2017 Rhif 955 (Cy. 242) (C. 89)

Y Dreth Dirlenwi, Cymru

Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 97(2) a (3) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 20171.

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Hydref 20172

Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 18 Hydref 2017—

a

adran 14(3) a (6) (cyfradd safonol a chyfradd is y dreth gwarediadau tirlenwi) at ddiben gwneud rheoliadau;

b

adran 17 (cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau man);

c

adran 33 (pŵer i addasu rhyddhadau);

d

adran 41(9) (pŵer i ddiwygio Atodlen 3);

e

adran 46(4) (cyfradd dreth gwarediadau tirlenwi sydd heb eu hawdurdodi) at ddiben gwneud rheoliadau;

f

adran 54 (pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth);

g

adran 87 (pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol); ac

h

adran 91 (arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 8 Tachwedd 20173

Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 8 Tachwedd 2017—

a

adran 60 (datgelu gwybodaeth i Awdurdod Cyllid Cymru); a

b

adran 92 (Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi).

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017 a daeth Rhannau 1 a 6 o’r Ddeddf i rym y diwrnod canlynol.

Mae erthygl 2 y Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol y Ddeddf ar 18 Hydref 2017 at ddau ddiben. Yn gyntaf, i gychwyn pwerau penodol yn y Ddeddf fydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i baratoi ar gyfer casglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Yn ail, er mwyn sicrhau bod adran 91 o’r Ddeddf (arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru) yn gymwys pan fydd pwerau a dyletswyddau yn cael eu harfer yn ystod y cyfnod paratoi.

Mae erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 60 o’r Ddeddf ar 8 Tachwedd 2017, er mwyn caniatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol rannu gwybodaeth ag Awdurdod Cyllid Cymru at ddiben ei helpu i gasglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hefyd yn dwyn i rym adran 92 o’r Ddeddf (Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi) ar yr un dyddiad, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ar y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym yn llawn neu cyn hynny, a fydd yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.