xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1022 (Cy. 213) (C. 78)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 2018

Gwnaed

19 Medi 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 58 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015(1).

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 2018.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 22 Hydref 2018

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ddod i rym yw 22 Hydref 2018—

(a)adrannau 52 a 53 (i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym); a

(b)Atodlen 6.

Darpariaethau Trosiannol

3.—(1Nid yw adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(2) (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) yn gymwys i gais o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(3) i gofrestru tir yng Nghymru yn faes tref a phentref, a anfonir cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2.

(2At ddibenion adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) nid oes wahaniaeth a fu digwyddiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1B i Ddeddf Tiroedd Comin 2006 cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2, ar y diwrnod hwnnw, neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

19 Medi 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r pumed gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).

Mae erthygl 2 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru tir yn faes tref neu bentref o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 21 Ebrill 2016O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123)
Adran 3 (i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004)4 Ionawr 2016O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123)
Adran 4 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)5 Hydref 2015O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106)
Adrannau 11 i 14 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)4 Ionawr 2016O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123)
Adran 15(1) a (2) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)16 Mawrth 2016O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123)
Adran 15(3)1 Ebrill 2016O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123)
Adrannau 17 i 22 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adrannau 24 i 27 (i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adrannau 28 i 30 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)16 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adran 31 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)4 Ionawr 2016O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123)
Adran 32 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)16 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adrannau 33 a 34 (i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adrannau 33 i 38 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)16 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adran 39 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)5 Mai 2017O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49)
Adrannau 40 i 42 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)16 Mawrth 2016O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123)
Adrannau 43 i 46 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)16 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adrannau 47 a 48 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)5 Mai 2017O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49)
Adran 49 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adran 50 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adran 50 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)5 Mai 2017O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49)
Adran 51 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 1 i 14; 16(1); 18 i 20; 21(1); 22 i 24; 25(1) a (2)(a) a (b); a 26 o Atodlen 5)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Adran 51 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)5 Mai 2017O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49)
Adran 54 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)10 Ebrill 2017O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49)
Rhan 1 o Atodlen 1 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)5 Hydref 2015O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106)
Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Atodlen 4 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd)1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Atodlen 5: paragraffau 1 i 14; paragraff 16(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2), ac is-baragraff (2); paragraff 18 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 5(4) o Atodlen 8 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; paragraff 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 20, a pharagraff 21(1), (2)(a) a (b); paragraff 20; paragraff 21(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2)(a) a (b); paragraff 22; paragraff 23 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 24, 25(1), 25(2)(a) a (b), a 26; paragraff 24; paragraff 25(1), (2)(a) a (b); a pharagraff 26.1 Mawrth 2016O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4)
Atodlen 5: paragraffau 15 i 19; 21; 22; 23; 25; a 27 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)5 Mai 2017O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49)

Gweler adran 58(1) o Ddeddf 2015 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod pan gafodd Deddf 2015 y Cydsyniad Brenhinol ac adran 58(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2015 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2015 y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffennaf 2015.

(2)

2006 p. 26; mewnosodwyd adran 15C gan adran 16(1) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) (“Deddf 2013”).

(3)

Diwygiwyd adran 15 gan adran 14 o Ddeddf 2013.