RHAN 7Penderfyniadau ar yr adolygiad

Hysbysu ynghylch y penderfyniad24

Rhaid i’r person penodedig, ar ôl dod i’r casgliad nad yw unrhyw dystiolaeth bellach yn ofynnol er mwyn ei alluogi i wneud ei benderfyniad ar yr adolygiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol roi hysbysiad ynghylch ei benderfyniad, a’r rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw, i—

a

y ceisydd;

b

Gweinidogion Cymru;

c

pob person â buddiant; a

d

unrhyw berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b).