2018 Rhif 2 (Cy. 2)

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 65(5) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20171, a pharagraffau 2, 9(1), 16 a 18(4)(a) a (5) o Atodlen 11 iddi.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT;

  • ystyr “CUT” (“UTRN”) yw’r cyfeirnod unigryw trafodiad a ddyrennir i drafodiad tir gan ACC at ddibenion treth trafodiadau tir;

  • “dyroddwr bond” (“bond-issuer”) yw “B” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen;

  • ystyr “y Ddeddf TTT” (“the LTT Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a

  • “perchennog gwreiddiol” (“original owner”) yw “A” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen.

RHAN 2Tystysgrifau ACC

Amodau sydd i’w bodloni cyn y dyroddir tystysgrif ACC3

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i dystysgrif ACC gael ei dyroddi pan fo ACC wedi ei fodloni—

a

bod ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â thrafodiad tir hysbysadwy; a

b

bod y ffurflen dreth (ynghyd ag unrhyw ffurflenni treth eraill sy’n ofynnol)—

i

wedi ei chwblhau; a

ii

yn cynnwys y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 o’r Ddeddf TTT.

2

Pan fo ffurflen dreth yn ymwneud â thrafodiad trethadwy, rhaid i ACC fod wedi ei fodloni hefyd—

a

bod y ffurflen dreth yn cynnwys hunanasesiad fel sy’n ofynnol gan adran 44(2)(b) o’r Ddeddf TTT; a

b

ar sail yr wybodaeth a gynhwysir yn y ffurflen dreth, yr ymddengys bod yr hunanasesiad yn gywir.

Ffurf a chynnwys tystysgrifau ACC4

Rhaid i dystysgrif ACC fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

cyfeiriad y tir y mae’r trafodiad yn ymwneud ag ef;

b

unrhyw rif teitl ar gyfer y tir yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir sydd wedi ei ddarparu ar y ffurflen dreth;

c

unrhyw gyfeirnod unigryw eiddo y Rhestr Gyfeiriadau Genedlaethol sydd wedi ei ddarparu ar y ffurflen dreth;

d

disgrifiad o’r trafodiad;

e

y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith; ac

f

enw’r prynwr a’r gwerthwr.

Tystysgrifau ACC dyblyg5

Os yw ACC wedi ei fodloni bod tystysgrif ACC wedi ei cholli neu ei dinistrio, caniateir dyroddi tystysgrif ACC ddyblyg.

Tystysgrifau ACC lluosog6

1

Pan ddychwelir ffurflen dreth sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad, caiff y prynwr wneud cais i ACC ddyroddi tystysgrifau ACC ar wahân mewn cysylltiad â phob un o’r trafodiadau y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hwy.

2

Pan fo’r prynwr yn gwneud cais o dan baragraff (1), rhaid i ACC ddarparu tystysgrifau ar wahân mewn cysylltiad â phob un o’r trafodiadau hynny.

RHAN 3Bondiau Buddsoddi Cyllid Arall – Tystiolaeth Ragnodedig

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 9(1) o’r Atodlen7

Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 9(1) o’r Atodlen (amod 4 ar gyfer gweithredu rhyddhadau) yw—

a

unrhyw ddogfen a ddarparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod pridiant tir cyfreithiol wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitlau o blaid ACC; a

b

y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond.

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 16 o’r Atodlen8

Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 16 o’r Atodlen (gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad) yw—

a

datganiad gan y dyroddwr bond, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ran y dyroddwr bond, fod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni;

b

y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;

c

y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; a

d

unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(4)(a) o’r Atodlen9

Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(4)(a) o’r Atodlen (tir amnewid sydd yng Nghymru) yw—

a

y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;

b

y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; ac

c

unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(5) o’r Atodlen10

Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(5) o’r Atodlen (tir amnewid nad yw yng Nghymru) yw—

a

y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;

b

y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol;

c

unrhyw ddogfen sy’n profi nad yw’r tir amnewid yng Nghymru a bod amodau 1 i 3 yn Rhan 3 o’r Atodlen wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir hwnnw; a

d

unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer materion amrywiol sy’n ymwneud â gweinyddu’r dreth trafodiadau tir.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) ddyroddi tystysgrif yn sgil cael ffurflen dreth trafodiadau tir a materion eraill sy’n ymwneud â’r dystysgrif.

Mae adran 65(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf TTT”) yn gwahardd Prif Gofrestrydd Tir Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi rhag diwygio’r gofrestr teitlau mewn cysylltiad â thrafodiad tir hysbysadwy hyd nes y bydd tystysgrif o’r fath wedi ei chyflwyno.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amodau sydd i’w bodloni cyn i ACC ddyroddi tystysgrif.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi ffurf a chynnwys tystysgrif a ddyroddir gan ACC.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrif ACC ddyblyg mewn achosion pan fo’r dystysgrif wreiddiol wedi ei cholli neu ei dinistrio.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrifau ACC lluosog pan ddychwelir ffurflen dreth trafodiadau tir sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno i ACC pan gaiff rhyddhad ei hawlio o dan Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â bondiau buddsoddi cyllid arall.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddiben paragraff 9(1) o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod pridiant tir cyfreithiol o blaid ACC wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddiben paragraff 16 o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni er mwyn gollwng y pridiant tir cyfreithiol a gofrestrwyd yn unol â pharagraff 9(1) o’r Atodlen honno.

Mae rheoliad 9 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddiben paragraff 18(4)(a) o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT, pan fo’r tir amnewid yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod y tir gwreiddiol wedi ei drosglwyddo i’r perchennog gwreiddiol.

Mae rheoliad 10 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddibenion paragraff 18(5) o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod y tir gwreiddiol wedi ei drosglwyddo i’r perchennog gwreiddiol, a bod amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid, nad yw yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.