- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru
Gwnaed
9 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mai 2018
Yn dod i rym
1 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)(1), 2(1), 3(1) i (3) a 18(5)(a) a (6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013(2) ac Atodlenni 2 (paragraff 6(b)) a 3 (paragraffau 1 i 4) iddi.
Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2018.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
(4) Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 8(3) yn cael effaith o 1 Mehefin 2018 ymlaen.
2. Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(3) sy’n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3. Yn Rhan 3 (aelodaeth o’r cynllun), yn nhestun Saesneg rheoliad 30 (aelod â chredyd pensiwn), yn lle “WPRA 1999” rhodder “WRPA 1999”(4).
4. Yn Rhan 5 (buddion ymddeol), yn rheoliad 80A(5) (opsiwn i gymudo rhan o swm cyfwerth), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Pan fo hawl gan y person i gael taliad ar unwaith o swm cyfwerth â phensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 ac yntau’n arfer yr opsiwn i gymudo o dan y rheoliad hwn, cyfrifir y cyfandaliad yn unol â rheol B7 (cymudo – darpariaeth gyffredinol) o Gynllun 1992.”
5.—(1) Mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 87(1) (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) yn lle “gyda mwy na thri” rhodder “gydag o leiaf dri”.
(3) Yn rheoliad 101(3) a (4) (pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys), yn lle “pensiwn partner sy’n goroesi”, ym mhob lle y mae’r geiriau’n digwydd, rhodder “pensiwn plentyn cymwys”.
6.—(1) Mae Rhan 8 (cyfraniadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 120(2) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “wneud dewisiad i”.
(3) Yn rheoliad 128(5) (ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad) ar ôl “mewn cysylltiad â P” yn y lle cyntaf y mae’r geiriau hynny’n digwydd, mewnosoder “o’r dyddiad pan ddaeth yr hawlogaeth i ben”.
7. Yn Rhan 9 (cronfa bensiwn y diffoddwyr tân), yn nhestun Saesneg rheoliad 137(2)(b) (diffygion gwirioneddol), ar ôl “must repay it” mewnosoder “to”.
8.—(1) Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 3A(6) (talu buddion afiechyd i aelodau trosiannol)—
(a)ym mharagraff 22(2)(a), ar ôl “reol 2” mewnosoder “o Ran 3”; a
(b)ym mharagraff 25(2), yn lle “B1A(3)(i)” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder “B1A(3)(a)”.
(3) Yn Rhan 3C(7) (darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag CPNDT a Chynllun 1992)—
(a)ym mharagraff 37—
(i)yn lle’r pennawd “Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o CPNDT hawl i ddyfarniad afiechyd” rhodder “Awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd”;
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “Os yw’r paragraff hwn yn gymwys” rhodder “Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny nad oes hawl gan yr aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd”; a
(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny bod hawl gan yr aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd—
(a)nid yw’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn;
(b)mae’r aelod yn parhau i fod yn aelod o CPNDT; ac
(c)mae’r dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan reol 2 o Ran 3 (dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd) o CPNDT.”; a
(b)ym mharagraff 38—
(i)yn lle’r pennawd “Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o Gynllun 1992 hawl i ddyfarniad afiechyd” rhodder “Awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd”;
(ii)yng ngeiriau agoriadol is-baragraff (2), yn lle “Os yw’r paragraff hwn yn gymwys” rhodder “Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny nad oes hawl gan yr aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd,”;
(iii)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “H2A (apelau yn erbyn barn sy’n seiliedig ar gyngor meddygol)” rhodder “H2 (apêl yn erbyn barn ar fater meddygol)”; a
(iv)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny bod hawl gan yr aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd—
(a)nid yw’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn;
(b)mae’r aelod yn parhau i fod yn aelod o Gynllun 1992; ac
(c)mae’r dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992.”
9. Yn y rhaglith i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015(8) hepgorer “(6) a (7),”.
Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) a oedd yn sefydlu cynllun ar gyfer talu pensiynau a buddion eraill i ddiffoddwyr tân yng Nghymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
Mae rheoliadau 3, 5, 6, 7 ac 8(2) yn gwneud mân ddiwygiadau i egluro darpariaethau Rheoliadau 2015.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 80A o Reoliadau 2015 i egluro sut y dylid cyfrifo’r cyfandaliad pan fo hawl gan aelod i gael taliad ar unwaith o swm cyfwerth â’r pensiwn afiechyd haen isaf yng Nghynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) 1992 (a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992) ac yntau’n arfer yr opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.
Mae rheoliad 8(3) yn diwygio paragraffau 37 a 38 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 er mwyn darparu ar gyfer y trefniadau trosiannol mewn achos pan fo’r awdurdod yn penderfynu cael barn ysgrifenedig ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol (ymarferydd meddygol fel y’i diffinnir yn Rheoliadau 2015) cyn penderfynu ynghylch hawlogaeth aelod i gael dyfarniad afiechyd ac nad yw’r penderfyniad wedi ei wneud cyn dyddiad trosiant yr aelod. Mae’r diwygiadau yn darparu bod aelodau y rhoddir dyfarniad afiechyd iddynt wedi hynny yn parhau yn eu cynllun pensiwn presennol.
Mae rheoliad 9 yn cywiro mân wall yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015.
Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen, ac eithrio’r rhai a wneir gan reoliad 8(3) sy’n cael effaith o 1 Mehefin 2018 ymlaen.
Ystyriwyd Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Gweler hefyd adran 1(3) ac Atodlen 1.
O.S. 2015/622 (Cy. 50), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1016 (Cy. 71).
Ystyr “WRPA 1999” yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30); gweler rheoliad 3 o O.S. 2015/622 (Cy. 50).
Mewnosodwyd rheoliad 80A gan reoliad 2 o O.S. 2015/1016 (Cy. 71) a pharagraff 5(f) o Atodlen 1 iddo.
Mewnosodwyd Rhan 3A gan reoliad 2 o O.S. 2015/1016 (Cy. 71), a pharagraff 7(d) o Atodlen 1 iddo.
Mewnosodwyd Rhan 3C gan reoliad 2 o O.S. 2015/1016 (Cy. 71), a pharagraff 7(d) o Atodlen 1 iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: