Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20174
Mae Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20173wedi ei diwygio fel a ganlyn—
a
yn adran 30 (rhyddhadau), yn is-adran (3), yn y cyfeiriad at baragraff 2 o Atodlen 15, yn lle “trafodiad hawl i brynu” rhodder “trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;
b
yn Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol)—
i
ym mharagraff 1(2)—
aa
ym mharagraff (a), yn lle “trafodiadau hawl i brynu” rhodder “trafodiadau sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;
bb
hepgorer paragraff (d);
ii
ym mharagraff 2 (rhyddhad ar gyfer trafodiad hawl i brynu)—
aa
yn is-baragraff (1), yn y geiriau agoriadol, yn lle “trafodiad hawl i brynu” rhodder “trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;
bb
yn is-baragraff (2)—
i
yn y geiriau agoriadol, yn lle “trafodiad hawl i brynu”, rhodder “trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;
ii
hepgorer paragraff (b) a’r “, neu” o’i flaen;
cc
hepgorer is-baragraff (4);
dd
hepgorer is-baragraff (5);
ee
yn is-baragraff (6), hepgorer y diffiniadau o “tŷ annedd cymwys” a “person cymwys”;
iii
yn sgil hynny—
aa
mae pennawd Rhan 2 yn dod yn “Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus”, a
bb
mae pennawd paragraff 2 yn dod yn “Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus”;
c
ym mharagraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) hepgorer is-baragraff (1)(a)(ii) a’r “, neu” o’i flaen;
d
ym mharagraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol ar gyfer premiwm pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) hepgorer is-baragraff (1)(a)(ii) a’r “, neu” o’i flaen;
e
ym mharagraff 9 (lesoedd rhanberchnogaeth: dehongli)—
i
hepgorer is-baragraff (1)(b) a’r “, neu” o’i flaen;
ii
hepgorer is-baragraff (4);
iii
hepgorer is-baragraff (5);
f
hepgorer paragraff 18 (rhent i forgais: cydnabyddiaeth drethadwy).