2018 Rhif 576 (Cy. 103)
Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)1, 2(1), 3(1) i (3) a 18(5)(a) a (6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 20132 ac Atodlenni 2 (paragraff 6(b)) a 3 (paragraffau 1 i 4) iddi.
Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2018.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
4
Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 8(3) yn cael effaith o 1 Mehefin 2018 ymlaen.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 20152
Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 20153 sy’n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio Rhan 3 (aelodaeth o’r cynllun)3
Yn Rhan 3 (aelodaeth o’r cynllun), yn nhestun Saesneg rheoliad 30 (aelod â chredyd pensiwn), yn lle “WPRA 1999” rhodder “WRPA 1999”4.
Diwygio Rhan 5 (buddion ymddeol)4
Yn Rhan 5 (buddion ymddeol), yn rheoliad 80A5 (opsiwn i gymudo rhan o swm cyfwerth), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
4
Pan fo hawl gan y person i gael taliad ar unwaith o swm cyfwerth â phensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 ac yntau’n arfer yr opsiwn i gymudo o dan y rheoliad hwn, cyfrifir y cyfandaliad yn unol â rheol B7 (cymudo – darpariaeth gyffredinol) o Gynllun 1992.
Diwygio Rhan 6 (buddion marwolaeth)5
1
Mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 87(1) (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) yn lle “gyda mwy na thri” rhodder “gydag o leiaf dri”.
3
Yn rheoliad 101(3) a (4) (pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys), yn lle “pensiwn partner sy’n goroesi”, ym mhob lle y mae’r geiriau’n digwydd, rhodder “pensiwn plentyn cymwys”.
Diwygio Rhan 8 (cyfraniadau)6
1
Mae Rhan 8 (cyfraniadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 120(2) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “wneud dewisiad i”.
3
Yn rheoliad 128(5) (ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad) ar ôl “mewn cysylltiad â P” yn y lle cyntaf y mae’r geiriau hynny’n digwydd, mewnosoder “o’r dyddiad pan ddaeth yr hawlogaeth i ben”.
Diwygio Rhan 9 (cronfa bensiwn y diffoddwyr tân)7
Yn Rhan 9 (cronfa bensiwn y diffoddwyr tân), yn nhestun Saesneg rheoliad 137(2)(b) (diffygion gwirioneddol), ar ôl “must repay it” mewnosoder “to”.
Diwygio Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol)8
1
Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Rhan 3A6 (talu buddion afiechyd i aelodau trosiannol)—
a
ym mharagraff 22(2)(a), ar ôl “reol 2” mewnosoder “o Ran 3”; a
b
ym mharagraff 25(2), yn lle “B1A(3)(i)” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder “B1A(3)(a)”.
3
Yn Rhan 3C7 (darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag CPNDT a Chynllun 1992)—
a
ym mharagraff 37—
i
yn lle’r pennawd “Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o CPNDT hawl i ddyfarniad afiechyd” rhodder “Awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd”;
ii
yn is-baragraff (2), yn lle “Os yw’r paragraff hwn yn gymwys” rhodder “Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny nad oes hawl gan yr aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd”; a
iii
ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
3
Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny bod hawl gan yr aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd—
a
nid yw’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn;
b
mae’r aelod yn parhau i fod yn aelod o CPNDT; ac
c
mae’r dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan reol 2 o Ran 3 (dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd) o CPNDT.
b
ym mharagraff 38—
i
yn lle’r pennawd “Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o Gynllun 1992 hawl i ddyfarniad afiechyd” rhodder “Awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd”;
ii
yng ngeiriau agoriadol is-baragraff (2), yn lle “Os yw’r paragraff hwn yn gymwys” rhodder “Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny nad oes hawl gan yr aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd,”;
iii
yn is-baragraff (2)(b), yn lle “H2A (apelau yn erbyn barn sy’n seiliedig ar gyngor meddygol)” rhodder “H2 (apêl yn erbyn barn ar fater meddygol)”; a
iv
ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
3
Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny bod hawl gan yr aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd—
a
nid yw’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn;
b
mae’r aelod yn parhau i fod yn aelod o Gynllun 1992; ac
c
mae’r dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 20159
Yn y rhaglith i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 20158 hepgorer “(6) a (7),”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)