Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1240 (Cy. 280)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

6 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Tachwedd 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

2.—(1Mae rheoliad 2 o Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (3), yn lle’r testun a amnewidiwyd rhodder “i Brydain Fawr o wlad heblaw Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth”.

(3Yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn rheoliad 13(3)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth neu Ogledd Iwerddon”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

6 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 11M(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16). Mae’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael yn ei gwneud yn ofynnol i ddeddfwriaeth yr UE a restrir yn Atodiad 2 i’r Protocol hwnnw gael ei gweithredu yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r Rheoliadau hyn, felly, yn diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/250 (Cy. 62)) er mwyn gweithredu’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon ac at ddibenion ymdrin â materion sy’n codi o’r Protocol hwnnw neu sy’n gysylltiedig ag ef.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019, sy’n gwneud diwygiadau i Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 (O.S. 2019/57 (Cy. 20)) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16; mewnosodwyd paragraff 11M o Atodlen 2 i Ddeddf 2018 gan adran 22 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1); mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2018 am y diffiniad o “devolved authority”.