Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad
8.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau, anfon at y ceisydd a’r person penodedig ddatganiad yn nodi’r holl faterion y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu codi yn ystod yr adolygiad ac y maent yn ystyried y dylai’r person penodedig eu hystyried wrth gynnal yr adolygiad (“datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad”).
(2) Rhaid i ddatganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad ddod gyda’r holl ddogfennau, deunyddiau a thystiolaeth y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu dibynnu arnynt yn ystod yr adolygiad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r ceisydd anfon at y person penodedig ddau gopi o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig sydd ganddynt ynghylch datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad fel eu bod yn dod i law o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.
(4) Pan anfonir sylwadaethau ysgrifenedig at y person penodedig o dan baragraff (3) neu (5), rhaid i’r person penodedig, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o unrhyw sylwadaethau o’r fath at Weinidogion Cymru.
(5) Mae’r gofyniad ym mharagraff (3) i’w ddehongli fel pe bai’n caniatáu anfon un copi yn unig o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig at ddiben bodloni’r gofyniad hwnnw mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn dewis anfon y sylwadaethau drwy ddull cyfathrebu electronig.
Back to top