2017 Rhif 961 (Cy. 244)
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 39(1)(g), 39(2) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 2 Ebrill 2018.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
mae i “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yr un ystyr ag yn adran 189 o’r Ddeddf.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys ym mhob hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf3
Rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf gynnwys—
a
enw’r darparwr gwasanaeth;
b
enw’r gwasanaeth rheoleiddiedig a’r math o wasanaeth rheoleiddiedig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
c
y man y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu’r mannau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hwy;
d
y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad; ac
e
y paragraff yn adran 39(1) o’r Ddeddf neu yn rheoliad 10 yr anfonir yr hysbysiad odano.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf4
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
a
y dyddiad y cymerodd canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a
b
naill ai—
i
pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i ganslo a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros ganslo; neu
ii
pan fo hysbysiad yn ymwneud â chanslo yn dilyn cais a wneir o dan adran 14 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros ganslo’r cofrestriad.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf5
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
a
y dyddiad y cymerodd amrywiad cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a
b
naill ai—
i
pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros amrywio; neu
ii
pan fo hysbysiad yn ymwneud ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth yn dilyn cais a wneir o dan adran 11 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros yr amrywiad.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf6
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
a
y dyddiad y gwnaed y gorchymyn; a
b
y dyddiad y cymerodd y gorchymyn effaith neu y bydd y gorchymyn yn cymryd effaith, os yw’n wahanol.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf7
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
a
enw’r unigolyn cyfrifol y mae ei ddynodiad wedi ei ganslo;
b
y sail dros ganslo’r dynodiad; ac
c
y dyddiad y cymerodd y canslo effaith, os yw’n wahanol.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf8
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
a
enw’r person y mae achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn;
b
y dyddiad y cychwynnwyd yr achos;
c
y drosedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni; a
d
dyddiad y gwrandawiad llys cyntaf, os yw’n hysbys.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf9
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
a
enw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo;
b
y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb; ac
c
y drosedd y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod wedi ei chyflawni.
Hysbysu am bethau rhagnodedig o dan adran 39(1)(g) o’r Ddeddf10
Y pethau a ragnodir at ddiben adran 39(1)(g) o’r Ddeddf yw—
a
apêl gan y darparwr gwasanaeth i’r tribiwnlys yn erbyn—
i
canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth;
ii
amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu fan y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;
iii
gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o’r Ddeddf; neu
iv
canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o’r Ddeddf;
b
penderfyniad y tribiwnlys mewn cysylltiad ag unrhyw apêl a wneir iddo gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (a);
c
pan fo achos wedi ei ddwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani)—
i
tynnu achos yn ôl;
ii
penderfyniad y llys yn yr achos;
iii
apêl yn erbyn penderfyniad y llys; a
iv
canlyniad yr apêl.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)