Search Legislation

Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1249 (Cy. 282)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Rheoli Morol, Cymru

Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

9 Tachwedd 2020

Gwnaed

10 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

12 Tachwedd 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r gofyniad i ymgynghori o dan amgylchiadau penodol) a pharagraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru(2) ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Diwygio Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

2.  Mae Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

Diwygio rheoliad 3 (diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011)

3.  Yn rheoliad 3(2), yn yr erthygl 3A(6)(b) newydd sydd i’w mewnosod yng Ngorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011(4) gan y rheoliad hwnnw, yn lle “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (England and Wales) Regulations 2005” rhodder “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005(5)”.

Amnewid rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016)

4.  Yn lle rheoliad 4 rhodder—

Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016

4.  Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016(6), yn lle “yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “, i’r graddau y bo’n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (gan gynnwys, i’r graddau y bo’n ofynnol, fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd) ac mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” yn adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018”(7).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn benodol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/370 (Cy. 91))) sy’n diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru a pharth Cymru, ym meysydd pysgodfeydd a rheoli morol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn cywiro gwall yn rheoliad 3 o Reoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, sy’n ymwneud â diwygiadau a wnaed i Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/559 (Cy. 81)).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth sydd yn amnewid y cywiriadau a wneir gan reoliad 4 o Reoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r DU) 2019, sy’n ymwneud â diwygiadau a wneir i Reoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/665 (Cy. 182)), er mwyn adlewyrchu telerau Cytundeb Ymadael y DU â’r UE.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16 Mae diwygiadau i baragraff 21 o Atodlen 7 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

O.S. 2011/559 (Cy. 81), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 2005/1806 (Cy. 138), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141) ac O.S. 2015/1417 (Cy. 141); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2016/665 (Cy. 182), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O dan Erthygl 138 o’r cytundeb ymadael (fel y diffinnir “withdrawal agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020) ac adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 bydd rhaglenni a gweithgareddau penodol yr Undeb yr ymrwymwyd iddynt o dan fframwaith ariannol amlflwydd 2014-20 a phersbectifau ariannol blaenorol yn parhau i gael eu llywodraethu gan gyfraith berthnasol yr UE sy’n gymwys hyd nes y daw’r rhaglenni a’r gweithgareddau hynny i ben. Mewnosodwyd adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 gan adran 5 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020. Mewnosodwyd adran 7C o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 gan adran 26(2) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources