2018 Rhif 34 (Cy. 10) (C. 5)
Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 81(2) a (3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20171.
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 20182
Y dyddiad penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 25 Ionawr 2018—
a
adran 76 (diwygiadau i DCRhT) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 23 y cyfeirir atynt ym mharagraff (b);
b
yn Atodlen 23—
i
paragraffau 35 i 38;
ii
paragraffau 56 i 59;
iii
paragraff 61;
iv
paragraff 64; a
v
paragraffau 68 i 70.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20183
Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018, i rym ar y dyddiad hwnnw.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 9(6) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 24 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 25 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 30(1) ac Atodlen 11 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 32(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 65(5), (6) a (7)(b) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 76 ac Atodlen 23 (yn rhannol) | 18 Hydref 2017 |
Gweler hefyd adran 81(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 25 Mai 2017 (y diwrnod drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol).