2017 Rhif 962 (Cy. 245)

Trwyddedu (morol), Cymru
Rheoli Morol, Cymru

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 98(1) o’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 98(3) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Enwi a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Tachwedd 2017.

Cymhwyso2

1

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20092 ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.

2

Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei heithrio o fewn yr ystyr a roddir i “excepted functions” yn adran 98(6) o’r Ddeddf honno.

Dynodi3

1

Mae’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi eu dynodi at ddibenion adran 98(1)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

2

Y swyddogaethau yw unrhyw swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu o dan—

a

adran 67A (cyngor a chymorth arall gan Weinidogion Cymru);

b

adran 72A (ffioedd pellach sydd i’w codi os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol);

c

adran 107A (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);

d

adran 107B (darpariaethau atodol ynghylch ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);

e

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 20113 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 20174;

f

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 20175.

Dirprwyo i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru4

Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu dynodi gan erthygl 3, yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod trwyddedu, neu mewn perthynas ag ef, yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirprwyo arfer swyddogaethau penodol Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”) i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i swyddogaethau’r awdurdod trwyddedu (yn bennaf y rhai sy’n ymwneud â gwneud is-ddeddfwriaeth) sy’n swyddogaethau sydd wedi eu heithrio ac na ellir eu dirprwyo yn rhinwedd adran 98(5)(a) o Ddeddf 2009 (erthygl 2(2)).

Mae erthygl 3 yn dynodi swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan adrannau 67A, 72A, 107A a 107B o Ddeddf 2009.

Mae erthygl 4 yn darparu bod y swyddogaethau dynodedig yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu (yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod hwnnw, neu mewn perthynas ag ef). Mae gan yr awdurdod trwyddedu’r pŵer i roi cyfarwyddydau i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau dirprwyedig (gweler adran 100 o Ddeddf 2009, sy’n swyddogaeth sydd wedi ei heithrio).

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at Orchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/414 (Cy. 50)) a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Gorchymyn hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.