Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 20189.

(1)

Mae Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 201816 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1)—

(a)

yn y diffiniad o “dosbarthu”, yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (yn y ddau le y mae’n digwydd);

(b)

yn lle ““darpariaeth eidion Ewropeaidd” (“European beef provision”)” rhodder ““darpariaeth eidion yr UE a ddargedwir” (“retained EU beef provision”)”;

(c)

yn lle ““darpariaeth moch Ewropeaidd” (“European pig provision”)” rhodder ““darpariaeth moch yr UE a ddargedwir” (“retained EU pig provision”)”.

(3)

Hepgorer rheoliad 7(2)(b).

(4)

Hepgorer rheoliad 13(2)(b).

(5)

Yn rheoliad 15, yn lle “â’r darpariaethau moch Ewropeaidd” rhodder “â darpariaethau moch yr UE a ddargedwir”.

(6)

Yn rheoliad 26—

(a)

yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (yn y ddau le y mae’n digwydd);

(b)

daw’r pennawd yn “Troseddau: darpariaethau eidion yr UE a ddargedwir”.

(7)

Yn rheoliad 27—

(a)

yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (ym mhob lle y mae’n digwydd);

(b)

daw’r pennawd yn “Troseddau: darpariaethau moch yr UE a ddargedwir”.

(8)

Yn rheoliad 36(1), yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (yn y ddau le y mae’n digwydd).

(9)

Yn Atodlen 1—

(a)

yn y pennawd i golofn 1 o’r tabl, yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir”;

(b)

yn y cofnod yn y pedwaredd rhes o golofn 3 o’r tabl, yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(c)

daw’r pennawd yn “DARPARIAETHAU’R UE A DDARGEDWIR: CARCASAU BUCHOL”.

(10)

Yn Atodlen 2—

(a)

yn y penawdau i golofn 1 o’r tablau yn rhannau 1 a 2, yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir”;

(b)

yn y tabl yn rhan 1, yn y cofnod yn y drydedd rhes o golofn 3, yn lle “ddulliau a awdurdodir gan y Comisiwn” rhodder “ddulliau awdurdodedig”;

(c)

daw’r pennawd yn “DARPARIAETHAU’R UE A DDARGEDWIR: CARCASAU MOCH”.