2020 Rhif 1219 (Cy. 276)

F9Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Annotations:
Amendments (Textual)

F9RHAN 1F9...

Enwi, cychwyn a dod i rymF91

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

AdolyguF92

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Dod i benF93

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 2F9...

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatF94

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Aelwydydd estynedigF95

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusF96

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauF97

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau cerddoriaeth penodol sydd heb eu trwyddeduF98

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 3F9...

Cyfyngiad ar deithio i Gymru ac o GymruF99

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4F9....

F9PENNOD 1F9...

Dehongli’r RhanF910

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirwsF911

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: plentyn â’r coronafeirwsF912

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolynF913

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentynF914

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofynion ynysu: eithriadauF915

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad ar bersonau a chanddynt gyfrifoldeb dros blantF916

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnolF917

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9PENNOD 2F9...

Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaethF918

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1PENNOD 3F1...

Annotations:

Cyfyngiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddarF118A

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 5F9...

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolF919

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diodF919A

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod: eithriadauF919B

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigF920

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 6F9...

Gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig i leihau risgF921

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusF922

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doF923

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirwsF924

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 7F9...

Swyddogion gorfodaethF925

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliolF926

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Hysbysiadau cydymffurfioF927

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Pwerau symud a gwasgaruF928

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadau gwaharddedigF929

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gorfodi gofynion gorchuddion wynebF930

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gorfodi: plantF931

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Pŵer mynediadF932

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Pŵer yr heddlu i gynnal archwiliadau ar y ffyrddF933

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gorfodi: darpariaeth atodolF934

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 8F9...

Troseddau a chosbauF935

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.F936

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Hysbysiadau cosb benodedigF937

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Swm cosb benodedig: cyffredinolF938

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Swm cosb benodedig: cymryd rhan mewn cynulliad mawr mewn annedd breifatF939

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiadF940

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad cerddoriaeth sydd heb ei drwyddeduF941

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Swm gosb benodedig: troseddau sy’n gysylltiedig â busnesF942

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cosbau penodedig: ffurf a gweithdrefnF943

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Hysbysiadau cosb benodedig: gwaharddiad ar gosbi ddwywaithF944

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

HunanargyhuddoF945

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ErlynF946

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 9F9...

DehongliF947

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiad canlyniadolI148

Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

d

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 48 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

F9ATODLEN 1F9...

Rheoliad 19(1)

F91

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F92

F93

F94

F95

F96

F97

F98

F99

F910

F911

F912

F9ATODLEN 2F9...

Rheoliad 21(1)

F813

F714

F915

F916

F6I217

F518

F919

F920

F921

F922

F923

F924

F425

F926

F927

F928

F929

F930

F931

F932

F333

F934

F935

F936

F937

F238

F939

F940

F941

F942

F943

F944

F945

F945A

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9RHAN 2F9...

F946

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9ATODLEN 3F9...

Rheoliad 26

Hysbysiad gwella mangreF91

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Hysbysiad cau mangreF92

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Effaith hysbysiad cau mangreF93

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangreF94

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ApelauF95

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadauF96

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoeddF97

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Dangos dogfennau etc.F98

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9ATODLEN 4F9...

Rheoliad 26

Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad gwella mangreF91

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad cau mangreF92

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae 9 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn darparu y daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2020 a bod rhaid eu hadolygu erbyn 19 Tachwedd, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 20 Tachwedd i 3 Rhagfyr, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 4 Rhagfyr i 17 Rhagfyr, ac o leiaf unwaith pob 21 o ddiwrnodau ar ôl hynny. Mae hefyd yn darparu, oni chaiff y Rheoliadau eu dirymu neu eu diwygio cyn hynny, eu bod yn dod i ben ar 19 Chwefror 2021.

Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar gyfarfod â phobl eraill (y cyfeirir ato fel cymryd rhan mewn cynulliadau) ac ar ddigwyddiadau. Mae rheoliad 4 yn cyfyngu ar gynulliadau yng nghartrefi pobl (gan gynnwys eu gerddi) i ddim ond y rheini sy’n rhan o aelwyd estynedig (neu “swigen”). Mae rheoliad 5 yn darparu y caniateir ffurfio aelwyd estynedig pan fydd pob oedolyn ar hyd at 2 aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel 1 aelwyd at ddiben cyfarfod yng nghartrefi pobl neu ar gyfer cyfarfod yn yr awyr agored (ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig). Mae rheoliad 6 yn cynnwys cyfyngiad ar gyfarfod i ffwrdd o gartrefi pobl. Yn yr achos hwnnw, mae cynulliadau wedi eu cyfyngu i 4 o bobl, heb gynnwys plant o dan 11 oed. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i lety gwyliau na llety teithio pan fo’r cynulliad wedi ei gyfyngu i bobl sy’n aelodau o’r un aelwyd. Mae’r cyfyngiadau yn rheoliadau 4 a 6 ill dau yn gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a restrir, ac yn ddarostyngedig i sefyllfaoedd pan fo’n gallu bod yn rhesymol angenrheidiol ymgynnull ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol. Caiff mwy na 4 o bobl ymgynnull os ydynt i gyd yn rhan o’r un aelwyd, neu os ydynt yn cyfarfod yn yr awyr agored (ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig) os ydynt i gyd yn rhan o’r un aelwyd estynedig. Mae eithriadau yn cynnwys gweithgareddau penodol “wedi eu trefnu” sy’n cynnwys hyd at 15 o bobl sy’n cyfarfod o dan do a 30 o bobl sy’n cyfarfod yn yr awyr agored. Rhaid cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn ystod gweithgareddau wedi eu trefnu ac ni chaniateir iddynt ddigwydd yng nghartrefi pobl. Mae rheoliadau 7 a 8 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch digwyddiadau sy’n annog pobl i ymgynnull yn anghyfreithlon.

