Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1246 (Cy. 281)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

2 Tachwedd 2020

Gwnaed

9 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

11 Tachwedd 2020

Coming into force in accordance with regulation 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 132(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Gweithlu Addysg fel sy’n ofynnol gan adran 132(4)(2) o’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Senedd ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae i “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” yr ystyr a roddir i “IP completion day” yn adran 39(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020(4).

Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

2.—(1Mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (1)(c) o baragraff 4 a amnewidiwyd o Atodlen 2, yn lle “pharagraff 48” rhodder “pharagraff 50 neu baragraff 51”.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

9 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Maent hefyd wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau yn adran 132 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i Reoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/444 (Cy. 107)). Mae’r diwygiadau technegol hyn yn codi o ganlyniad i ddiwygiadau a wneir i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/312) gan Reoliadau Cymwysterau a Gwasanaethau Proffesiynol (Diwygiadau a Darpariaethau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1038).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 32; am ystyr “prescribed” a “regulations”, gweler adran 212(1). Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

Yn adran 132(4), amnewidiwyd y geiriau “Education Workforce Council” gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5), adran 48, Atodlen 3, Rhan 1, paragraff 1(1) a (4).