Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Cyfarwyddydau a chanllawiau
20.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi ar gael i gyrff cymwys yr wybodaeth a ganlyn ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adegau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol()—
(a)unrhyw gyfarwyddydau y mae Gweinidogion Cymru yn eu rhoi i gorff perthnasol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r corff hwnnw ganddo mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun, a
(b)unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru yn eu rhoi i gorff perthnasol o ran y modd y mae’r Cynllun i’w weinyddu.
(2) Ystyr “corff perthnasol” yw corff a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(5) o’r Ddeddf i gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun.
Back to top