Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1302 (Cy. 287)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

17 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

18 Tachwedd 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983(1) ac adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2)

sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) a’r pwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 2 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2DIRYMU RHEOLIADAU

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(5) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(6) wedi eu dirymu.

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 2

4.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, ar ôl “Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc;” mewnosoder “Gibraltar;”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;

(ii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(iii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;

(c)ym mharagraff (5)(b) ac (c), ar ôl “y tu allan i’r diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar,”;

(d)ym mharagraff (6)—

(i)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;

(ii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(iii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci”;

(e)ym mharagraff (7), ar ôl “mae ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

Diwygiadau i’r Atodlen

5.—(1Mae’r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020(8);;

ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(b)hepgorer y diffiniad o “gwladolyn o’r GE”;

(c)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(d)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, yn lle “gwladolyn o’r GE” rhodder “gwladolyn o’r UE” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(e)yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi caffael hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;.

(3Ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio’n barhaol, neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(b)yn is-baragraff (ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.

(4Ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.

(5Ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu)—

(a)ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);

(b)yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd”;

(c)ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(6Ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)ym mharagraff (b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)ym mharagraff (ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;

(iii)ym mharagraff (d), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar,”;

(b)yn is-baragraff (2)—

(i)yn lle “sydd a chanddo hawl i breswylio’n barhaol ymhob achos” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol ac sydd ymhob achos” ac yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;

(ii)yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;

(c)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

(7Ym mharagraff 9 (gwladolion o’r GE)—

(a)yn y pennawd, yn lle “Gwladolion o’r GE” rhodder “Gwladolion o’r UE”;

(b)yn is-baragraff (1)—

(i)ym mharagraff (a)(i), yn lle “yn wladolyn o’r GE” rhodder “yn wladolyn o’r UE”;

(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;

(c)yn lle is-baragraff (1A) rhodder—

(1A) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu

(ii)yn wladolyn o’r UE; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(d)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(8Ym mharagraff 10 (gwladolion o’r GE)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sy’n wladolyn o’r UE”;

(b)yn is-baragraff (1)(ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;

(c)yn is-baragraff (2), yn lle “yn wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn wladolyn o’r UE”.

(9Yn lle paragraff 11 (plant gwladolion o’r Swistir) rhodder—

11.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn o’r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(10Ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr o Dwrci), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

6.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i Atodlen 1

7.—(1Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(ii)yn y diffiniad o “gwladolyn o’r AEE”, hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”;

(iii)yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi caffael hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(b)yn yr is-baragraffau a ganlyn, hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd—

(i)is-baragraff (2)(b);

(ii)is-baragraff (3)(b);

(iii)is-baragraff (4)(b);

(iv)is-baragraff (5)(b);

(c)yn is-baragraffau (7) ac (8), ar ôl “diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd.

(3Yn Rhan 2 (categorïau)—

(a)ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio’n barhaol; neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(ii)yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(b)ym mharagraff 6(1)(c), (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(i)ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);

(ii)yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(d)ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—

(i)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn lle “a chanddo hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;

(bb)yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;

(cc)yn lle “yn mynd” rhodder “wedi mynd”;

(iv)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.;

(e)ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—

(i)yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn wladolyn o’r UE;

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);;

(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (4), yn lle “os yw’r person hwnnw” rhodder “os oedd y person hwnnw yn preswylio yn Gibraltar neu os yw’r person hwnnw”;

(iv)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(f)ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(ii)yn is-baragraff (d), ar ôl “yn y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(g)yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—

11.(1) Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(h)ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

Diwygiadau i Atodlen 2

8.—(1Mae Atodlen 2 (cyfraniad y myfyriwr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1(1), yn y diffiniad o “incwm trethadwy”—

(a)ym mharagraff (b), yn lle “un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE”;

(b)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)pan fo deddfwriaeth—

(i)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir;

(ii)mwy nag un o Wladwriaethau’r AEE; neu

(iii)un o Wladwriaethau’r AEE a’r Swistir,

yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),.

(3Yn Rhan 2 (cyfrifo cyfraniad)—

(a)ym mharagraff 3(1)(b) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)ym mharagraff 4 (cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys), yn lle “un o Wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE” ym mhob lle y mae’n digwydd.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

9.—(1Mae’r Atodlen i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(iii)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, ar ôl “Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc;” mewnosoder “Gibraltar;”;

(iv)yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi caffael hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(b)yn is-baragraff (3)—

(i)yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;

(ii)yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(iii)yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;

(c)yn is-baragraff (4)(b) ac (c), ar ôl “i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(d)yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

(3Ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio’n barhaol; neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(b)yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”.

