Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 08/11/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1149 (Cy. 261)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Cymeradywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

21 Hydref 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

22 Hydref 2020

Yn dod i rym

am 6.00 p.m. ar 23 Hydref 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1LL+CCyflwyniad

Enwi, cychwyn a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 p.m. ar 23 Hydref 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Dod i benLL+C

2.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Tachwedd 2020.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 2LL+CCyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill

Gofyniad i aros gartrefLL+C

3.—(1Ni chaiff unrhyw berson yng Nghymru, heb esgus rhesymol, ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw.

(2Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—

(a)cael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 gan gynnwys—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(b)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(c)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(d)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny gartref;

(e)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;

(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;

(g)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;

(h)gwneud ymarfer corff, naill ai—

(i)ar ei ben ei hun,

(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu

(iii)gyda gofalwr y person;

(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.

(k)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(l)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(m)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(n)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;

(o)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(p)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(q)symud cartref;

(r)paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;

(s)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

(3Mae gan berson esgus rhesymol i ymadael â’r man lle y mae’n byw i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—

(a)a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;

(b)a gynhelir yn yr awyr agored;

(c)a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.

(4Ym mharagraff (2)(h)—

(a)rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw, neu

(b)pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(3)), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.

(5Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraillLL+C

4.—(1Pan na fo person yn y man lle y mae’n byw (yn rhinwedd bod ag esgus rhesymol o dan reoliad 3), ni chaiff y person hwnnw, heb esgus rhesymol, ymgynnull ag unrhyw berson arall ac eithrio—

(a)aelodau o’i aelwyd,

(b)ei ofalwr, neu

(c)person y mae’n darparu gofal iddo.

(2Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—

(a)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny heb ymgynnull gydag eraill;

(b)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(c)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(d)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;

(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato neu gystadlu ynddo;

(g)darparu hyfforddiant a chymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;

(h)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;

(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(k)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.

(3Mae gan berson hefyd esgus rhesymol dros ymgynnull gyda pherson arall i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—

(a)a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;

(b)a gynhelir yn yr awyr agored;

(c)a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiad ar deithio i GymruLL+C

5.—(1Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru, heb esgus rhesymol, fynd i Gymru neu aros yng Nghymru.

(2Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol yng Nghymru—

(a)cael—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(b)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(c)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud y gwaith neu ddarparu’r gwasanaeth o’r tu allan i Gymru;

(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;

(g)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;

(h)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;

(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(k)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(l)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(m)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(n)cael gafael ar wasanaethau addysgol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;

(o)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(p)symud cartref;

(q)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed;

(r)teithio i gyrraedd man y tu allan i Gymru.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson fynd i Gymru neu aros yng Nghymru i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiad ar fynd i’r ysgolLL+C

6.—(1Ni chaiff disgybl ym mlwyddyn 9 neu uwch fynd i fangre ysgol yng Nghymru.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)disgybl rhag mynd i fangre ysgol—

(i)i wneud arholiad neu asesiad arall;

(ii)pan fo perchennog yr ysgol yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y disgybl;

(b)disgybl rhag mynd i fangre ysgol arbennig;

(c)disgybl rhag mynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;

(d)disgybl rhag mynd i fangre uned mewn ysgol, lle—

(i)mae awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi’i neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a

(ii)bod y disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;

(e)disgybl sy’n ddisgybl preswyl—

(i)rhag preswylio mewn llety ym mangre’r ysgol;

(ii)rhag cael addysg yn y llety hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiad ar fynd i addysg bellachLL+C

7.—(1Ni chaiff myfyriwr fynd i fangre sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn atal myfyriwr rhag mynd i fangre—

(a)sefydliad addysg bellach i wneud arholiad neu asesiad arall;

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y myfyriwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Dehongli rheoliadau 6 a 7LL+C

8.  At ddibenion rheoliadau 6 a 7—

(a)ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996(4);

(b)mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;

(c)ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—

(i)sefydliad yn y sector addysg bellach;

(ii)darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(5)

(aa)nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i);

(bb)nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(6), ac

(cc)sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw oddi wrth Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;

ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;

(d)mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;

(e)mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

(f)mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;

(g)mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996;

(h)mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 4 o Ddeddf 1996;

(i)mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;

(j)mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;

(k)ystyr “ysgol arbennig” yw—

(i)ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;

(ii)ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;

(l)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996;

(m)ystyr “blwyddyn ysgol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;

(n)ystyr “blwyddyn 9” yw grŵp blwyddyn y bydd y rhan fwyaf o’r plant ynddo yn cyrraedd 14 oed yn ystod y flwyddyn ysgol;

(o)ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd yr un oedran mewn blwyddyn ysgol benodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau cerddorol penodol sydd heb eu trwyddeduLL+C

9.—(1Ni chaiff unrhyw berson ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

(a)sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl,

(b)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 4(1),

(c)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

(d)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

(i)y mae’n weithgarwch trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 2003(7)), a

(ii)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).

