Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Contractau yr ymrwymir iddynt ar 17 Rhagfyr 2014 neu cyn hynny
3.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymir iddynt ar 17 Rhagfyr 2014 neu cyn hynny ar gyfer trafodiad tir y mae’r trafodiad i’w gwblhau drwy drosglwyddiad oddi tano ac y ceir dyddiad cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad sydd ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, a’r trafodiad wedi ei eithrio gan ddigwyddiad adran 16(6), mae adran 10 o’r Ddeddf TTT yn gymwys yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r contract wedi ei gyflawni’n sylweddol fel a ddisgrifir yn adran 44(4) o DC 2003, a bod treth mewn cysylltiad â’r cyflawni’n sylweddol wedi ei thalu i CThEM o dan y Ddeddf honno.
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys, mae adran 10(5)(b) o’r Ddeddf TTT yn gymwys ac eithrio nad yw’r dreth ond i’w chodi ar y trafodiad diwethaf i’r graddau (os o gwbl) y mae swm y dreth sydd i’w godi arno yn fwy na swm y dreth sydd i’w godi ar y contract o dan DC 2003 ac a dalwyd i CThEM.
Back to top