xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 864 (Cy. 156) (C. 21)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019

Gwnaed

10 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 188(1) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

o ran “asiantaeth berthnasol” (“relevant agency”)—

(a)

ei ystyr yw asiantaeth o un o’r disgrifiadau a ganlyn—

(i)

asiantaeth fabwysiadu wirfoddol;

(ii)

asiantaeth cymorth mabwysiadu;

(iii)

asiantaeth faethu, a

(b)

mae’n cynnwys, at ddibenion y Gorchymyn hwn, gynllun lleoli oedolion(2);

mae i “cyfnod trosiannol” (“transition period”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(2);

mae i “darpariaethau Rhan 2” (“the Part 2 provisions”) yr ystyr a roddir yn erthygl 7(4);

ystyr “darparwr DSG” (“CSA provider”) yw person sydd, yn union cyn y diwrnod penodedig, wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth berthnasol;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(3);

mae i “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

o ran “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”)—

(a)

ei ystyr yw gwasanaeth o un o’r disgrifiadau a ganlyn y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Bennod 2 o Ran 1 o’r Ddeddf—

(i)

gwasanaeth cartref gofal;

(ii)

gwasanaeth llety diogel;

(iii)

gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd; neu

(iv)

gwasanaeth cymorth cartref, a

(b)

mae’r person hwnnw hefyd yn ddarparwr DSG;

mae i “gwasanaeth trosiannol” (“transition service”) yr ystyr a roddir yn erthygl 3.

(3Yn y Gorchymyn hwn, mae i’r termau “asiantaeth fabwysiadu wirfoddol”, “asiantaeth cymorth mabwysiadu” ac “asiantaeth faethu” yr ystyron a roddir i “voluntary adoption agency”, “adoption support agency” a “fostering agency” yn adran 4 o Ddeddf 2000 ac mae i’r term “cynllun lleoli oedolion” yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(4).

Diwrnodau penodedig ar gyfer cychwyn darpariaeth sy’n ymwneud â gwasanaethau rheoleiddiedig

2.—(129 Ebrill 2019 yw’r diwrnod penodedig i adran 6 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau a nodir ym mharagraff (2).

(2Mae adran 6 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn i’r graddau y mae’n gymwys i berson sydd am ddarparu un o’r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau (d) i (g) o adran 2(1) o’r Ddeddf.

(329 Ebrill 2019 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—

(a)paragraffau (1)(d) i (g) o adran 2, a pharagraffau 4 i 7 a 9 o Atodlen 1;

(b)adran 56(1) (adroddiadau gan awdurdodau lleol a dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru) i’r graddau y mae’n mewnosod adran 144C (dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru) yn Neddf 2014(5);

(c)adran 57 (adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau), a

(d)adran 185 a Rhan 1 o Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Cyfeirir at 29 Ebrill 2019 yn y Gorchymyn hwn fel “y diwrnod penodedig”.

Ystyr gwasanaeth trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), “gwasanaeth trosiannol” yw—

(a)asiantaeth berthnasol y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn union cyn y diwrnod penodedig ac—

(i)yn achos asiantaeth fabwysiadu wirfoddol neu asiantaeth cymorth mabwysiadu, mae’r ardal y mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaethau mabwysiadu ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6(6) neu 11(1)(a)(i)(7) o’r Ddeddf yn fan y mae gwasanaeth mabwysiadu i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;

(ii)yn achos asiantaeth faethu, mae’r ardal y mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaethau maethu ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 neu 11(1)(a)(i) o’r Ddeddf yn fan y mae gwasanaeth maethu i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;

(iii)yn achos cynllun lleoli oedolion, mae’r ardal y mae’r cynllun yn darparu gwasanaethau ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 neu 11(1)(a)(i) o’r Ddeddf yn fan y mae gwasanaeth lleoli oedolion i’w ddarparu mewn perthynas ag ef.

Datgymhwysiad trosiannol o adran 5 o’r Ddeddf

4.—(1Nid yw adran 5 o’r Ddeddf (gofyniad i gofrestru) yn gymwys i ddarparwr DSG yn ystod y cyfnod trosiannol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y “cyfnod trosiannol” ar gyfer darparwr DSG yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig ac sy’n gorffen ar ba ddyddiad bynnag yw’r cynharaf o—

(a)y dyddiad perthnasol fel y’i pennir ym mharagraff (4); neu

(b)y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar gais i gofrestru neu i amrywio cofrestriad mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol.

(3Pan fo asiantaeth y mae darparwr DSG wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi yn dod yn wasanaeth trosiannol am ei bod wedi ei phennu mewn cais i gofrestru o dan adran 6, neu i amrywio o dan adran 11(1)(a)(i), mae’r cyfnod trosiannol y cyfeirir ato ym mharagraff (2) wedi ei estyn i’r dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y cais.

(4Yn ddarostyngedig i erthyglau 5 a 6, y dyddiad perthnasol yw 31 Awst 2019.

(5Mae cyfeiriad yn yr erthygl hon at yr amser pan benderfynir yn derfynol ar gais o dan adran 6 neu 11(1)(a)(i) yn cynnwys—

(a)pa bryd y daw unrhyw amser i ben a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 26(1) o’r Ddeddf yn erbyn hysbysiad a ddyroddir o dan adran 19(4) o’r Ddeddf;

(b)penderfynu ar unrhyw apêl neu roi’r gorau i unrhyw apêl.

Gohirio’r dyddiad perthnasol ar gyfer asiantaeth berthnasol sy’n ddarostyngedig i broses ganslo

5.—(1Pan fo asiantaeth berthnasol, ar y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4), yn ddarostyngedig i broses ganslo, caiff y dyddiad perthnasol ei ohirio tan y dyddiad sydd 6 wythnos ar ôl y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y broses ganslo.

(2Mae asiantaeth berthnasol yn ddarostyngedig i broses ganslo os yw hysbysiad o gynnig i ganslo o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 wedi ei roi i’r darparwr DSG cyn y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4) ac na phenderfynir yn derfynol ar y broses erbyn y dyddiad hwnnw.

(3Penderfynir yn derfynol ar broses ganslo—

(a)pan benderfynir ar unrhyw apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y canslo neu pan roddir y gorau i unrhyw apêl o’r fath;

(b)pan yw hysbysiad o benderfyniad o dan adran 19(3) o Ddeddf 2000 wedi ei gyflwyno a bod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir i apêl gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ynddo wedi dod i ben; neu

(c)pan hysbysir y darparwr DSG nad yw’r hysbysiad o gynnig wedi ei gadarnhau neu fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Gohirio’r dyddiad perthnasol ar gyfer gwasanaeth perthnasol sy’n ddarostyngedig i broses ganslo

6.—(1Pan fo gwasanaeth perthnasol, ar y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4), yn ddarostyngedig i broses ganslo, caiff y dyddiad perthnasol ei ohirio tan y dyddiad sydd 6 wythnos ar ôl y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y broses ganslo.

(2Mae gwasanaeth perthnasol yn ddarostyngedig i broses ganslo os yw hysbysiad gwella o dan adran 16(2) o’r Ddeddf wedi ei roi i ddarparwr y gwasanaeth perthnasol, cyn y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4), gyda golwg ar ganslo’r cofrestriad o dan adran 15 ac na phenderfynir yn derfynol ar y broses erbyn y dyddiad hwnnw.

(3Penderfynir yn derfynol ar broses ganslo—

(a)pan benderfynir ar unrhyw apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y canslo neu pan roddir y gorau i unrhyw apêl o’r fath;

(b)pan yw hysbysiad o benderfyniad o dan adran 17(2), (3)(a) neu (5) o’r Ddeddf wedi ei gyflwyno a bod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir i apêl gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ynddo wedi dod i ben; neu

(c)pan hysbysir darparwr y gwasanaeth perthnasol o dan adran 17(1) neu (4) o’r Ddeddf.

Arbedion yn ystod y cyfnod trosiannol

7.—(1Yn ystod y cyfnod trosiannol, bydd cofrestriad darparwr DSG o dan Ddeddf 2000 yn parhau ac, er gwaethaf unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2000 a wneir gan Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a fyddai fel arall yn eithrio ei gais, bydd darpariaethau Rhan 2 yn parhau i fod yn gymwys i—

(a)darparwr DSG;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)y Tribiwnlys Haen Gyntaf;

(d)Llys Ynadon,

fel pe na bai’r diwygiadau canlyniadol hynny wedi cael eu gwneud.

(2Mae adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(8) (arbedion cyffredinol) yn gymwys mewn cysylltiad â datgymhwyso’r darpariaethau yn Neddf 2000 i sefydliadau neu asiantaethau perthnasol fel y byddai pe bai Rhan 2 o Ddeddf 2000 wedi ei diddymu.

(3Pan fo cofrestriad darparwr DSG yn ddarostyngedig i amodau yn union cyn y diwrnod penodedig, bydd yr amodau hynny yn gymwys i’r cofrestriad yn ystod y cyfnod trosiannol.

(4Darpariaethau Rhan 2 yw—

(a)adrannau 14, 14A, 15, 17(4) i (6), 18, 19(3) i (6), 20A, 20B, 21, 23(1), 23(4), 24, 24A, 25(2), 26, 28, 29, 30, 30A, 31, 32, 36 a 37 o Ddeddf 2000;

(b)unrhyw un neu ragor o’r rheoliadau a ganlyn sy’n gymwys i’r asiantaeth y mae cofrestriad y darparwr DSG wedi ei gynnal mewn cysylltiad â hi—

(i)Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003(9);

(ii)Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(10);

(iii)Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(11);

(iv)Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(12);

(v)Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011(13);

(c)unrhyw un neu ragor o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a wneir yn unol ag adran 23(1) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i’r asiantaeth o dan sylw.

Addasiadau trosiannol i’r Ddeddf mewn perthynas â darparwyr DSG y mae rheoleiddio yn parhau ar eu cyfer o dan Ddeddf 2000

8.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio mesurau gorfodi yn erbyn darparwr DSG mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol o dan Ddeddf 2000 yn ystod y cyfnod trosiannol, mae gofynion adran 7(1) a (2) o’r Ddeddf, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â’r cais wedi eu haddasu fel nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais mewn cysylltiad â’r man sy’n destun y mesurau gorfodi hyd nes bod unrhyw broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi wedi ei chwblhau.

(2At ddibenion paragraff (1), mae cwblhau mesur gorfodi yn cynnwys—

(a)pa bryd y daw unrhyw amser i ben a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 21 o Ddeddf 2000; neu

(b)y cyfnod hyd nes y penderfynwyd ar unrhyw apêl o’r fath neu y rhoddwyd y gorau iddi.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau gorfodi” yw—

(a)dyroddi hysbysiad o gynnig o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 neu hysbysiad o benderfyniad yn dilyn cynnig o dan yr adran honno;

(b)atal dros dro o dan adran 14A neu ddyroddi hysbysiad i atal dros dro ar frys o dan adran 20B o Ddeddf 2000;

(c)cais i ganslo ar frys o dan adran 20A o Ddeddf 2000.

Addasiadau trosiannol i’r Ddeddf mewn perthynas â darparwyr gwasanaethau perthnasol sy’n ddarostyngedig i fesurau gorfodi

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth perthnasol pan fo’r darparwr hefyd yn ddarparwr gwasanaeth trosiannol, ar ôl cyflwyno cais o dan adran 11(1)(a) o’r Ddeddf cyn y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad ag asiantaeth berthnasol.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio mesurau gorfodi yn erbyn darparwr gwasanaeth perthnasol o dan y Ddeddf, mae’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais a nodir yn adran 12(1) o’r Ddeddf wedi ei haddasu fel y caiff Gweinidogion Cymru ohirio penderfynu ar y cais hyd nes bod unrhyw broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi wedi ei chwblhau.

(3At ddibenion paragraff (1), mae cwblhau mesur gorfodi yn cynnwys—

(a)pa bryd y daw unrhyw amser i ben a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 26 o’r Ddeddf; neu

(b)y cyfnod hyd nes y penderfynwyd ar unrhyw apêl o’r fath neu y rhoddwyd y gorau iddi.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau gorfodi” yw—

(a)dyroddi hysbysiad gwella o dan adran 16(2) o’r Ddeddf neu hysbysiad o benderfyniad yn dilyn cynnig o dan yr adran honno;

(b)cais i ganslo neu amrywio ar frys o dan adran 23 o’r Ddeddf; neu

(c)dyroddi hysbysiad o benderfyniad o dan adran 25 o’r Ddeddf.

Darpariaeth ar gyfer ceisiadau o dan Ddeddf 2000 sydd wrthi’n cael eu penderfynu ar y diwrnod penodedig

10.  Pan na fo Gweinidogion Cymru, ar y diwrnod penodedig, wedi cwblhau’r penderfyniad ar gais i gofrestru o dan adran 12 o Ddeddf 2000 yn ddarparwr asiantaeth berthnasol a chafwyd y cais cyn 29 Chwefror 2019, cânt drin y cais fel pe bai’n un a wnaed o dan adran 6 neu 11(1)(a) o’r Ddeddf, yn ôl y digwydd, a chânt ofyn am unrhyw wybodaeth bellach sy’n ofynnol gan adran 6 neu 11(1)(a), yn ôl y digwydd, neu gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(14), er mwyn eu galluogi i benderfynu ar y cais.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â cheisiadau gan ddarparwyr DSG i amrywio neu ddileu amodau cofrestru yn y cyfnod trosiannol

11.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo darparwr DSG, yn ystod y cyfnod trosiannol, yn gwneud cais o dan adran 15(1)(a) o Ddeddf 2000 i amrywio neu ddileu amod cofrestru ar gyfer asiantaeth sy’n wasanaeth trosiannol.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, er gwaethaf gofynion adran 15(4) (gofyniad i hysbysu ceisydd am benderfyniad i ganiatáu cais) ac adran 17(5) (gofyniad i hysbysu ceisydd am benderfyniad i wrthod cais) o Ddeddf 2000, nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais o dan adran 15(1)(a) o Ddeddf 2000 a chânt yn lle hynny ei ystyried fel rhan o gais y darparwr DSG o dan adran 6 o’r Ddeddf neu adran 11(1)(a) yn ôl y digwydd.

Darpariaeth ynghylch rheolwyr sy’n ddarostyngedig i hysbysiad o benderfyniad i ganslo a ddyroddir cyn y diwrnod penodedig

12.  Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi hysbysiad o benderfyniad i ganslo cofrestriad rheolwr asiantaeth o dan adran 19(3) o Ddeddf 2000 a bo’r rheolwr, cyn y diwrnod penodedig, wedi dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad o dan adran 21 (apelio i’r Tribiwnlys) o Ddeddf 2000, bydd cofrestriad y rheolwr yn parhau, at ddibenion yr apêl, hyd nes y penderfynir ar yr apêl neu y rhoddir y gorau iddi.

Datgymhwysiad trosiannol o adran 5 o’r Ddeddf ar gyfer darparwyr presennol gwasanaethau

13.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i berson sydd, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal cymdeithas fabwysiadu dim ond am fod yr ymgymeriad sy’n darparu’r gwasanaethau, neu’n trefnu bod y gwasanaethau yn cael eu darparu, yn gangen o gymdeithas fabwysiadu, sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 ac sydd wedi ei lleoli yn Lloegr;

(b)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth cymorth mabwysiadu dim ond am fod yr asiantaeth cymorth mabwysiadu yn gorff anghorfforedig;

(c)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth eirioli ond nad oedd yn ofynnol iddo fod wedi ei gofrestru felly yn union cyn y diwrnod penodedig;

(d)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu neu wasanaeth lleoli oedolion ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth cymorth mabwysiadu, asiantaeth faethu neu gynllun lleoli oedolion dim ond am nad yw’r person sy’n darparu’r gwasanaeth wedi ei leoli yng Nghymru.

(2Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn gwneud cais i gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth eirioli neu wasanaeth lleoli oedolion, yn ôl y digwydd, o dan adran 6 o’r Ddeddf cyn 31 Awst 2019, nid yw adran 5 o’r Ddeddf yn gymwys i’r person hwnnw o ran darparu’r gwasanaeth mabwysiadu, y gwasanaeth maethu, y gwasanaeth eirioli neu’r gwasanaeth lleoli oedolion mewn perthynas â’r mannau a bennir yn y cais hyd nes y penderfynir yn derfynol ar y cais.

(3Mae i’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at benderfynu’n derfynol ar gais yr un ystyr ag yn erthygl 4(3) a (5).

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Ebrill 2019

Erthygl 2(3)(d)

YR ATODLEN

Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym yn unol ag erthygl 2(3)—

(a)paragraff 4(c), (e) ac (f),

(b)paragraff 5,

(c)paragraffau 12 i 15,

(d)paragraffau 17 i 20,

(e)paragraffau 21 i 23,

(f)paragraff 24,

(g)paragraff 28(b) ac (c).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r chweched Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 a’r Atodlen yn dwyn i rym ddarpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud â rheoleiddio darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol.

Mae adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei dwyn i rym ar 29 Ebrill 2019 er mwyn caniatáu i geisiadau i gofrestru gael eu gwneud mewn cysylltiad â gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli. 29 Ebrill 2019 yw’r dyddiad dod i rym ar gyfer y darpariaethau yn Rhan 1 fel y maent yn gymwys i bersonau sy’n darparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli. Mae erthygl 2 hefyd yn cychwyn diwygiadau canlyniadol perthnasol yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

Mae erthyglau 3 i 13 yn gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol er mwyn ymdrin â’r cyfnodau y mae rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru ynddynt a’r cyfnodau y bydd yn esempt rhag y gofyniad i fod wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf ac yn parhau i gael ei reoleiddio o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 ynddynt.

Mae erthygl 3 yn darparu diffiniad o “gwasanaeth trosiannol” i ddisgrifio asiantaeth berthnasol sydd wedi ei chynnwys mewn cais i gofrestru o dan y Ddeddf. Asiantaeth berthnasol yw asiantaeth fabwysiadu wirfoddol, asiantaeth cymorth mabwysiadu, cynllun lleoli oedolion neu asiantaeth faethu a gynhelir gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn union cyn y diwrnod penodedig (29 Ebrill 2019). Mae “gwasanaeth trosiannol” hefyd yn cynnwys asiantaeth berthnasol y mae ei darparwr eisoes wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf yn wasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref. Yn yr achos hwnnw, bydd angen i’r darparwr sydd eisoes wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf wneud cais i amrywio ei gofrestriad er mwyn darparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.

Mae erthygl 4 yn datgymhwyso, am gyfnod trosiannol, adran 5 o’r Ddeddf. Mae adran 5 yn ei gwneud yn drosedd darparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf. Ni fydd person sy’n cynnal asiantaeth berthnasol yn atebol o dan adran 5 tan y dyddiad perthnasol (31 Awst 2019) ond, ar yr amod ei fod wedi cyflwyno cais i gofrestru, neu i amrywio ei gofrestriad, o dan y Ddeddf cyn y dyddiad perthnasol, mae’r cyfnod trosiannol yn cael ei estyn i’r amser pan benderfynir ar y cais hwnnw.

Mae erthygl 5 yn darparu, pan fo asiantaeth berthnasol yn ddarostyngedig i ganslo o dan Ddeddf 2000 ond na phenderfynir ar y broses ar y dyddiad erbyn pryd y byddai rhaid gwneud cais i gofrestru fel arfer o dan adran 6 o’r Ddeddf, yna y caiff y dyddiad ei ohirio i ddyddiad sydd 6 wythnos ar ôl penderfynu ar y broses ganslo. Yr effaith felly yw estyn y cyfnod trosiannol. Gwneir darpariaeth debyg yn erthygl 6 mewn perthynas â gwasanaeth perthnasol sy’n ddarostyngedig i ganslo o dan y Ddeddf. Mae gwasanaeth perthnasol yn wasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref, a ddarperir gan berson sydd hefyd yn darparu asiantaeth berthnasol.

Mae erthygl 7 yn arbed darpariaethau perthnasol yn Rhan 2 o Ddeddf 2000 fel bod y darpariaethau yn Rhan 2, a rheoliadau a wneir o dan Ran 2, yn parhau i fod yn gymwys i’r rheini y mae eu gweithgaredd wedi ei lywodraethu ganddynt yn ystod y cyfnod trosiannol. Mae’r arbedion yn gymwys i ddarparwyr, i’r awdurdod cofrestru, i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ac i Lysoedd Ynadon ond nid i reolwyr. Mae cofrestriad rheolwr sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn dod i ben felly ar 29 Ebrill 2019.

Mae erthygl 8 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ohirio ystyried cais i gofrestru o dan y Ddeddf pan fo’r gwasanaeth trosiannol yn un sy’n ddarostyngedig i un o’r mesurau gorfodi penodedig o dan Ddeddf 2000, tan ar ôl canlyniad y broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi. Gwneir darpariaeth debyg yn erthygl 9 mewn perthynas â gwasanaeth perthnasol (pan fo darparwr y gwasanaeth perthnasol hefyd yn darparu gwasanaeth trosiannol) sy’n ddarostyngedig i un o’r mesurau gorfodi penodedig o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 10 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drin cais i gofrestru o dan Ddeddf 2000 na phenderfynwyd arno fel pe bai’n gais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf, neu gais i amrywio cofrestriad o dan adran 11(1)(a) o’r Ddeddf, a gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol i’w galluogi i wneud hynny.

Mae erthygl 11 yn caniatáu i Weinidogion Cymru beidio â phenderfynu ar gais i amrywio neu ddileu amodau cofrestru a wneir gan ddarparwr sydd, yn y cyfnod trosiannol, yn dal i gael ei reoleiddio o dan Ddeddf 2000 ac yn lle hynny, cânt ei ystyried fel rhan o gais y darparwr i gofrestru o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 12 yn darparu, os yw rheolwr asiantaeth yn ddarostyngedig i hysbysiad o benderfyniad i ganslo ei gofrestriad a bod y rheolwr, cyn i’r cyfnod trosiannol ddod i ben, wedi cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, yna y bydd cofrestriad y rheolwr yn parhau hyd nes y penderfynir ar yr apêl neu y rhoddir y gorau iddi.

Mae erthygl 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer personau sydd wedi bod yn darparu gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion neu wasanaethau eirioli yng Nghymru cyn 29 Ebrill 2019 ond nad ydynt wedi gallu cofrestru o dan Ddeddf 2000 naill ai am fod eu busnes yn gangen o asiantaeth sydd wedi ei chofrestru yn Lloegr ond sydd yng Nghymru (yn achos asiantaeth fabwysiadu wirfoddol); eu bod wedi eu rhagwahardd rhag cofrestru’n gyrff anghorfforedig (yn achos asiantaeth cymorth mabwysiadu anghorfforedig); nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru ar hyn o bryd (yn achos gwasanaeth eirioli); neu fod eu busnes wedi ei leoli y tu allan i Gymru (yn achos asiantaeth faethu, asiantaeth cymorth mabwysiadu neu gynllun lleoli oedolion). Pan fo’r darparwyr hyn yn gwneud cais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf erbyn 31 Awst 2019 byddant yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau ac ni fyddant yn agored i’w herlyn o dan adran 5 o’r Ddeddf.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Rhan 1
Adran 12 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Adran 2, (ac eithrio paragraffau (d) i (g) o is-adran (1), a pharagraffau 1 i 3 ac 8 o Atodlen 1)2 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Adrannau 3 i 52 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Adrannau 7 i 312 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Adrannau 32 i 552 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Adran 56(1) (yn rhannol)4 Medi 20172017/846 (Cy. 206) (C. 71)
Adran 56(2)4 Medi 20172017/846 (Cy. 206) (C. 71)
Adran 582 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Adran 642 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Rhan 2 (adrannau 65 a 66)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 3
Adran 67 (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
Adran 68 (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
Adran 73(1) a (2) (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
Adran 75 (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
I’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, Rhan 3 ac Atodlen 23 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 4 (adrannau 79 i 111)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 5 (adrannau 112 i 116)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 6 (adrannau 117 i 164)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 7 (adrannau 165 i 173)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 8 (adrannau 174 a 175)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 9 (adrannau 176 i 182)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 10 (adrannau 183 a 184)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 11
Adran 185 ac Atodlen 3 i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 32 Ebrill 20182017/1326 (Cy. 299) (C. 121)
Adran 185 ac Atodlen 3 i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 33 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Adran 185 ac Atodlen 3 i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 3 o Atodlen 36 Ebrill 20162016/467 (Cy. 149) (C. 28)

Gweler hefyd adran 188(2) o’r Ddeddf am ddarpariaethau a ddaeth i rym ar 19 Ionawr 2016 (drannoeth dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

(2)

Mae Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) yn addasu Deddf 2000 er mwyn cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf honno i gynlluniau lleoli oedolion ac yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynlluniau o’r fath.

(5)

Diffinnir yr ymadrodd “Deddf 2014” yn adran 189 o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

(6)

Mae adran 6 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd am ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru.

(7)

Mae adran 11(1)(a)(i) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd eisoes wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth rheoleiddiedig, o fewn ystyr y Ddeddf, wneud cais i Weinidogion Cymru i amrywio cofrestriad y darparwr hwnnw os yw’r darparwr am ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig nad yw eisoes wedi ei gofrestru i’w ddarparu. Yn achos y Gorchymyn hwn, mae person o’r fath yn cynnwys darparwr gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref.

(9)

O.S. 2003/367 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3341, O.S. 2007/603 ac O.S. 2013/235.

(12)

O.S. 2004/1756 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3302, O.S. 2006/3251 (Cy. 295), O.S. 2006/878 (Cy. 83), O.S. 2010/2585 (Cy. 217), O.S. 2012/2404, O.S. 2014/107 ac 2016/481. Dylid darllen cyfeiriadau at gynlluniau lleoli oedolion, a chymhwysiad y darpariaethau yn Neddf 2000 i’r cynlluniau hynny, ar y cyd â’r addasiadau a gynhwysir yn Rheoliadau 2004.