(3At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fynd iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

[F1Cyfyngiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddarLL+C

9A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,

(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac

(c)wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.

(2) Nid yw rheoliadau 3 i 7 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.

(3) Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.

(4) Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—

(a)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;

(c)er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.]

RHAN 3LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd fel arfer ar agor i’r cyhoedd

PENNOD 1LL+CTrosolwg

Cyfeiriadau at “mangre” a throsolwgLL+C

10.—(1Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “mangre” yn gyfeiriadau at fangre busnes neu wasanaeth—

(a)sydd yng Nghymru, a

(b)y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi, pa un ai drwy dalu neu fel arall.

(2Mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau.

(3Mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt.

(4Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y caiff eu mangreoedd barhau i fod ar agor.

(5Gweler rheoliad 17 am ddarpariaeth bellach ynghylch mangreoedd a gaiff barhau i fod ar agor neu a gaeir ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt yn unol â’r Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolLL+C

11.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau bariau a bwytai etc.LL+C

12.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 22 i 25 o Atodlen 1—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre ar gyfer—

(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau cyfyngedig a ganiateir gan reoliad 13);

(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd;

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

(3At ddibenion paragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Cau llety gwyliauLL+C

13.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 26 i 29 o Atodlen 1—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(b)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(c)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Cau addoldai, canolfannau cymunedol ac amlosgfeyddLL+C

14.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre o fath a restrir ym mharagraffau 30 i 32 o Atodlen 1 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan baragraffau (2), (3) a (4).

(2Caiff addoldy fod ar agor—

(a)ar gyfer angladdau;

(b)ar gyfer gweinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil;

(c)i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred addoli, angladd neu weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

(d)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol;

(e)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

(3Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

(4Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).

(5Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.

(6Yn y rheoliad hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 4LL+CBusnesau a gwasanaethau y caiff eu mangreoedd fod ar agor

Mangreoedd agoredLL+C

15.—(1Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon, caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 barhau i fod ar agor.

(2A chaiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i gael gafael ar fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1.

(3Ond ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(4Nid yw paragraff (3) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu na chyflenwi alcohol, yn groes i awdurdodiad a ganiateir neu a roddir mewn cysylltiad â’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 5LL+CBusnesau cymysg

Busnesau cymysgLL+C

16.—(1Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”), yn rhinwedd rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1), beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1) os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

(2Felly er mwyn osgoi amheuaeth, pan—

(a)caiff mangre a weithredir gan fusnes neu wasanaeth barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15(1), a

(b)bo’r busnes hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw yn ffurfio rhan o ymgymeriad mwy sy’n cynnwys cynnal busnes neu wasanaeth arall yn yr un fangre,

rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y busnes arall hwnnw neu’r gwasanaeth arall hwnnw beidio â’i gynnal os yw’n ofynnol iddo wneud hynny yn rhinwedd rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 4LL+CLleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws

Gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig i leihau risgLL+C

17.—(1At ddibenion paragraff (2)—

(a)ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—

(i)mangre y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi yn rhinwedd rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), (3) neu (4);

(ii)mangre busnes neu wasanaeth a gaiff barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15;

(iii)cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;

(iv)mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud, a

(b)ystyr y “person cyfrifol” yw—

(i)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i), (ii) neu (iii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,

(ii)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iv), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.

(2At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr);

(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr),

(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre;

(c)caniatáu a galluogi i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan ofynnwyd i’r person hwnnw wneud hynny gan—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)swyddog iechyd cyhoeddus;

(iii)swyddog i Fwrdd Iechyd lleol;

(iv)person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws;

(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

(i)Gweinidogion Cymru,

(ii)swyddog iechyd cyhoeddus,

(iii)person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson yn y fangre, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigonol i allu cysylltu â’r person, i roi gwybod iddo y gall fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre (gan gynnwys rhif ffôn a’r dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

(b)mae i “swyddog iechyd cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “public health officer” ym mharagraff 3(2)(c) o Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(8);

(c)mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir i “Local Health Board” gan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(9).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusLL+C

18.—(1Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

(3Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;

(c)ar fferi—

(i)pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu

(ii)pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;

(d)ar long fordeithio;

(e)pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—

(i)ar ei ben ei hunan, neu

(ii)gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;

(f)pan—

(i)caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(ii)na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a

(iii)bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;

(g)ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, nac sydd i lanio mewn man yng Nghymru;

(h)ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.

(4Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);

(b)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(d)pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(e)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);

(f)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—

(i)swyddog gorfodaeth, neu

(ii)gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.

(5Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw gludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—

(a)cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu

(b)hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doLL+C

19.—(1Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt, pa un ai drwy dalu neu fel arall.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).

(3Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);

(b)pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(d)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(e)pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(f)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

(g)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirwsLL+C

20.—(1Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 17(2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

(2Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 18 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—

(a)y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 18 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 25;

(b)darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 18.

(3O ran Gweinidogion Cymru——

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(4Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 5LL+CGorfodi

Swyddogion gorfodaethLL+C

21.—(1At ddibenion rheoliad 22 ac Atodlen 2, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2At ddibenion rheoliadau 23 i 31, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)awdurdod lleol,

at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu

(d)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—

(i)rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(10) at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu

(ii)rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(11) yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),

(ond gweler paragraff (3)).

(3Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15(3), 17(2) neu Atodlen 2 (neu achos honedig o’i dorri).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliolLL+C

22.  Mae Atodlenni 2 a 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliad 17(2) ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

23.—(1Caiff swyddog gorfodi roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 11(1), 12(1), 13(1), 14(1) neu 18(5).

(2Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Pwerau symud a gwasgaruLL+C

24.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 3(1) [F2neu 9A(3)], caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw;

(b)symud P i’r man hwnnw.

(2Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod pobl wedi ymgynnull yn groes i reoliad 4(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(c)symud unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 5(1), caiff y swyddog gyfarwyddo P i ymadael â Chymru.

(4Wrth arfer y pŵer ym mharagraff (1), (2) neu (3), caiff swyddog gorfodaeth gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(5Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri, neu ar fin torri, rheoliad 9(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio neu atal y toriad;

(b)symud P o leoliad neu leoliad arfaethedig y digwyddiad y mae’r swyddog yn amau ei fod yn cael, neu ar fin cael, ei drefnu yn groes i reoliad 9(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gorfodi gofynion gorchuddion wynebLL+C

25.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 18(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;

(b)symud P o’r cerbyd.

(2Pan fo gan—

(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu

(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,

sail resymol dros amau bod person (“P”) ar fin torri rheoliad 18(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r fangre;

(b)symud P o’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: plantLL+C

26.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 3(1) [F3neu 9A(3)] neu’n ymgynnull yn groes i reoliad 4(1) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(2Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 5(1) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i fan y tu allan i Gymru, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod plentyn yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 18(1) neu 19(1), caiff y swyddog gyfarwyddo unrhyw unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

(4At ddibenion paragraffau (1), (2) a (3), mae gan U gyfrifoldeb dros plentyn os oes gan U—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Pŵer mynediadLL+C

27.—(1Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—

(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) gymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.

(3Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: darpariaeth atodolLL+C

28.—(1Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.

(2Caiff swyddog gorfodaeth ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—

(a)rheoliad 24(1)(b), (2)(c) neu (5)(b),

(b)rheoliad 25(1)(b) neu (3)(b), neu

(c)rheoliad 27(1).

(3Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(4Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 6LL+CTroseddau a chosbau

Troseddau a chosbauLL+C

29.—(1Mae person sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 9(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1) neu 15(3), neu

(b)yn torri gofyniad yn rheoliad 3(1), 4(1), 5(1), [F4, 9A(3)] 18(1) neu 19(1)

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3Mae person sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 2,

(b)yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu

(c)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.

(4Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—

(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 5, neu

(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 25(2), neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 23(1),

yn cyflawni trosedd.

(5Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

(6Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(12) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.LL+C

30.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(3Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(4Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(5Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(13) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(14) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(6Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(7Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

31.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio trosedd o dan reoliad 29(3)(a)), a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)awdurdod lleol, neu

(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

a bennir yn yr hysbysiad.

(3Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).

(4Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 neu reoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(5Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.

(6Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(7Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig;

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(8Pan ddyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 9(1), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £10,000 (ac nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys).

