2017 Rhif 953 (Cy. 240) (C. 87)
Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 81(2) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20171.
Enw1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Hydref 20172
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ddod i rym yw 18 Hydref 2017—
a
adran 9(6) (tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr);
b
adran 24 (rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan is-adrannau (1) ac (11);
c
adran 25 (gweithdrefn ar gyfer rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth);
d
adran 30(1) (rhyddhadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall) y cyfeirir atynt ym mharagraff (e);
e
yn Atodlen 11—
i
paragraff 2 (dehongli);
ii
paragraff 9(1) (amod 4) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
iii
paragraff 16 (gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
iv
paragraff 18(4)(a) a (5) (disodli ased) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
f
adran 32(2) (lesoedd) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 28 a 36(1)(b) o Atodlen 6 (lesoedd);
g
yn Atodlen 6—
i
paragraff 28 (cyfraddau treth a bandiau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg);
ii
paragraff 36(1)(b) (y rhent perthnasol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
h
adran 65(5), (6) a (7)(b) (cofrestru trafodiadau tir);
i
adran 76 (diwygiadau i DCRhT) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 8 o Atodlen 23 (diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20162); a
j
paragraff 8 o Atodlen 23.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)