(4Ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”.

(5Ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu)—

(a)ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);

(b)yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;

(c)ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(6Ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—

(a)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(b)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;

(c)yn is-baragraff (1)(e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(d)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;

(ii)ym mharagraff (b)—

(aa)yn lle “a’i fod â hawl” rhodder “ac yr oedd ganddo’r hawl”;

(bb)yn lle “yn mynd” rhodder “wedi mynd”;

(e)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

(7Ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—

(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;

(b)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu

(ii)yn wladolyn o’r UE; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(c)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(8Ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(b)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;

(c)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”.

(9Yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), rhodder—

11.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(10Ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

10.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiad i reoliad 2

11.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”.

Diwygiadau i reoliad 15

12.  Yn rheoliad 15 (digwyddiadau)—

(a)ym mharagraff (d), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiad i reoliad 23

13.  Yn lle rheoliad 23(12)(d) (amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw) rhodder—

(d)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i reoliad 30

14.  Yn rheoliad 30(1) (grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli), yn is-baragraff (o)—

(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)yn lle paragraff (iii) rhodder—

(iii)pan fo deddfwriaeth—

(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu

(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,

yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,.

Diwygiad i reoliad 49

15.  Yn lle rheoliad 49(2)(d) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd) rhodder—

(d)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i reoliad 65

16.  Yn rheoliad 65(4) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)yn is-baragraff (d), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle is-baragraff (f) rhodder—

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i reoliad 82

17.  Yn rheoliad 82(4) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)yn is-baragraff (d), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle is-baragraff (f) rhodder—

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i reoliad 95

18.  Yn rheoliad 95(1) (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli), yn is-baragraff (o)—

(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)yn lle paragraff (iii) rhodder—

(iii)pan fo deddfwriaeth—

(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu

(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,

yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,.

Diwygiad i reoliad 111

19.  Yn lle rheoliad 111(2)(d) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd) rhodder—

(d)y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i Atodlen 1

20.—(1Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(b)yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” a “diriogaeth sydd yn ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y maent yn digwydd, ac ar ôl “diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

(3Yn Rhan 2 (categorïau)—

(a)ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)sydd naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol; neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(ii)yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(b)ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(i)ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);

(ii)yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(d)ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

(i)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo hawl” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(bb)yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;

(iv)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.;

(e)ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—

(i)yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn o’r UE;

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);;

(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;

(iv)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(f)ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—

(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(ii)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(g)yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—

11.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(h)ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sydd yn ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

Diwygiadau i Atodlen 4

21.  Yn Atodlen 4 (benthyciadau at ffioedd coleg), paragraff 6—

(a)yn is-baragraff (c), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle is-baragraff (d) rhodder—

(d)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i Atodlen 5

22.—(1Mae Atodlen 5 (asesiad ariannol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), paragraff (n)—

(a)yn is-baragraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)yn lle is-baragraff (iii) rhodder—

(iii)pan fo deddfwriaeth—

(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu

(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,

yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),.

(3Ym mharagraff 2(1)(g) (myfyriwr cymwys annibynnol), o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.

(4Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—

(a)paragraff 4(1)(b) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys);

(b)paragraff 5 (cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant)—

(i)is-baragraff (1)(a);

(ii)is-baragraff (6), ym mhob lle y mae’n digwydd;

(iii)is-baragraff (7).

Diwygiadau i Atodlen 6

23.—(1Mae Atodlen 6 (asesiad ariannol – grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), paragraff (j)—

(a)yn is-baragraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)yn lle is-baragraff (iii) rhodder—

(iii)pan fo deddfwriaeth—

(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu

(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,

yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),.

(3Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—

(a)paragraff 3(1) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys);

(b)paragraff 4 (cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys)—

(i)is-baragraff (1)(a);

(ii)is-baragraff (6), ym mhob lle y mae’n digwydd;

(iii)is-baragraff (7).

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

24.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiad i reoliad 2

25.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”.

Diwygiadau i reoliad 8

26.  Yn rheoliad 8 (digwyddiadau)—

(a)ym mharagraff (d), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i Atodlen 1

27.—(1Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(b)yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(c)yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

(3Yn Rhan 2 (categorïau)—

(a)ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)sydd naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol; neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(ii)yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(b)ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(i)ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);

(ii)yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(d)ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

(i)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(bb)yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;

(iv)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.;

(e)ym mharagraff 9 (gwladolion UE)—

(i)yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn UE;

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);;

(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;

(iv)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(f)ym mharagraff 10 (gwladolion UE)—

(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(ii)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(g)yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—

11.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(h)ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

28.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 80

29.  Yn rheoliad 80(2)(b) (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)ym mharagraff (iii), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle paragraff (iv) rhodder—

(iv)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;.

