Diwrnodau penodedig ar gyfer cychwyn darpariaeth sy’n ymwneud â gwasanaethau rheoleiddiedig2
1
29 Ebrill 2019 yw’r diwrnod penodedig i adran 6 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau a nodir ym mharagraff (2).
2
Mae adran 6 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn i’r graddau y mae’n gymwys i berson sydd am ddarparu un o’r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau (d) i (g) o adran 2(1) o’r Ddeddf.
3
29 Ebrill 2019 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
a
paragraffau (1)(d) i (g) o adran 2, a pharagraffau 4 i 7 a 9 o Atodlen 1;
b
adran 56(1) (adroddiadau gan awdurdodau lleol a dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru) i’r graddau y mae’n mewnosod adran 144C (dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru) yn Neddf 20145;
c
adran 57 (adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau), a
d
adran 185 a Rhan 1 o Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
4
Cyfeirir at 29 Ebrill 2019 yn y Gorchymyn hwn fel “y diwrnod penodedig”.