Mae Rhan 3 yn ymwneud â theithio. Mae rheoliad 9 yn gwahardd pobl rhag mynd i Gymru neu ymadael â Chymru. Mae hyn unwaith eto yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a restrir, ac yn ddarostyngedig i sefyllfaoedd pan fo’n gallu bod yn rhesymol angenrheidiol teithio ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol. Nid oes unrhyw waharddiad ar deithio o fewn Cymru.

Mae Rhan 4 yn gosod gofynion ar bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws a’u cysylltiadau agos. Mae rheoliadau 11 a 12 yn darparu na chaiff oedolion na phlant sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw tan ddiwedd diwrnod olaf eu hynysiad (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 15). Cyfrifir diwrnod olaf eu hynysiad yn unol â rheoliadau 11 a 12. Mae rheoliadau 13 a 14 yn darparu na chaiff pobl sydd wedi cael “cysylltiad agos” â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw tan ddiwedd diwrnod olaf eu hynysiad (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 15). Cyfrifir diwrnod olaf eu hynysiad yn unol â rheoliadau 13 a 14. Mae rheoliad 16 yn ymwneud â rhwymedigaethau oedolion mewn cysylltiad â phlant y mae’n ofynnol iddynt ynysu, mae rheoliad 17 yn galluogi i hysbysiadau a roddir o dan y Rhan hon gan swyddogion olrhain cysylltiadau gael eu tynnu’n ôl ac mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a ddelir gan swyddogion olrhain cysylltiadau.

Mae Rhan 5 yn ymwneud â busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd ar agor i’r cyhoedd fel arfer. Mae rheoliad 19 yn darparu bod rhaid i fangreoedd busnesau a gwasanaethau a restrir yn Atodlen 1 fod ar gau i’r cyhoedd (er nad yw hyn yn atal gweithgareddau penodol rhag digwydd yn y fangre). Mae rheoliad 20 yn gosod cyfyngiadau ar fusnesau y mae eu mangreoedd wedi eu trwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol. Mae’r rhain yn gwahardd alcohol rhag cael ei werthu ar ôl 10.00 p.m. ac yn ei gwneud yn ofynnol i fangreoedd fod ar gau erbyn 10.20 p.m. ar yr hwyraf.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mannau lle y mae pobl yn dod ynghyd. Mae rheoliad 21 yn gymwys i “mangreoedd rheoleiddiedig” (unrhyw fan sydd ar agor i’r cyhoedd neu lle y gwneir gwaith) ac yn ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i unrhyw fesurau rhesymol eraill gael eu cymryd, er enghraifft i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu’n gweithio mewn mangre ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall stopio gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini sydd yn y fangre fod yn fesurau rhesymol. Mae mesurau penodol hefyd yn gymwys i leoliadau lletygarwch. Mae rheoliadau 22 a 23 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir. Mae rheoliad 24 yn darparu i ganllawiau gael eu dyroddi ynghylch cymhwyso’n ymarferol y gofynion a osodir gan y Rhan hon, a bod rhaid i’r rheini y mae’r gofynion yn gymwys iddynt roi sylw i’r canllawiau hynny.

Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 3 a 4) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd mesurau ataliol o dan reoliad 21, mae rheoliad 27 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 28 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi’r gwaharddiad ar ddigwyddiadau penodol. Mae rheoliad 30 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 31 yn ymwneud yn benodol â phlant. Mae rheoliad 32 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre, mae rheoliad 33 yn ymwneud ag archwiliadau ar y ffyrdd gan yr heddlu ac mae rheoliad 34 yn gwneud darpariaeth ychwanegol am orfodi, gan gynnwys caniatáu i rym rhesymol gael ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliad 35 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofynion (a restrir) yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd. Mae hefyd yn darparu bod cynnal cynulliad mwy mewn annedd breifat yn drosedd, a bod darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau yn drosedd hefyd. Mae’r troseddau honny i’w cosbi drwy ddirwy ddiderfyn. Mae rheoliad 36 yn ymwneud â throseddau gan gyrff corfforedig. Mae rheoliad 37 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig, mae rheoliadau 38 i 42 yn ymwneud â swm y gosb ac mae rheoliadau 43 a 44 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch gweinyddu’r cosbau. Mae rheoliad 45 yn ymwneud â hunanargyhuddo ac mae rheoliad 46 yn ymwneud ag erlyn troseddau o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 9 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 47) a diwygiad canlyniadol (rheoliad 48).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.