Diwygiad i reoliad 81

30.  Yn lle rheoliad 81(3)(b)(iii) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd) rhodder—

(iii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;.

Diwygiadau i Atodlen 2

31.—(1Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1(2) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)sydd naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(b)ym mharagraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

(3Ym mharagraff 4 (categori 4 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(b)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(c)yn is-baragraffau (3) a (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.

(4Ym mharagraff 5 (categori 5 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

(a)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(b)yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)yn is-baragraff (3)(c), yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;

(d)yn is-baragraff (4)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “a chanddo hawl” rhodder “ac yr oedd ganddo’r hawl”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “sy’n mynd” rhodder “sydd wedi mynd”;

(e)ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

(5Ym mharagraff 6 (categori 6 – gwladolion UE)—

(a)yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn UE,

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),;

(b)yn is-baragraff (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(e)yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(f)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(6Yn lle paragraff 7 (categori 7 – plant gwladolion Swisaidd) rhodder—

Categori 7 – Plant gwladolion Swisaidd

7.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(7Ym mharagraff 8(1)(c) (categori 8 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

(8Ym mharagraff 9 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—

(a)ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(b)yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

(9Ym mharagraff 11 (dehongli)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(b)yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;.

Diwygiadau i Atodlen 3

32.—(1Mae Atodlen 3 (cyfrifo incwm) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4(1) (myfyrwyr cymwys annibynnol), yn Achos 6, o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.

(3Ym mharagraff 9 (incwm trethadwy)—

(a)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—

(a)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu

(b)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,

yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.

(4Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—

(a)paragraff 11 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys), Didyniad B;

(b)paragraff 15 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys), Didyniad A;

(c)paragraff 18 (trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm), ym mhob lle y mae’n digwydd;

(d)paragraff 19(1) (incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling).

Diwygiadau i Atodlen 5

33.—(1Mae Atodlen 5 (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4(2) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

(a)ym mharagraff (c), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

34.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiad i reoliad 2

35.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”.

Diwygiadau i reoliad 8

36.  Yn rheoliad 8 (digwyddiadau)—

(a)ym mharagraff (d), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 10 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 10(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;.

Diwygiadau i Atodlen 1

37.—(1Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1, paragraff 1 (dehongli)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(b)yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(c)yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

(3Yn Rhan 2 (categorïau)—

(a)ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)sydd naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol; neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;;

(ii)yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(b)ym mharagraff 7(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)ym mharagraff 8 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(i)ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);

(ii)yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(d)ym mharagraff 9 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

(i)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(bb)yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;

(iv)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.;

(e)ym mharagraff 10 (gwladolion UE)—

(i)yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn UE;

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);;

(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;

(iv)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(f)ym mharagraff 11 (gwladolion UE)—

(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(ii)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(iii)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(g)yn lle paragraff 12 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—

12.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(h)ym mharagraff 13(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

38.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 16

39.  Yn rheoliad 16(1)(b) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs)—

(a)ym mharagraff (iii), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 8(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 8(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;

(b)yn lle paragraff (iv) rhodder—

(iv)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;.

Diwygiadau i Atodlen 2

40.—(1Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1(2) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)sydd naill ai—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, neu

(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,;

(b)ym mharagraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

(3Ym mharagraff 6 (categori 6 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(b)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(c)yn is-baragraffau (3) a (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.

(4Ym mharagraff 7 (categori 7 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

(a)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(b)yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)yn is-baragraff (3)(c), yn lle “sydd wedi arfer hawl i breswylio’n barhaol” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol”;

(d)yn is-baragraff (4)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “a chanddo hawl” rhodder “ac yr oedd ganddo’r hawl”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “sy’n mynd” rhodder “sydd wedi mynd”;

(e)ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

(5Ym mharagraff 8 (categori 8 – gwladolion UE)—

(a)yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn UE,

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),;

(b)yn is-baragraff (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(e)yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(f)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(6Yn lle paragraff 9 (categori 9 – plant gwladolion Swisaidd) rhodder—

Categori 9 – Plant gwladolion Swisaidd

9.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(7Ym mharagraff 10(1)(c) (categori 10 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

(8Ym mharagraff 11 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—

(a)ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(b)yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

(9Ym mharagraff 13 (dehongli)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

(b)yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;.