(9Mewn unrhyw achos arall, rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (10) ac (11)).

(10Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna swm y gosb benodedig.

(11Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau a grybwyllir ym mharagraff (12)

(a)nid yw paragraff (10) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.

(12Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb benodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan—

(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(b)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, ac

(c)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(15).

i’w hystyried, ond nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 14B(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 neu reoliad 9(1) o’r Rheoliadau hyn.

(13Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (7)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (7)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(14Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (13), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(15Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a

(b)sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

ErlynLL+C

32.—(1Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—

(a)y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,

(b)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu

(c)mewn perthynas ag achos am drosedd o dorri gofyniad yn rheoliad 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15(3), 17(2) neu Atodlen 2, awdurdod lleol.

(2Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 neu reoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 7LL+CCyffredinol

DehongliLL+C

33.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;

(b)ystyr “cartref gofal” yw mangre y mae “gwasanaeth cartref gofal” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(16) yn cael ei ddarparu ynddi;

(c)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—

(i)bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(17),

(ii)bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(d)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

(e)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

(f)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;

(g)ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

(h)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(i)mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir gan reoliad 17(4)(c);

(j)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989(18);

(k)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(l)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(m)ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

(n)mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 17(1);

(o)“digwyddiadau chwaraeon penodedig” yw’r canlynol—

(i)gêm pêl-droed Cymru v Norwy, gêm gymhwysol merched Pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA ar 27 Hydref 2020;

(ii)gêm rygbi Cymru v yr Alban, Twrnamaint merched y 6 Gwlad ar 1 Tachwedd 2020;

(iii)gêm Cynghrair Pencampwyr UEFA sy’n cynnwys Merched Dinas Abertawe AFC sydd i’w chynnal ar 3 neu 4 Tachwedd 2020;

(p)mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

(q)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;

(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(19).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

(b)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(20).

(3Os yw aelwyd sy’n cynnwys dim mwy nag un oedolyn (ac unrhyw nifer o blant) ac aelwyd arall yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio ym mharagraffau (4) i (6)) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y ddwy aelwyd.

(4Er mwyn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd rhaid i bob oedolyn ar y ddwy aelwyd gytuno.

(5Ond—

(a)dim ond gydag un aelwyd arall y caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd, a

(b)os yw’r ddwy aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel un aelwyd, ni chaiff y naill aelwyd na’r llall gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd o dan baragraff (3) gydag unrhyw aelwyd arall.

(6Os yw dwy aelwyd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig dros dro yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 4A i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) ((Cymru) 2020(21) maent i’w trin fel pe baent hefyd wedi cytuno i hi gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(7At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

DirymuLL+C

34.—(1Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020;

(b)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020(22);

(c)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020(23);

(d)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020(24);

(e)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020(25);

(f)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020(26);

(g)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020(27);

(h)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020(28);

(i)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020(29);

(j)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020(30);

(k)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020(31);

(l)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020(32);

(m)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020(33);

(n)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020(34);

(o)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020(35);

(p)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020(36);

(q)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020(37);

(r)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020(38);

(s)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020(39);

(t)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020(40).

(2Er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny, maent yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd, neu unrhyw hysbysiad a roddwyd neu a ddyroddwyd, o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Diwygiad canlyniadolLL+C

35.—(1Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2020

Rheoliadau 11 i 15

ATODLEN 1LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu i’w cau

RHAN 1LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd

1.  Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop, gan gynnwys—LL+C

(a)siopau nwyddau i’r cartref;

(b)salonau ewinedd a harddwch;

(c)sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo;

(d)tai arwerthiant;

(e)delwriaethau ceir;

(f)marchnadoedd;

(g)siopau betio;

(h)salonau gwallt a barbwyr;

(i)canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

2.  Canolfannau siopa ac arcedau siopa.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

3.  Sinemâu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

4.  Theatrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

5.  Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

6.  Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(41)).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

7.  Neuaddau bingo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

8.  Neuaddau cyngerdd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

9.  Casinos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

10.  Canolfannau sglefrio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

11.  Pyllau nofio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

12.  Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

13.  Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

14.  Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

15.  Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

16.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

17.  Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

18.  Canolfannau ailgylchu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

19.  Llyfrgelloedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

20.  Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

21.  Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau heblaw am fannau addoli a swyddfeydd cofrestru).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 2LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

PENNOD 1LL+CMangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod i’w bwyta ac i’w hyfed yn y fangre

22.  Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

23.  Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

24.  Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

25.  Tafarndai.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CGwestai a llety gwyliau

26.  Safleoedd gwyliau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

27.  Safleoedd gwersylla.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

28.  Gwestai a llety gwely a brecwast.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

29.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3LL+CEraill

30.  Mannau addoli.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

31.  Canolfannau cymunedol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

32.  Amlosgfeydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y caniateir i’w mangreoedd fod ar agor

33.  Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys mangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

34.  Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

35.  Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

36.  Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

37.  Siopau papurau newydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

38.  Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

39.  Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

40.  Siopau beiciau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

41.  Gorsafoedd petrol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

42.  Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

43.  Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

44.  Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

45.  Swyddfeydd post.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

46.  Golchdai a siopau glanhau dillad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

47.  Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

48.  Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

49.  Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

50.  Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

51.  Trefnwyr angladdau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 4LL+CDehongli

52.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—LL+C

(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(2At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(42) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Rheoliad 22

ATODLEN 2LL+CGorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

Hysbysiad gwella mangreLL+C

1.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—

(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 17(2), a

(b)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

(2Rhaid i hysbysiad gwella mangre—

(a)pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;

(b)pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2);

(c)pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);

(d)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(3Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 17(1)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Hysbysiad cau mangreLL+C

2.—(1Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.

(2Amod 1 yw—

(a)bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,

(b)bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac

(c)bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 17(2), a

(b)bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(4Rhaid i hysbysiad cau mangre—

(a)cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,

(b)pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(i)nad ydynt wedi eu cymryd, a

(ii)y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2),

(c)pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2),

(d)yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,

(e)pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac

(f)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(5Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 336 o oriau (14 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.

(6Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.

(7Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Effaith hysbysiad cau mangreLL+C

3.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

(a)bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

(b)na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

(2Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

(3At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

(a)pan fo’r person yn byw yn y fangre;

(b)pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

(c)pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 17(2) pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

(d)pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

(e)pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangreLL+C

4.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—

(a)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu

(b)bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 17(2) yn y fangre o dan sylw.

(2Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

ApelauLL+C

5.—(1Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2Rhaid i apêl gael ei gwneud—

(a)drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a

(b)o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.

(3Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).

(4Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.

(5Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—

(a)cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;

(b)cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;

(c)addasu’r hysbysiad;

(d)gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.

(6Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

(7Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.

(8Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—

(a)cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;

(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadauLL+C

6.—(1Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.

(2Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person hwnnw—

(a)os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu

(b)os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoeddLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

(2Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

(a)arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;

(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.

(3Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

(4Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Darparu gwybodaeth etc.LL+C

8.—(1Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon—

(a)ei wneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer;

(b)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny neu gymryd copïau ohonynt.

(2Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.

(3Nid yw unrhyw wybodaeth neu ateb a roddir gan berson mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan is-baragraff (1)(a) yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw, neu briod neu bartner sifil y person, mewn unrhyw achos ac eithrio achos o dan y Rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Rheoliad 22

ATODLEN 3LL+CY ffurf ar arwydd i fynd gyda hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre

Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad gwella mangreLL+C

1.—(1Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad gwella mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 2 fod ar y ffurf a nodir isod.

(2Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad cau mangreLL+C

2.—(1Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad cau mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 2 fod ar y ffurf a nodir isod.

(2Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du a choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae 7 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn darparu y daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6 p.m. ar 23 Hydref 2020 ac y deuant i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Tachwedd 2020.

Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar symud a theithio. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n byw yng Nghymru aros gartref, oni bai bod ganddynt esgus rhesymol dros ymadael. Yn ogystal, o dan yr amgylchiadau cyfyngedig pan fo pobl yn gallu ymadael â’r cartref, mae cyfyngiad yn rheoliad 4 ar bobl rhag ymgynnull gydag unrhyw berson sydd ddim yn rhan o’u haelwyd. Effaith cyffredinol y darpariaethau hyn yw cyfyngu ar symudiadau pobl sy’n byw yng Nghymru. Yn gyson â hynny, mae rheoliad 5 yn darparu bod angen esgus rhesymol ar bobl sy’n byw tu allan i Gymru er mwyn teithio i Gymru. Mae rheoliadau 6 a 7 yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan fo gan ddisgybl neu fyfyriwr esgus rhesymol dros fynychu mangre ysgol neu sefydliad addysg bellach. Mae rheoliad 9 hefyd yn gwneud darpariaeth bellach sy’n ei gwneud yn drosedd (a gosbir drwy gosb uwch) trefnu digwyddiadau cerddorol mawr sy’n annog pobl i ymgynnull yn anghyfreithlon.

