2017 Rhif 152 (Cy. 44) (C. 16)
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
2
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 24 Chwefror 20172
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 24 Chwefror 2017—
a
adran 77 (ffioedd am fonitro, amrywio etc. drwyddedau morol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
b
adran 78 (darpariaeth bellach ynghylch talu ffioedd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau; a
c
adran 79 (apelio yn erbyn amrywio etc. drwydded forol am beidio â thalu ffi neu flaendal) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)