Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 122 (Cy. 28)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

31 Ionawr 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Chwefror 2018

Yn dod i rym

23 Chwefror 2018

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2018.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio Cymreig, neu ar eu rhan.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “hysbysiad galw am dalu” yw hysbysiad galw am dalu o fewn yr ystyr a roddir i “demand notice” yn Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(3) a gyflwynir gan awdurdod bilio neu unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod bilio i arfer unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu ardrethi annomestig (gan gynnwys hysbysiad o’r fath a gyflwynir yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990(4) (cydberchnogion a chydfeddianwyr)).

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017

2.  Ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017(5) (nodiadau esboniadol), yn y paragraff o’r enw rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, yn lle “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015”(6) rhodder “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017”(7).

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

31 Ionawr 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (O.S. 2017/113 (Cy. 39)) yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru, neu ar eu rhan. Mae Atodlen 2 i Reoliadau 2017 yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y nodiadau esboniadol y mae’n rhaid iddynt fynd gyda hysbysiad galw am dalu, sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n gymwys yng Nghymru.

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017”) (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi newydd i fusnesau bach yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 fel bod yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau esboniadol sy’n mynd gyda hysbysiadau galw am dalu a ddyroddir mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn cyfeirio at Orchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 41. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 9 gan Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15). Diwygiwyd paragraff 2(2)(h) o Atodlen 9 gan adran 8(1) a (3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17); ac adrannau 139 a 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), a pharagraffau 1, 44(2), (3) a (4) o Atodlen 5 a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) , a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

O.S. 1990/145 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1993/616 ac O.S. 2014/600.