Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

3.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

(c)ystyr “Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” (“European Single Market State”) yw un o wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir..

(3Yn Atodlenni 3 a 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” (gan dreiglo yn ôl yr angen);

(4Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 10, ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(b)"(7) Caniateir marchnata yng Nghymru hadau o amrywogaeth anrhestredig sy’n ddarostyngedig i awdurdodiad a ddyroddwyd gan Wladwriaeth AEE arall yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC(2) at y diben o gasglu gwybodaeth a chael phrofiad ymarferol yn ystod y cyfnod tyfu.

(c)(8) Rhaid i hadau sy’n cael eu marchnata o dan is-baragraff (7) gael eu labelu yn unol ag Erthygl 28 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC.";

(d)ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder “, ac eithrio hadau llysiau o’r rhywogaethau a restrir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(3) a gynhyrchir yn y Swistir”.

(2)

OJ L 362 9.12.2004, t. 21.

(3)

OJ L 193 20.7.2002, t. 33.

Back to top

Options/Help