Diwygiadau i Atodlen 3

41.—(1Mae Atodlen 3 (cyfrifo incwm) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4(1) (myfyrwyr cymwys annibynnol), yn Achos 6, o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.

(3Ym mharagraff 9 (incwm trethadwy)—

(a)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—

(a)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu

(b)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,

yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.

(4Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—

(a)paragraff 11 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys), Didyniad B;

(b)paragraff 15 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys), Didyniad A;

(c)paragraff 18 (trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm), ym mhob lle y mae’n digwydd;

(d)paragraff 19(1) (incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling).

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

17 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007,

(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014,

(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015,

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017,

(e)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017,

(f)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr”),

(g)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018, ac

(h)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a luniwyd ar gyfer Brexit “heb gytundeb” ac nad ydynt yn adlewyrchu diwygiadau sy’n ofynnol i weithredu y cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yr AEE a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

Y prif ddiwygiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr yn sicrhau bod y darpariaethau yn parhau i weithredu’n effeithiol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ac maent fel a ganlyn.

Mae rheoliadau 31 ac 32 yn diwygio diffiniadau a chyfeiriadau sy’n ymwneud â’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Undeb Ewropeaidd a ddefnyddir yn Atodlenni 2 a 3 i’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr.

Mae rheoliad 32 hefyd yn diwygio cyfeiriadau at “Aelod-wladwriaeth” yn Atodlen 3.

Mae rheoliad 31(9) yn diwygio’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” ym mharagraff 11 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr. Bydd y diffiniad diwygiedig yn cwmpasu’r rheini y byddai wedi bod ganddynt hawl i breswylio’n barhaol o dan Gyfarwyddeb 2004/38/EC fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ond y bydd ganddynt yn lle hynny, ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yr hawliau hynny o dan y cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, fel y’u gweithredir gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio (y diffinnir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol, “residence scheme immigration rules” yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020).

Mae rheoliad 31(2)(a) yn diwygio paragraff 1(2) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr y byddai wedi bod ganddynt hawl i breswylio’n barhaol o dan Gyfarwyddeb 2004/38/EC ond sydd bellach yn bodloni’r gofynion yn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr ar yr un sail ag fel pe bai ganddynt hawl i breswylio’n barhaol.

Mae rheoliad 31(3)(b) yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 2 i sicrhau y bydd person a fyddai wedi bod yn gymwys i gael cymorth o dan y paragraff hwn cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu. Mae rheoliad 31(5) yn gwneud diwygiadau cyfatebol i baragraff 6 o Atodlen 2 ac mae rheoliad 31(6) yn gwneud diwygiadau cyfatebol i baragraff 7 o Atodlen 2.

Mae rheoliadau 29(a) a 33(2)(a) yn ganlyniadol i reoliad 31(5)(c) ac yn diwygio rheoliad 80 o’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr a pharagraff 4 o Atodlen 5 iddynt yn y drefn honno. Mae rheoliad 80(2)(a)(iii) a pharagraff 4(2)(c) o Atodlen 5 yn darparu y caiff myfyriwr sy’n dod yn aelod o deulu gwladolyn UE yn ystod blwyddyn academaidd gymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno. Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 29 a 33 yn estyn y ddarpariaeth hon i fyfyriwr sy’n dod yn aelod o deulu person sy’n gymwys yn rhinwedd paragraff newydd 6(1A) o Atodlen 2.

Mae rheoliadau 29(b), 30 a 33(2)(b) yn ganlyniadol i reoliad 31(2)(a) ac yn diwygio rheoliadau 80 ac 81 o’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr a pharagraff 4 o Atodlen 2 iddynt. Pan fo’r darpariaethau hynny yn cyfeirio ar hyn o bryd at berson sy’n ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, byddant yn cyfeirio, yn lle hynny, at fyfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2.

Mae rheoliad 31(4) yn gwneud diwygiadau i baragraff 5 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr i adlewyrchu’r ffaith na fydd gan Gyfarwyddeb 2004/38/EC rym yn y Deyrnas Unedig mwyach ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014.

Mae rheoliad 9 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015.

Mae rheoliadau 10 i 23 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.

Mae rheoliadau 24 i 27 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017.

Mae rheoliadau 34 i 37 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018.

Mae rheoliadau 38 i 41 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238, Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1181 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o Ddeddf 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) o Ddeddf 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae swyddogaethau o dan is-adran (2)(a), (c) a (k) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: