2020 Rhif 1249 (Cy. 282)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Rheoli Morol, Cymru

Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r gofyniad i ymgynghori o dan amgylchiadau penodol) a pharagraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru2 ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Diwygio Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20192

Mae Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20193 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

Diwygio rheoliad 3 (diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011)3

Yn rheoliad 3(2), yn yr erthygl 3A(6)(b) newydd sydd i’w mewnosod yng Ngorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 20114 gan y rheoliad hwnnw, yn lle “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (England and Wales) Regulations 2005” rhodder “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 20055”.

Amnewid rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016)4

Yn lle rheoliad 4 rhodder—

Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 20164

Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 20166, yn lle “yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “, i’r graddau y bo’n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (gan gynnwys, i’r graddau y bo’n ofynnol, fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd) ac mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” yn adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018”7

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn benodol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/370 (Cy. 91))) sy’n diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru a pharth Cymru, ym meysydd pysgodfeydd a rheoli morol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn cywiro gwall yn rheoliad 3 o Reoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, sy’n ymwneud â diwygiadau a wnaed i Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/559 (Cy. 81)).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth sydd yn amnewid y cywiriadau a wneir gan reoliad 4 o Reoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r DU) 2019, sy’n ymwneud â diwygiadau a wneir i Reoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/665 (Cy. 182)), er mwyn adlewyrchu telerau Cytundeb Ymadael y DU â’r UE.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.