Mae Rhan 3 yn ymwneud â busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd ar agor i’r cyhoedd fel arfer, gan ei gwneud yn ofynnol i lawer ohonynt gau. Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn rhestru’r busnesau hynny a’r gwasanaethau hynny y mae rhaid i’w mangreoedd fod ar gau i’r cyhoedd (er bod rheoliad 11 yn ei gwneud yn glir nad yw hyn yn atal rhai gweithgareddau penodol rhag digwydd yn y fangre). Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn rhestru busnesau a mangreoedd y mae rhaid i’w mangreoedd gael eu cau ond y gall mynediad iddynt gael ei ganiatáu ar sail cyfyngedig. Mae’r rhain wedi eu categoreiddio yn fangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod (a restrir ym Mhennod 1 ac y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt yn unol â rheoliad 12); mangreoedd sy’n cynnig llety gwesty neu lety gwyliau (a restrir ym Mhennod 2 ac y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt yn unol â rheoliad 13); ac eraill (a restrir ym Mhennod 3 ac y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt yn unol â rheoliad 14). Mae rheoliad 15 yn darparu eithriad i’r gofyniad i gau sy’n gymwys i fangreoedd busnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1. Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn glir, pan fo mwy nag un math o fusnes neu wasanaeth yn cael ei ddarparu yn yr un fangre, nad yw’r mathau o fusnes neu wasanaeth a waharddir gan reoliad 11 (ac a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1) i barhau.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaethau at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae rheoliad 17 yn gymwys i “mangre reoleiddiedig” (unrhyw fan sydd ar agor i’r cyhoedd neu lle y gwneir gwaith) ac yn ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i unrhyw fesurau rhesymol eraill gael eu cymryd, er enghraifft er mwyn cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu sy’n gweithio ynddi ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall peidio â gwneud gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini yn y fangre fod yn fesurau rhesymol. Mae rheoliadau 18 a 19 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidaeth gyhoeddus, gan gynnwys tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir. Mae rheoliad 20 yn darparu i ganllawiau gael eu dyroddi ynghylch cymhwyso’n ymarferol y gofynion a osodir gan y Rhan hon, a rhaid i’r rheini y mae’r gofynion yn gymwys iddynt roi sylw i’r canllawiau hynny.

Mae Rhan 5 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 2 a 3) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd mesurau ataliol o dan reoliad 17, mae rheoliad 23 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 24 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliad 25 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 26 yn ymwneud â phlant. Mae rheoliad 27 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre ac mae rheoliad 28 yn caniatáu i rym rhesymol gael ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliad 29 yn darparu bod person sy’n torri gofynion (a restrir) yn y Rheoliadau hyn, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd. Mae’r drosedd honno i’w chosbi drwy ddirwy ddiderfyn. Mae rheoliad 30 yn ymwneud â throseddau gan gyrff corfforedig. Mae rheoliad 31 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig ac mae rheoliad 32 yn ymwneud ag erlyn troseddau o dan y rheoliadau.

Mae Rhan 7 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 33) ac yn dirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/725 (Cy. 162)) fel y’u diwygiwyd (rheoliad 34). Mae rheoliad 33 hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n addasu’r cyfyngiadau niferus ar unigolion yn y Rheoliadau sy’n cyfyngu ar ryngweithio ag unrhyw un nad yw’n aelod o’u haelwyd. Mae hyn yn caniatáu i berson sy’n byw ar ei ben ei hun neu ddim ond gyda phlant gytuno i ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd arall, sy’n golygu y gall aelodau o’r ddwy aelwyd ryngweithio â’i gilydd fel pe baent yn aelodau o un aelwyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(18)

1989 p. 41. Gweler Rhan 1 o’r Ddeddf, y mae diwygiadau amrywiol wedi eu gwneud iddi, gan gynnwys gan Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (c. 22) ac O.S. 2019/1458.

(19)

2006 p. 47, fel y’i diwygiwyd gan adran 65 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2010 (p. 9).

(21)

O.S. 2020/725 (Cy. 162). Diwygiwyd paragraff 2 o Atodlen 4A gan O.S. 2020/1079 (Cy. 242).

(41)

Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 3 gan adran 27(3) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).

(42)

2013 dccc 6, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources