2017 Rhif 280 (Cy. 74)
Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw gweithgaredd morol trwyddedadwy;
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 20113; ac
ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded forol a roddir o dan adran 71(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf.
Cymhwyso3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw drwydded ac unrhyw gais am drwydded y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan adran 113 o’r Ddeddf ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.
Ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau4
Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â phenderfynu ar gais sy’n dod o fewn band a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf paragraff 1 o Atodlen 1 wedi eu nodi yn ail golofn y paragraff hwnnw.
Ffioedd ar gyfer monitro a bodloni amodau trwydded5
Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwaith monitro o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 mewn perthynas â thrwyddedau o ddisgrifiad a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.
Ffioedd ar gyfer amrywio a throsglwyddo trwyddedau6
Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer penderfynu ar gais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 mewn perthynas â thrwyddedau o fath a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.
Cyfrifo ffioedd7
Wrth gyfrifo ffioedd drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â chyfradd yr awr, caiff cyfanswm yr oriau a weithiwyd ei fynegi ar ffurf ffracsiwn pan fo—
a
llai nag un awr wedi ei weithio; neu
b
cyfanswm yr amser a weithiwyd yn fwy nag un awr ond na ellir ei fynegi fel rhif cyfan mewn oriau.
Talu ffioedd8
1
Mae pob ffi yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.
2
Caniateir talu unrhyw ffi drwy gyfrwng electronig.
3
Nid yw taliad ffi wedi ei gael hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael arian cliriedig ar gyfer y swm cyfan sy’n ddyledus.
4
Caiff unrhyw ffi nad yw wedi ei thalu ei hadennill gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.
Blaendaliadau9
Rhaid cyfrifo blaendaliadau unrhyw ffioedd sy’n daladwy ar gyfradd yr awr drwy gyfeirio at yr amcangyfrif o hyd y gwaith sy’n debygol o fod yn ofynnol a’r gyfradd yr awr sy’n daladwy.
Ad-daliadau10
Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw daliad a wnaed sy’n fwy na’r ffi sy’n daladwy, ond nid yw ffioedd a dalwyd yn ad-daladwy fel arall.
Dirymu Rheoliadau 201111
Yn ddarostyngedig i reoliad 12, mae Rheoliadau 2011 wedi eu dirymu.
Darpariaethau trosiannol ac arbed12
1
Mae Rheoliadau 2011 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2017 nad oedd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno cyn y dyddiad hwnnw.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â phob cais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r gwaith monitro a ddisgrifir yn Atodlen 2 a gyflawnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 ni waeth pa un a yw’r gwaith monitro hwnnw yn ymwneud â thrwydded forol a roddwyd cyn, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
4
At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais wedi dod i law hyd nes bod ceisydd wedi darparu pa bynnag wybodaeth neu wedi dangos pa bynnag eitemau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr awdurdod trwyddedu i alluogi’r awdurdod trwyddedu i benderfynu ar y cais.
ATODLEN 1Bandiau a Ffioedd Ceisiadau
1
Mae’r bandiau a’r ffioedd fel a ganlyn—
Band y cais a disgrifiad ohono | Y ffi ar gyfer penderfynu ar gais |
---|---|
Band 1 | |
Unrhyw gais sy’n ymwneud ag:
| £600 |
Band 2 | |
Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 yn unig, ac sy’n ymwneud â gweithgaredd penodedig. | £1,920 |
Band 3 | |
Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2 yn unig. | Cyfrifir y ffi ar gyfradd o £120 yr awr. |
2
Ym mharagraff 1, yn ddarostyngedig i’r eithriad ym mharagraff 3, ystyr “gweithgaredd penodedig” (“specified activity”) yw unrhyw weithgaredd sy’n dod o fewn un neu ddwy o’r eitemau a ganlyn—
a
eitem 1 (dyddodion o fewn ardal trwyddedu morol y DU etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf;
b
eitem 7 (adeiladu, addasu neu wella gweithfeydd etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf;
c
eitem 8 (defnyddio cerbyd, llestr, awyren, strwythur morol neu gynhwysydd arnofiol i symud sylweddau ymaith etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf; neu
d
eitem 9 (cyflawni unrhyw ffurf ar dreillio etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf ond dim ond i’r graddau y mae eitem 9 yn ymwneud â threillio o ran cynnal a chadw.
3
Nid yw gweithgaredd penodedig yn cynnwys—
a
unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/92/EU4ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd;
b
unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno, os yw’n debygol oherwydd ei faint, ei natur neu ei leoliad o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd;
c
gweithgaredd y mae asesiad o’r effaith amgylcheddol yn ofynnol mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd rheoliad 5 (gofyniad am asesiad drwy gytundeb) o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 20075;
d
gweithgaredd sy’n cynnwys eitemau 7 a 9 a ddisgrifir ym mharagraff 2(b) a (d);
e
unrhyw weithgaredd neu weithgareddau, neu fwy nag un gweithgaredd gyda’i gilydd, sydd â chost amcangyfrifedig o fwy na £1,000,000.
ATODLEN 2Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Monitro
Disgrifiad o’r gwaith monitro | Disgrifiad o’r drwydded | Y ffi |
---|---|---|
Bodloni amodau’r drwydded | ||
Cymeradwyaeth gan yr awdurdod trwyddedu fel sy’n ofynnol gan unrhyw amod o fewn trwydded forol. | Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn. | Ffi benodedig o £480 ar gyfer pob amod sy’n gysylltiedig â thrwydded. |
Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn. | Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. | |
Pob gwaith monitro arall | ||
Unrhyw waith monitro arall fel y darperir ar ei gyfer yn adran 72A(2)(a), (b) a (3) o’r Ddeddf. | Unrhyw drwydded. | Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. |
ATODLEN 3Ffioedd sy’n Daladwy ar gyfer Amrywio a Throsglwyddo Trwyddedau
Disgrifiad o’r amgylchiadau | Disgrifiad o’r drwydded | Y ffi |
---|---|---|
Categori 1 | ||
Amrywio trwydded ar gais y ceisydd pan fo enw’r llestr, rhif cofrestru’r cerbyd, enw neu gyfeiriad yr asiant neu’r contractwr wedi ei ddiwygio neu pan fo diwygiadau gweinyddol tebyg eraill yn cael eu gwneud. | Unrhyw drwydded. | Ffi o £240 y cais. |
Categori 2 | ||
Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded pan fo’r awdurdod trwyddedu yn ymgynghori â pherson neu gorff (gan gynnwys ymgynghori mewnol o fewn yr awdurdod trwyddedu) heblaw am ddeiliad y drwydded er mwyn penderfynu pa un ai i amrywio’r drwydded honno, neu sut i’w hamrywio. | Unrhyw drwydded. | Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. |
Categori 3 | ||
Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded o dan unrhyw amgylchiadau eraill. | Unrhyw drwydded. | Ffi o £480. |
Trosglwyddo | ||
Trosglwyddo trwydded o’r trwyddedai i berson arall a’i hamrywio yn unol â hynny. | Unrhyw drwydded. | Ffi o £480. |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)