xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 7(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1375 (Cy. 241)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019

Gwnaed

23 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Hydref 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddo.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

2.  Yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(2), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)dogfen sy’n ardystio bod arholiad terfynol annibynnol wedi ei basio, a ddyroddir gan—

(i)corff sydd wedi ei ddynodi gan Weriniaeth Iwerddon i fod yn gyfrifol am draddodi tystysgrifau yn unol ag Erthygl 21(1) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, neu

(ii)corff y mae’r swyddogaeth o gynnal yr arholiad terfynol neu ddyroddi tystysgrifau wedi cael ei dirprwyo iddo yng Ngweriniaeth Iwerddon yn unol ag Erthygl 21(2) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,

(ab)tystysgrif a ddyroddir yng Ngweriniaeth Iwerddon drwy ddibynnu ar Erthygl 29(2) o Reoliad yr UE fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE,;.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Maent yn gwneud darpariaeth atodol i’r ddarpariaeth a wnaed gan reoliad 4(8)(b) o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 mewn perthynas â thystysgrifau cymhwysedd, sydd eu hangen er mwyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy. Mae rheoliad 4(8)(b) o’r Rheoliadau hynny yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd, i hepgor y gofyniad yn Erthygl 21(4) i gydnabod tystysgrifau cymhwysedd a ddyroddir mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 er mwyn sicrhau y caiff unigolyn sy’n dymuno gwneud cais am dystysgrif cymhwysedd ar ôl y diwrnod ymadael ddibynnu ar hyfforddiant ac arholiad cymeradwy a gyflawnir yng Ngweriniaeth Iwerddon, yn gyson â’r trefniadau o dan yr Ardal Deithio Gyffredin gyda Gweriniaeth Iwerddon.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.