Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 2 (Cy. 2)

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018

Gwnaed

4 Ionawr 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Ionawr 2018

Yn dod i rym

1 Ebrill 2018

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT;

ystyr “CUT” (“UTRN”) yw’r cyfeirnod unigryw trafodiad a ddyrennir i drafodiad tir gan ACC at ddibenion treth trafodiadau tir;

“dyroddwr bond” (“bond-issuer”) yw “B” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen;

ystyr “y Ddeddf TTT” (“the LTT Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a

“perchennog gwreiddiol” (“original owner”) yw “A” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen.

RHAN 2Tystysgrifau ACC

Amodau sydd i’w bodloni cyn y dyroddir tystysgrif ACC

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i dystysgrif ACC gael ei dyroddi pan fo ACC wedi ei fodloni—

(a)bod ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â thrafodiad tir hysbysadwy; a

(b)bod y ffurflen dreth (ynghyd ag unrhyw ffurflenni treth eraill sy’n ofynnol)—

(i)wedi ei chwblhau; a

(ii)yn cynnwys y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 o’r Ddeddf TTT.

(2Pan fo ffurflen dreth yn ymwneud â thrafodiad trethadwy, rhaid i ACC fod wedi ei fodloni hefyd—

(a)bod y ffurflen dreth yn cynnwys hunanasesiad fel sy’n ofynnol gan adran 44(2)(b) o’r Ddeddf TTT; a

(b)ar sail yr wybodaeth a gynhwysir yn y ffurflen dreth, yr ymddengys bod yr hunanasesiad yn gywir.

Ffurf a chynnwys tystysgrifau ACC

4.  Rhaid i dystysgrif ACC fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)cyfeiriad y tir y mae’r trafodiad yn ymwneud ag ef;

(b)unrhyw rif teitl ar gyfer y tir yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir sydd wedi ei ddarparu ar y ffurflen dreth;

(c)unrhyw gyfeirnod unigryw eiddo y Rhestr Gyfeiriadau Genedlaethol sydd wedi ei ddarparu ar y ffurflen dreth;

(d)disgrifiad o’r trafodiad;

(e)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith; ac

(f)enw’r prynwr a’r gwerthwr.

Tystysgrifau ACC dyblyg

5.  Os yw ACC wedi ei fodloni bod tystysgrif ACC wedi ei cholli neu ei dinistrio, caniateir dyroddi tystysgrif ACC ddyblyg.

Tystysgrifau ACC lluosog

6.—(1Pan ddychwelir ffurflen dreth sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad, caiff y prynwr wneud cais i ACC ddyroddi tystysgrifau ACC ar wahân mewn cysylltiad â phob un o’r trafodiadau y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hwy.

(2Pan fo’r prynwr yn gwneud cais o dan baragraff (1), rhaid i ACC ddarparu tystysgrifau ar wahân mewn cysylltiad â phob un o’r trafodiadau hynny.

RHAN 3Bondiau Buddsoddi Cyllid Arall – Tystiolaeth Ragnodedig

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 9(1) o’r Atodlen

7.  Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 9(1) o’r Atodlen (amod 4 ar gyfer gweithredu rhyddhadau) yw—

(a)unrhyw ddogfen a ddarparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod pridiant tir cyfreithiol wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitlau o blaid ACC; a

(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond.

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 16 o’r Atodlen

8.  Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 16 o’r Atodlen (gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad) yw—

(a)datganiad gan y dyroddwr bond, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ran y dyroddwr bond, fod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni;

(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;

(c)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; a

(d)unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(4)(a) o’r Atodlen

9.  Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(4)(a) o’r Atodlen (tir amnewid sydd yng Nghymru) yw—

(a)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;

(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; ac

(c)unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.

Tystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(5) o’r Atodlen

10.  Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(5) o’r Atodlen (tir amnewid nad yw yng Nghymru) yw—

(a)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;

(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol;

(c)unrhyw ddogfen sy’n profi nad yw’r tir amnewid yng Nghymru a bod amodau 1 i 3 yn Rhan 3 o’r Atodlen wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir hwnnw; a

(d)unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

4 Ionawr 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer materion amrywiol sy’n ymwneud â gweinyddu’r dreth trafodiadau tir.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) ddyroddi tystysgrif yn sgil cael ffurflen dreth trafodiadau tir a materion eraill sy’n ymwneud â’r dystysgrif.

Mae adran 65(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf TTT”) yn gwahardd Prif Gofrestrydd Tir Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi rhag diwygio’r gofrestr teitlau mewn cysylltiad â thrafodiad tir hysbysadwy hyd nes y bydd tystysgrif o’r fath wedi ei chyflwyno.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amodau sydd i’w bodloni cyn i ACC ddyroddi tystysgrif.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi ffurf a chynnwys tystysgrif a ddyroddir gan ACC.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrif ACC ddyblyg mewn achosion pan fo’r dystysgrif wreiddiol wedi ei cholli neu ei dinistrio.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrifau ACC lluosog pan ddychwelir ffurflen dreth trafodiadau tir sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno i ACC pan gaiff rhyddhad ei hawlio o dan Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â bondiau buddsoddi cyllid arall.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddiben paragraff 9(1) o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod pridiant tir cyfreithiol o blaid ACC wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddiben paragraff 16 o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni er mwyn gollwng y pridiant tir cyfreithiol a gofrestrwyd yn unol â pharagraff 9(1) o’r Atodlen honno.

Mae rheoliad 9 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddiben paragraff 18(4)(a) o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT, pan fo’r tir amnewid yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod y tir gwreiddiol wedi ei drosglwyddo i’r perchennog gwreiddiol.

Mae rheoliad 10 yn rhagnodi’r dystiolaeth y mae’n rhaid i’r dyroddwr bond ei darparu i ACC at ddibenion paragraff 18(5) o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT. Mae’r dystiolaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn i ddangos bod y tir gwreiddiol wedi ei drosglwyddo i’r perchennog gwreiddiol, a bod amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid, nad yw yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.