Search Legislation

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 962 (Cy. 245)

Trwyddedu (morol), Cymru

Rheoli Morol, Cymru

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017

Gwnaed

27 Medi 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Hydref 2017

Yn dod i rym

20 Tachwedd 2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 98(1) o’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 98(3) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Tachwedd 2017.

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(2) ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.

(2Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei heithrio o fewn yr ystyr a roddir i “excepted functions” yn adran 98(6) o’r Ddeddf honno.

Dynodi

3.—(1Mae’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi eu dynodi at ddibenion adran 98(1)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

(2Y swyddogaethau yw unrhyw swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu o dan—

(a)adran 67A (cyngor a chymorth arall gan Weinidogion Cymru);

(b)adran 72A (ffioedd pellach sydd i’w codi os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol);

(c)adran 107A (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);

(d)adran 107B (darpariaethau atodol ynghylch ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);

(e)Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011(3) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017(4);

(f)Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017(5).

Dirprwyo i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru

4.  Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu dynodi gan erthygl 3, yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod trwyddedu, neu mewn perthynas ag ef, yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

27 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirprwyo arfer swyddogaethau penodol Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”) i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i swyddogaethau’r awdurdod trwyddedu (yn bennaf y rhai sy’n ymwneud â gwneud is-ddeddfwriaeth) sy’n swyddogaethau sydd wedi eu heithrio ac na ellir eu dirprwyo yn rhinwedd adran 98(5)(a) o Ddeddf 2009 (erthygl 2(2)).

Mae erthygl 3 yn dynodi swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan adrannau 67A, 72A, 107A a 107B o Ddeddf 2009.

Mae erthygl 4 yn darparu bod y swyddogaethau dynodedig yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu (yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod hwnnw, neu mewn perthynas ag ef). Mae gan yr awdurdod trwyddedu’r pŵer i roi cyfarwyddydau i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau dirprwyedig (gweler adran 100 o Ddeddf 2009, sy’n swyddogaeth sydd wedi ei heithrio).

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at Orchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/414 (Cy. 50)) a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Gorchymyn hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2009 p. 23; diwygiwyd gan Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(2)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol mewn cysylltiad ag unrhyw beth a wneir wrth gyflawni gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o’r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) o’r Ddeddf honno i gael diffiniad o “Welsh inshore region”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources