2020 Rhif 1100 (Cy. 250)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cymeradywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 12 Hydref 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 20202

1

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle rheoliad 7 rhodder—

Cyfarwyddydau mannau cyhoeddus7

1

Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad ag unrhyw fan cyhoeddus yn ardal yr awdurdod.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “man cyhoeddus” yw man yn yr awyr agored y mae gan y cyhoedd fynediad iddo neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddo, pa un ai drwy dalu neu fel arall, gan gynnwys—

a

tir sy’n ardd gyhoeddus neu a ddefnyddir at ddiben hamdden gan aelodau’r cyhoedd;

b

tir sy’n “cefn gwlad agored” fel y diffinnir “open country” yn adran 59(2) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 19493, fel y’i darllenir gydag adran 16 o Ddeddf Cefn Gwlad 19684;

c

unrhyw briffordd y mae gan y cyhoedd fynediad iddi;

d

llwybr cyhoeddus;

e

tir mynediad.

3

Caiff cyfarwyddyd man cyhoeddus osod gwaharddiadau, gofynion neu gyfyngiadau mewn perthynas—

a

â mynediad i’r man cyhoeddus (gan gynnwys, yn benodol, gwahardd mynediad ar adegau penodedig);

b

â gweithgareddau a gynhelir yn y man cyhoeddus (gan gynnwys, yn benodol, gwahardd yfed alcohol neu gyfyngu ar yfed alcohol).

4

Ond ni chaiff cyfarwyddyd man cyhoeddus—

a

gosod gwaharddiadau, gofynion na chyfyngiadau—

i

mewn perthynas â mynediad i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (gweler yn hytrach reoliad 14);

ii

ar yfed alcohol mewn mangre yn y man cyhoeddus sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol;

b

gosod gwaharddiadau na gofynion mewn perthynas â mynediad i’r man cyhoeddus neu weithgaredd a gynhelir yn y man os yw gwaharddiad neu ofyniad o’r fath yn cael effaith mewn perthynas â’r man yn rhinwedd gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus a wneir o dan adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 20145.

5

Pan fo—

a

is-ddeddf yn gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad sy’n ymwneud â mynediad i fan cyhoeddus neu weithgaredd a gynhelir ynddo, a

b

mynediad i’r man cyhoeddus neu gynnal y gweithgaredd hwnnw ynddo wedi ei wahardd neu ei gyfyngu gan gyfarwyddyd man cyhoeddus neu’n ddarostyngedig i ofyniad mewn cyfarwyddyd man cyhoeddus,

nid oes unrhyw effaith i’r gwaharddiad, y gofyniad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr is-ddeddf mewn perthynas â’r man cyhoeddus am gyhyd ag y mae’r cyfarwyddyd man cyhoeddus yn cael effaith.

6

Rhaid i gyfarwyddyd man cyhoeddus ddisgrifio’r man cyhoeddus yn ddigon manwl er mwyn gallu canfod ei ffiniau.

7

Rhaid i awdurdod lleol sy’n rhoi cyfarwyddyd man cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol—

a

pan fo’r cyfarwyddyd yn gwahardd mynediad i’r man cyhoeddus neu’n cyfyngu ar fynediad iddo, er mwyn atal mynediad o’r fath neu gyfyngu arno (gan gynnwys drwy godi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cyfarwyddyd);

b

pan fo’r cyfarwyddyd yn gwahardd cynnal gweithgaredd yn y man cyhoeddus, yn cyfyngu ar y gweithgaredd hwnnw neu’n gosod gofynion ar y gweithgaredd hwnnw, er mwyn dwyn y cyfarwyddyd i sylw aelodau’r cyhoedd a all fod yn y man cyhoeddus (gan gynnwys drwy godi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cyfarwyddyd);

c

er mwyn rhoi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i bersonau sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus;

d

er mwyn sicrhau y dygir y cyfarwyddyd i sylw unrhyw berson sy’n berchen ar fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu mangre ynddo neu sy’n gyfrifol am fangre ynddo.

8

Pan fo cyfarwyddyd man cyhoeddus yn gwahardd mynediad i’r man cyhoeddus neu’n cyfyngu ar fynediad iddo, rhaid i unrhyw berson, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n berchen ar fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu mangre ynddo neu sy’n gyfrifol am fangre ynddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn atal mynediad i’r fangre neu gyfyngu ar fynediad i’r fangre yn unol â’r cyfarwyddyd.

9

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

a

mynd i fan gyhoeddus neu aros ynddo;

b

cynnal gweithgaredd mewn man cyhoeddus,

yn groes i waharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan gyfarwyddyd man cyhoeddus.

10

Ni chaiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â man cyhoeddus sy’n cynnwys eiddo y mae adran 73 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) Act 19846 (eiddo’r Goron) yn gymwys iddo.

11

Ond caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â man o’r fath os yw’r awdurdod wedi ymrwymo i gytundeb o dan adran 73(2) â’r awdurdod priodol (o fewn yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan yr adran honno) fod—

a

adran 45C o’r un Ddeddf, a

b

y Rheoliadau hyn,

yn gymwys i’r eiddo (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau a gynhwysir yn y cytundeb).

12

At ddibenion y rheoliad hwn—

a

mae i “tir mynediad” yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(c),

b

mae i “alcohol” yr ystyr a roddir i “alcohol” gan adran 191 o Ddeddf Trwyddedu 20037;

c

mae i “llwybr cyhoeddus” yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(b), a

d

mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

3

Yn rheoliad 10(b), yn lle “rheoliad 7(5)” rhodder “rheoliad 7(6)”.

4

Yn rheoliad 16—

a

ym mharagraff (1)(b), yn lle “7(7)” rhodder “7(8)”;

b

ym mharagraff (5), ar ôl “gyfarwyddyd man cyhoeddus” mewnosoder “sy’n gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â mynediad i’r man”;

c

ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

5A

Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn man cyhoeddus yn gweithredu yn groes i gyfarwyddyd man cyhoeddus sy’n gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â chynnal gweithgaredd yn y man, caiff y cwnstabl gymryd unrhyw gamau y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y person rhag parhau i weithredu yn groes i’r cyfarwyddyd (gan gynnwys symud y person o’r man).

d

ym mharagraff (6)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “neu (5)” rhodder “, (5) neu (5A)”;

ii

yn is-baragraff (b), yn lle “neu (5)(b)” rhodder “, (5)(b) neu (5A)”;

e

ym mharagraff (7), yn lle “neu (5)” rhodder “, (5) neu (5A)”.

5

Yn rheoliad 18(1)—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “7(8)” rhodder “7(9)”;

b

yn is-baragraff (b), yn lle “7(7)” rhodder “7(8)”.

6

Ym mhob lle y mae’n digwydd yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (7)—

a

yn lle “dirymu” (pan nad yw’n cael ei ddilyn gan “cyfarwyddyd” neu “cyfarwyddydau”) rhodder “thynnu’n ôl” ac yn lle “ddirymu” (pan nad yw’n cael ei ddilyn gan “cyfarwyddyd”) rhodder “dynnu’n ôl”;

b

yn lle “ddirymu’r cyfarwyddyd” rhodder “dynnu’r cyfarwyddyd yn ôl”;

c

yn lle “dirymu cyfarwyddyd” rhodder “tynnu cyfarwyddyd yn ôl” ac yn lle “ddirymu cyfarwyddyd” (pan nad yw’n cael ei ragflaenu gan “neu”) rhodder “dynnu cyfarwyddyd yn ôl”;

d

yn lle “dirymiad” rhodder “tynnu’n ôl” ac yn lle “ddirymiad” rhodder “dynnu’n ôl”;

e

yn lle “a dirymu cyfarwyddydau” rhodder “cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôl” ac yn lle “neu ddirymu cyfarwyddyd” rhodder “cyfarwyddyd neu dynnu cyfarwyddyd yn ôl”.

7

Y darpariaethau yw—

a

rheoliadau 8, 9 a 13 gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, eu penawdau;

b

penawdau Penodau 1 a 3 o Ran 2.

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020. Mae’r Rheoliadau—

a

yn ehangu’r pŵer a roddir i awdurdodau lleol i ddyroddi cyfarwyddydau mannau cyhoeddus fel y caiff cyfarwyddyd wahardd gweithgareddau penodedig mewn man cyhoeddus yn ogystal â chyfyngu ar fynediad iddo;

b

yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.