac mae erthyglau 7 i 9 yn rhagnodi’r amodau cymhwystra.
Mae erthyglau 10 i 12 yn rhagnodi swm E at ddibenion y fformiwla yn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988. Mae’r fformiwla honno’n darparu’r mecanwaith ar gyfer cyfrifo swm yr ardrethi annomestig sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r hereditamentau sy’n gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun.
Yn unol ag erthygl 11, mae cyfradd y rhyddhad y bydd hereditamentau yn ei gael fel a nodir yn y tabl eglurhaol isod—
Math o amod | Gwerth ardrethol (£) | Rhyddhad (%) |
---|---|---|
Gwerth ardrethol | 0 i 6,000 | 100 |
Gwerth ardrethol | 6,001 i 12,000 | Wedi ei dapro o 100 i 0 |
Gofal plant | 0 i 6,000 | 100 |
Gofal plant | 6,001 i 20,500 | Wedi ei dapro o 100 i 0 |
Swyddfa bost | 0 i 9,000 | 100 |
Swyddfa bost | 9,001 i 12,000 | 50 |
Yn unol ag erthygl 12 fodd bynnag, ni fydd trethdalwr ond yn gallu cael rhyddhad am hyd at ddau hereditament sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn unig, ac sy’n ymddangos ar unrhyw restr leol unigol (y cyfeirir atynt yn yr erthygl fel hereditamentau cymwys). Yn unol ag erthygl 12(1)(b), rhaid diystyru unrhyw hereditamentau y mae trethdalwr yn atebol amdanynt, sy’n bodloni’r amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost.
Er mwyn sicrhau bod trethdalwr yn parhau i gael y swm uchaf posibl o ryddhad o dan y cynllun, hyd yn oed pan fo darpariaethau erthygl 12 yn gymwys, mae erthygl 12(2) yn darparu y caiff y rhyddhad ei gymhwyso i’r ddau hereditament perthnasol sydd â’r “gwerthoedd tybiannol” uchaf. Cyfrifir y gwerth tybiannol ar gyfer hereditament yn unol ag erthygl 12(4) i (6). Mae erthygl 12(3) yn rhagnodi mai swm E ar gyfer unrhyw hereditamentau cymwys pellach fydd 1 (sy’n cyfateb i ryddhad o 0%).
Mae Rhan C o’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiadau sydd i’w rhoi i awdurdodau bilio, o fewn pa gyfnod y mae hysbysiadau o’r fath i’w cyflwyno a’r dull o’u cyflwyno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1988 p. 41. Mewnosododd adran 61(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) is-adran (4B) i adran 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mewnosododd adran 61(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 is-adran (9) i adran 44 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
2006 p. 36. Diwygiwyd adran 8 gan O.S. 2011/1210.
Mae adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (p. 7) yn darparu mai ystyr “electronic communication” yw cyfathrebiad a drosglwyddir (pa un ai o un person i berson arall, o un ddyfais i ddyfais arall, neu o berson i ddyfais neu i’r gwrthwyneb)—
(a) drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, neu
(b) drwy gyfrwng arall ond mewn ffurf electronig.
Diwygiwyd adran 43(6) gan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26), ac adran 1177 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4), a pharagraffau 206 a 207 o Ran 2 o Atodlen 1 iddi.
Mewnosodwyd adran 47(5B) gan adran 69 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).
Diwygiwyd adran 47(9) gan baragraff 65 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14).
Mewnosodwyd adran 65A gan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29). Diwygiwyd is-adran (4) gan baragraff 73 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16) a chan baragraffau 180 a 181 o Atodlen 16 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).
2000 p. 26. Mewnosodwyd y diffiniad o “public post office” i is-adran (1) gan baragraff 49(1) o Atodlen 12 i Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p. 5).
Diwygiwyd adran 55 gan baragraffau 30 a 79 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42); paragraff 1 o Atodlen 10 a pharagraff 67 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14); paragraff 84 o Atodlen 16 i Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19); paragraffau 2 a 3 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28); ac adran 32 o Ddeddf Menter 2016 (p. 12).