Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygiadau i Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(3) yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)y datganiad o’r effaith ar dreftadaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6;.

(3Yn lle rheoliad 6 a’i bennawd rhodder—

Datganiadau o’r effaith ar dreftadaeth

6.(1) Rhaid i unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ddod gyda datganiad o’r effaith ar dreftadaeth.

(2) Mewn perthynas â chais am ganiatâd adeilad rhestredig, rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth gynnwys—

(a)disgrifiad o’r gwaith arfaethedig (“y gwaith”), gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau dylunio a rhestr o’r gwaith;

(b)esboniad o’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith a pham bod y gwaith yn ddymunol neu’n angenrheidiol;

(c)datganiad sy’n disgrifio diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef a’i arwyddocâd, gan gyfeirio’n benodol at y rhan o’r adeilad y mae’r gwaith yn effeithio arni;

(d)asesiad o effaith y gwaith ar ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad a’i arwyddocâd, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i’r diddordeb hwnnw;

(e)crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a’r rhesymau dros ffafrio’r cynigion y mae’r cais yn ymwneud â hwy; ac

(f)yn ddarostyngedig i baragraff (4), disgrifiad o sut yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â mynediad sy’n codi mewn perthynas â’r gwaith.

(3) Mewn perthynas â chais am ganiatâd ardal gadwraeth, rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth gynnwys—

(a)disgrifiad o’r gwaith arfaethedig (“y gwaith dymchwel”), gan gynnwys rhestr o’r gwaith;

(b)esboniad o’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith dymchwel a pham bod dymchwel yn ddymunol neu’n angenrheidiol;

(c)disgrifiad o sut y mae unrhyw adeilad y bwriedir ei ddymchwel yn cyfrannu at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth;

(d)asesiad o effaith y gwaith dymchwel ar gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i gymeriad neu olwg yr ardal;

(e)crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) a’r rhesymau dros ffafrio dymchwel.

(4) Nid yw paragraff (2)(f) yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith a fyddai’n effeithio ar fynedfa i, neu o fewn, unrhyw ran o adeilad rhestredig a ddefnyddir fel annedd breifat.

(4Yn rheoliad 13(1) yn lle “o dan adrannau 28 neu 29 o’r Ddeddf,” rhodder “o dan adrannau 28, 29 neu 44D o’r Ddeddf,”.

(5Ar ôl rheoliad 13(1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i gais am ddigolledu a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 28B o’r Ddeddf gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru drwy ei draddodi i swyddfeydd Gweinidogion Cymru, neu drwy ei anfon i’r swyddfeydd hynny drwy bost rhagdaledig.

(6Yng ngeiriau agoriadol rheoliad 13(2) yn lle “mharagraff (1)” rhodder “mharagraff (1) neu (1A)”.

(1)

O.S. 2012/793 (Cy. 108), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources