2018 Rhif 195 (Cy. 44)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 2

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161 ac adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20142.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 186(4) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.