Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygio penderfyniad ar swm taladwy

12.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn nodi, cyn diwedd blwyddyn aelodaeth, o ran y swm y penderfynwyd ganddynt yn unol â rheoliad 10(1) ei fod yn daladwy gan yr aelod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—

(a)ei fod wedi ei gyfrifo’n anghywir,

(b)y penderfynwyd arno drwy gyfeirio at wybodaeth a oedd yn anghywir, neu

(c)y dylid ei ailystyried yng ngoleuni gwybodaeth bellach sydd wedi dod ar gael i Weinidogion Cymru.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt ailystyried y swm y penderfynwyd arno, a

(b)ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn aelodaeth o dan sylw, cânt ddiwygio’r swm sy’n daladwy gan yr aelod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r aelod hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw swm diwygiedig y penderfynir arno yn unol â pharagraff (2)(b) a rhaid i’r aelod dalu unrhyw swm sy’n parhau i fod yn ddyledus mewn cysylltiad â’r flwyddyn aelodaeth—

(a)yn unol ag unrhyw drefniadau y mae Gweinidogion Cymru a’r aelod yn cytuno arnynt (a gaiff gynnwys taliad mewn rhandaliadau sydd i’w gwneud ar adegau y cytunir arnynt), a

(b)os na ddeuir i gytundeb erbyn diwedd y flwyddyn aelodaeth, erbyn unrhyw amser ac mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(4Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1) at swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 10(1) yn cynnwys unrhyw swm diwygiedig y penderfynir arno yn unol â pharagraff (2)(b).

Back to top

Options/Help