2020 Rhif 1246 (Cy. 281)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Coming into force in accordance with regulation 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 132(1) a (2) o Ddeddf Addysg 20021, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Gweithlu Addysg fel sy’n ofynnol gan adran 132(4)2 o’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20183, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Senedd ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae i “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” yr ystyr a roddir i “IP completion day” yn adran 39(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 20204.

Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20192

1

Mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20195 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (1)(c) o baragraff 4 a amnewidiwyd o Atodlen 2, yn lle “pharagraff 48” rhodder “pharagraff 50 neu baragraff 51”.

Kirsty WilliamsY Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Maent hefyd wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau yn adran 132 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i Reoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/444 (Cy. 107)). Mae’r diwygiadau technegol hyn yn codi o ganlyniad i ddiwygiadau a wneir i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/312) gan Reoliadau Cymwysterau a Gwasanaethau Proffesiynol (Diwygiadau a Darpariaethau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1038).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.