2018 Rhif 122 (Cy. 28)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62 a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, a pharagraffau 1 a 2(2)(h) o Atodlen 9 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2018.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2018.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio Cymreig, neu ar eu rhan.

4

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “hysbysiad galw am dalu” yw hysbysiad galw am dalu o fewn yr ystyr a roddir i “demand notice” yn Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 19893 a gyflwynir gan awdurdod bilio neu unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod bilio i arfer unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu ardrethi annomestig (gan gynnwys hysbysiad o’r fath a gyflwynir yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 19904 (cydberchnogion a chydfeddianwyr)).

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 20172

Ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 20175 (nodiadau esboniadol), yn y paragraff o’r enw rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, yn lle “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015”6 rhodder “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017”7.

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (O.S. 2017/113 (Cy. 39)) yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru, neu ar eu rhan. Mae Atodlen 2 i Reoliadau 2017 yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y nodiadau esboniadol y mae’n rhaid iddynt fynd gyda hysbysiad galw am dalu, sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n gymwys yng Nghymru.

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017”) (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi newydd i fusnesau bach yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 fel bod yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau esboniadol sy’n mynd gyda hysbysiadau galw am dalu a ddyroddir mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn cyfeirio at Orchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.